William Wohlforth 'Subversion as Statecraft: Russia and the United States’

Darlith Gyhoeddus: 'Subversion as Statecraft: Russia and the United States’

Yr Athro William Wohlforth fydd yn traddodi Darlith Goffa flynyddol EH Carr ym Mhrifysgol Aberystwyth, ddydd Iau 3 Hydref 2019, yn rhan o Gyfres Siaradwyr Canmlwyddiant yr Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol.

Bydd ei ddarlith, 'Subversion as Statecraft: Russia and the United States’ yn canolbwyntio ar yr hyn sydd wedi cael cryn dipyn o sylw yn y cyfryngau yn ddiweddar, sef tanseilio'r berthynas rhwng pwerau mawrion. Bydd yr Athro Wohlfoth yn rhoi sylw penodol i'r berthynas rhwng Rwsia ac Unol Daleithiau America, pwnc y mae ef yn awdurdod byd-enwog arno.

Yr Athro Wohlfoth yw Athro Daniel Webster mewn Llywodraeth yng Ngholeg Dartmouth, New Hampshire, UDA, sy'n un o golegau'r Ivy League. Cyn symud i Dartmouth bu'n dysgu ym mhrifysgolion Princeton a Georgetown. Mae'n un o'r awduron mwyaf amlwg ar Wleidyddiaeth Ryngwladol yn yr Unol Daleithiau, ac yn ei waith mae'n llwyddo i gysylltu'r byd academaidd a byd llunio polisïau.

Cynhelir darlith William Wohlforth, ‘Subversion as Statecraft’, ym Mhrif Neuadd yr Adeilad Gwleidyddiaeth Ryngwladol am 6pm, nos Iau 3 Hydref 2019.  Ceir mynediad am ddim ac mae croeso cynnes i unrhyw un sy'n dymuno dod.

Mae gwybodaeth bellach i’w chael yn y datganiad newyddion ynghlwm neu cliciwch arlein: https://www.aber.ac.uk/cy/news/archive/2019/09/title-226043-cy.html