Ein cyn-fyfyrwyr Cymraeg
Owen Hathway - Chwaraeon Cymru
Cyfarwyddwr Cynorthwyol Dirnadaeth, Polisi a Materion Cyhoeddus, Chwaraeon Cymru
Mae enw da adran gwleidyddiaeth ryngwladol Prifysgol Aberystwyth yn ennyn parch yn rhyngwladol. Roeddwn i'n awyddus iawn i gael y cyfle i astudio o dan ddarlithwyr o’r radd flaenaf a oedd yn feddylwyr blaenllaw yn eu meysydd. Y tu hwnt i hyn, roedd y brifysgol a'r dref ei hun yn apelio'n fawr. Er bod gan yr adran gymaint o rinweddau a oedd yn fy nenu i astudio yno, roedd gen i deimlad y byddai’r profiad cyfan o fod yn Aberystwyth yn un arbennig, ac roeddwn i eisiau bod yn rhan o hynny.
Roeddwn wrth fy modd yn astudio yn Aberystwyth a bod yn rhan o'r adran gwleidyddiaeth ryngwladol. Yr unig beth dwi’n ei ddifaru wrth edrych yn ôl nawr yw na wnes i fanteisio'n llawn ar yr holl gyfleoedd, ac na wnes i fynd amdani hyd yn oed yn fwy nag y gwnes i! Serch hynny, wrth adael Aberystwyth roedd gen i ymdeimlad o gyflawniad, byd-olwg wahanol a sgiliau ymarferol a fyddai’n gymorth mawr i fi yn fy ngyrfa yn y dyfodol. Mi wnes i ffrindiau oes yno, gan hefyd ddod ar draws sawl safbwynt heriol a brofodd pwy oeddwn i a phwy fyddwn i yn y dyfodol. Mi wnaeth fy help i sefydlu’r rhwydweithiau dwi’n ymgysylltu â nhw hyd heddiw ym myd gwleidyddiaeth a pholisi ledled Cymru. Hefyd, mi wnaeth y profiad gadarnhau fy nghariad at yr iaith Gymraeg, a daeth yr elfen hon yn rhan annatod o'm bywyd bob dydd. Do, mi lwyddais i gael gradd, ond mi ges i lawer mwy na hynny mewn gwirionedd, wrth i mi ddod i adnabod fy hun a phwy roeddwn i eisiau bod.
Mi wnes i adael Aberystwyth gydag ymdeimlad o fod eisiau defnyddio fy ngradd, a dechreuais weithio ym myd gwleidyddiaeth Cymru. Treuliais 7 mlynedd yn y byd gwleidyddiaeth, gyda’r gwaith yn cynnwys cefnogi Llywodraeth Cymru yn ystod cyfnod clymblaid. Fodd bynnag, dros amser dwi wedi darganfod a phenderfynu bod y sgiliau meddwl yn feirniadol a ddysgais yn Aberystwyth yn gweddu mwy i feithrin cysylltiadau ar draws rhaniadau gwleidyddol. Dwi wedi treulio amser yn y sector addysg, ac erbyn hyn dwi’n gweithio i Chwaraeon Cymru fel Cyfarwyddwr Cynorthwyol Dirnadaeth, Polisi a Materion Cyhoeddus. Dwi wrth fy modd gyda’m dewisiadau gyrfa, ac mae'n dda cael defnyddio'r strategaethau datblygu polisi a datrys problemau a ddysgais fel rhan o'm cwrs gradd er mwyn helpu i siapio cyfraniad chwaraeon at greu Cymru iachach a mwy ffyniannus.
Arwyn Jones - Senedd Cymru
Cyfarwyddwr Cyfathrebu ac Ymgysylltu, Senedd Cymru
Hap a damwain oedd i mi astudio Gwleidyddiaeth yn Aberystwyth. Pan ymwelais â Phrifysgol Aberystwyth am y tro cyntaf, roeddwn i wedi penderfynu astudio'r Gyfraith. Fodd bynnag, pan welais amrywiaeth y cyrsiau a oedd ar gael yn yr Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol, a natur gyfeillgar yr adran a'i staff, mi wnes i newid fy meddwl a phenderfynu dilyn cwrs gradd mewn Gwleidyddiaeth. Heb os, dyna yw un o'r penderfyniadau pwysicaf dwi wedi’i wneud erioed!
Ar ôl treulio pedair blynedd yn Aberystwyth, mi fues i’n gweithio i elusen cyn dechrau gweithio fel ymchwilydd i'r BBC. Roedd yr hyn ddysgais i yn ystod fy nghyfnod yn Aberystwyth yn allweddol i mi gael y swydd hon, ac mae’r holl wybodaeth ddysgais i am Wleidyddiaeth Cymru, Prydain ac yn Rhyngwladol wedi bod yn hanfodol bwysig byth ers hynny.
