Yr Athro Cynthia Enloe: ‘Wounds: A Feminist Understanding of Intimacy and War’.
Yn ail ddigwyddiad ein Cyfres Siaradwyr Canmlwyddiant, cyflwynodd yr Athro Cynthia Enloe o Brifysgol Clark ddarlith 'Wounds: A Feminist Understanding of Intimacy and War'.
Mae'r Athro Enloe wedi bod yn hynod ddylanwadol wrth sefydlu rhywedd yn rhan o ddadansoddi Cysylltiadau Rhyngwladol, gan lywio’r maes gyda nifer o lyfrau gan gynnwys Bananas, Beaches and Bases: Making Feminist Sense of International Politics.
Roedd darlith yr Athro Enloe yn ddiddorol iawn, gan ofyn pam fod y gair ‘clwyf’ yn absenol o ddogfennau strategol a milwrol â’r rhesymau am hyn. Esboniodd Enloe y rolau rhywedd gwahanol y mae nyrsys (ac eraill) yn mabwysiadu yn ystod cyfnod o ryfel. Eglurodd Enloe trwy ymgysylltu â straeon a phrofiadau pobl sydd wedi'u hymyleiddio (fel menywod yn ystod rhyfel), gallwn wella ein dealltwriaeth o ddigwyddiadau. Dadl yr Athro Enloe oedd bod nyrsys yn ‘glanhau’ rhyfel trwy drin clwyfau yn gorfforol ac yn emosiynol, gan feddiannu rôl benywaidd i wneud hynny.
Roedd y ddarlith yn debyg i sgwrs, gyda chyfranogiad sylweddol gan y gynulleidfa.