Ar lefel ymarferol, dysgais lawer iawn am y Cynulliad Cenedlaethol, a oedd yn hynod bwysig pan oeddwn i’n gweithio i S4C2, a oedd yn gyfrifol am ddarlledu llawer o bwyllgorau a thrafodion y Cynulliad.
Pan ges i swydd fel gohebydd gwleidyddol gyda’r BBC, roedd y gallu i osod digwyddiadau yn eu cyd-destun hanesyddol yn elfen bwysig o’r swydd. Diolch i'r rhaglen radd yn Aberystwyth mae gen i'r hyder a'r gallu i wneud hynny. Erbyn hyn, fi yw Gohebydd Addysg BBC Cymru yn ystod ymgyrch etholiad cyffredinol, ac mae fy ngradd mewn gwleidyddiaeth yn fwy defnyddiol nag erioed!! Dwi’n diolch bob dydd am y penderfyniad wnes i yn ystod fy ymweliad cyntaf â Phrifysgol Aberystwyth!
Gwyn Loader - Newyddion S4C
Prif Ohebydd Newyddion S4C
Ar ôl ymweld ar ddiwrnod agored, doedd dim amheuaeth gen i mai yn Aber oeddwn i am dreulio tair blynedd o fy mywyd a cheisio ennill gradd. Croeso, Cymreictod a chymdeithasu brwd oedd yr addewid a’r abwyd-a chefais i ddim fy siomi yn fy nghyfnod yn y Coleg ger y lli. Fel yr adran hynaf o’i math yn y byd oedd yn cynnig addysg o’r safon uchaf a’r cyfle i astudio’n helaeth drwy gyfrwng y Gymraeg, mwynheais ddilyn amrywiaeth o fodiwlau yn ystod fy nghwrs gradd. Does dim dwywaith gen i fod y darlithoedd a’r trafodaethau mewn amrywiol seminarau wedi rhoi sylfaen bwysig i fi wrth fynd ati i ddatblygu gyrfa mewn newyddiaduraeth. Rwy’n ffodus o fod wedi gallu gohebu yn helaeth ar newyddion a materion cyfoes ar draws y byd-o etholiadau yng Nghymru, Ffrainc a’r Unol Daleithiau i anrhefn sifil yn Hong Kong a’r Aifft a rhyfeloedd yn Irac, Afghanistan ac Wcrain, mae astudio yn Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol Prifysgol Aberystwyth wedi bod yn gymorth mawr i fi allu deall a dehongli materion rhyngwladol dyrys yn fy ngwaith gydag ITV Cymru a’r BBC dros y blynyddoedd diwethaf.
Aled Morgan Hughes - Undeb Amaethwyr Cymru
Pennaeth Cyfathrebu, Undeb Amaethwyr Cymru
Does dim dwywaith i’r sgiliau a’r profiadau enillais drwy astudio Hanes a Gwleidyddiaeth Ryngwladol ym Mhrifysgol Aberystwyth fod o fudd sylweddol wrth ddatblygu fy nghymeriad a chyfleoedd gyrfa. Roedd astudio trwy gyfrwng y Gymraeg yn hwb enfawr - gan fy ngalluogi i fagu perthynas agos a chyfeillgar gyda’r staff a chyd-fyfyrwyr.
Yn ogystal â’r addysg academaidd heb ei ail, llwyddais hefyd i elwa ar nifer o brofiadau buddiol, gan gynnwys Gemau Argyfwng enwog yr Adran Wleidyddiaeth Ryngwladol, yn ogystal â chyfnodau o brofiad gwaith gyda busnesau lleol a gwleidyddion amrywiol - a helpodd fireinio sgiliau sydd bellach yn ddefnyddiol yn fy ngwaith bob dydd. Elwais yn fawr hefyd o’r gymdeithas Gymraeg agos a bywiog yn y brifysgol a’r dref, a’r cyfleoedd niferus sy’n deillio o UMCA a chymdeithasau tebyg.
Jacob Ellis - Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru
Cyfarwyddwr Cysylltiadau Allanol a Diwylliant, Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru
Roedd astudio yn Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol Aberystwyth yn brofiad arbennig i mi. Cefais fy nenu at yr adran oherwydd ei henw da fel un o’r goreuon yn y byd mewn gwleidyddiaeth ryngwladol, ond hefyd oherwydd y cyfle i astudio trwy gyfrwng y Gymraeg. Mae’r cyfuniad o sylfaen academaidd gref a’r gwerthoedd sydd wedi’u gwreiddio yn niwylliant Aber—cymuned, undod, a chyfiawnder cymdeithasol—wedi llywio fy newisiadau gyrfa a’r ffordd rydw i’n ymdrin â’m gwaith heddiw.
Rhoddodd fy amser yn Aberystwyth sylfaen gadarn i mi mewn datganoli, materion cyhoeddus, eiriolaeth polisi, strategaeth, diplomyddiaeth, a chyfathrebu—sgiliau sydd wedi bod yn ganolog i bob rôl rwyf wedi’i chyflawni. Ar ôl dechrau fy ngyrfa fel newyddiadurwr gyda BBC Newyddion, symudais i faes polisi, eiriolaeth ac ymgysylltu rhyngwladol.
Rwyf bellach yn gwasanaethu fel Cyfarwyddwr Cysylltiadau Allanol a Diwylliant yn Swyddfa Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru, gan arwain ar bartneriaethau gyda’r Cenhedloedd Unedig, polisi diwylliannol, ac eiriolaeth gwleidyddol.
Mae’r persbectif rhyngwladol a ddatblygais yn Aber, ynghyd â’m hymrwymiad i’r iaith Gymraeg a diwylliant Cymru, wedi fy ngalluogi i weithio ar draws sefydliadau cenedlaethol a rhyngwladol. Fel Cymrawd Cenhedlaeth Nesaf Sefydliad y Cenhedloedd Unedig ar gyfer Cenedlaethau’r Dyfodol a Chymrawd Rhagolwg Ieuenctid UNICEF, rwyf wedi cynghori uwch swyddogion y Cenhedloedd Unedig, diplomyddion, ac aelod-wladwriaethau, gan gyfrannu’n fwyaf diweddar at fabwysiadu Datganiad y Cenhedloedd Unedig ar Genedlaethau’r Dyfodol yn llwyddiannus. Rwyf hefyd yn cyd-arwain clymblaid fyd-eang aml-randdeiliaid ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol, gan ymgyrchu dros feddwl hirdymor wrth wneud penderfyniadau. Yn nes adref, rwyf wedi gweithio mewn rolau arwain ar draws sefydliadau diwylliannol Cymreig, gan gynnwys Theatr Genedlaethol Cymru, Llenyddiaeth Cymru, a Scouts Cymru.
Drwy gydol hyn oll, mae dylanwad Aberystwyth wedi aros gyda mi—nid yn unig o ran y sylfaen academaidd a ddarparodd, ond yn y gwerthoedd a feithrinwyd ganddi: ymagwedd sy’n canolbwyntio ar bobl, gwerthfawrogiad dwfn o ddiwylliant ac iaith, a chred yng ngrym cymuned. Rwy'n parhau i fod yn hynod ddiolchgar am fy amser yno.
Siân Stephen - Disasters Emergency Committee yng Nghymru
Rheolwr Materion Allanol, Disasters Emergency Committee yng Nghymru (DEC Cymru)
Dewisais i'r Adran Wleidyddiaeth Ryngwladol yn Aberystwyth oherwydd ei enw da. Roedd gwybod y byddai modd i mi wneud modiwlau a seminarau drwy gyfrwng yn Gymraeg yn ffactor bwysig hefyd... heb sôn am gael byw mewn tref mor brydferth ag Aberystwyth.
Fe gefais i brofiad arbennig yn yr adran. Roedd ystod mor eang o fodiwlau ar gael - yr her fwyaf bob mis Medi oedd dethol pa rai i’w dilyn - roedd awydd gen i astudio popeth! Ro’n i’n mwynhau’r seminarau hefyd - y rhai Saesneg am fod yna gyfle i gymysgu gydag ystod eang o bobl o wahanol gefndiroedd, a’r rhai Cymraeg oherwydd ein bod ni mewn grwpiau llai, yn cael trafodaethau dwys a’n herio. Y gorau o’r ddau fyd debyg.
O ran fy ngyrfa.. rhyw lwybr digon troellog fu hynny hyd yma dwi’n onest! Dilyn fy niddordebau wnes i a dethol beth bynnag (a ble bynnag) oedd yn teimlo yn bwysig imi ar y pryd. Cefais gyfleoedd cychwynnol arbennig diolch i’r adran - profiad gwaith dros un haf gyda Aelod Seneddol yn San Steffan, a blwyddyn yn y Senedd Ewropeaidd fel “stagiaire” i Eluned Morgan oedd yn ASE. Sbardunodd y profiad mewn sefydliad amlieithog fi i ddysgu Sbaeneg, a trodd cwrs iaith deufis yn Guatemala i mewn i 8 mlynedd yn America Ladin cyn dychwelyd i Gymru.
Mae gweithio mewn sefydliadau llai yn aml yn galw am barodrwydd i dorchi llewys a chynorthwyo lle bo angen - dros y blynyddoedd dwi wedi ffocysu ar gyfathrebu, codi arian, cydlynu prosiectau a chyllido. Wrth edrych yn ôl dwi’n credu imi hefyd gael budd mawr o waith ymgyrchu ....er na wnaeth hynny groesi fy meddwl ar y pryd! Yn ffodus, mae fy swydd gyfredol yn gofyn am ‘bach o bopeth’ yn hytrach nag arbenigedd benodol... a dwi wrth fy modd yn cael ffocysu unwaith eto ar faterion rhyngwladol - mae’r sgiliau i gyd yn cydblethu yn ddiwedd!