AberTB – llwyfan newydd ar gyfer cydweithio yn y frwydr yn erbyn TB gwartheg

18 Medi 2019

Mae’r Ganolfan Ragoriaeth TB Gwartheg ym Mhrifysgol Aberystwyth yn agor ei chynhadledd AberTB gyntaf heddiw, dydd Mawrth 17 Medi 2019, gan addo y daw’r digwyddiad blynyddol yn llwyfan newydd ar gyfer cydweithio yn y frwydr yn erbyn TB gwartheg.

Mae’r digwyddiad undydd eleni yn canolbwyntio ar “Diagnosis TB gwartheg: ymarfer cyfredol a datblygiadau’r dyfodol”, ac yn cael ei gynnal yn adeilad MedRus, ar gampws Penglais Prifysgol Aberystwyth.

Mae’r gynhadledd wedi’i threfnu gan Ganolfan Ragoriaeth TB Gwartheg sy’n cael ei datblygu ar hyn o bryd gan Brifysgol Aberystwyth.

Mae’r Ganolfan wedi derbyn cefnogaeth Sêr Cymru II, rhaglen a sefydlwyd er mwyn ehangu a datblygu arbenigedd ymchwil yng Nghymru. Caiff y rhaglen ei hariannu gan Lywodraeth Cymru, Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru, Sefydliadau Addysg Uwch yng Nghymru a’r Gronfa Ddatblygu Ranbarthol Ewropeaidd.

Mae AberTB 2019 yn cael ei chynnal mewn partneriaeth â Menter a Busnes a Iechyd Da, ynghyd â Chanolfan Milfeddygaeth Cymru a Chanolfan a Labordai Milfeddygol1 sydd wedi cydweithio’n agos â’r Ganolfan Ragoriaeth er mwyn hwyluso trefniadau’r digwyddiad.

Meddai Pennaeth y Ganolfan Ragoriaeth TB Gwartheg ym Mhrifysgol Aberystwyth, yr Athro Glyn Hewinson: “Mae’n bleser mawr i mi groesawu pobl i Aberystwyth ar gyfer ein cynhadledd AberTB gyntaf.  Mae’n fwriad gen i sicrhau y daw AberTB yn gynhadledd flynyddol ac yn llwyfan newydd a fydd yn hybu ein cydymdrechion i frwydro yn erbyn TB mewn gwartheg.

“Mae digwyddiad eleni yn canolbwyntio ar ddiagnosis TB mewn gwartheg – sef maes sy’n gwbl allweddol i rwystro’r clefyd rhag lledaenu.  Fodd bynnag, fe fyddwn yn asesu ffocws mwyaf defnyddiol i gynadleddau’r dyfodol mewn ymateb i’r adborth a geir gan y rheini sy’n benderfynol o gael gwared â TB mewn gwartheg.”

Mi fydd AberTB 2019 yn cynnwys areithiau allweddol a phaneli trafod gyda ffigyrau amlwg ym meysydd iechyd anifeiliaid a gwyddoniaeth filfeddygol, ymchwil, llywodraeth ac amaeth. Yn ystod y dydd, mi fydd y gynhadledd yn clywed anerchiad allweddol gan Brif Swyddog Milfeddygol Cymru, yr Athro Christianne Glossop.

Meddai’r Athro Chistianne Glossop: “Mae adnabod achosion o’r haint yn gynnar ac yn gywir yn un o gonglfeini ein rhaglen gwaredu TB, ac rwyf wrth fy modd bod y gynhadledd AberTB gyntaf hon yn canolbwyntio ar yr agwedd bwysig hon o’n siwrne tuag at Gymru heb TB.  Mae sefydlu Canolfan Ragoriaeth TB gwartheg ym Mhrifysgol Aberystwyth â chefnogaeth rhaglen Sêr Cymru, yn gosod Cymru ar flaen y gad ym maes diagnosis TB ac edrychaf ymlaen at glywed gan y goreuon yn y gynhadledd, ac at sicrhau bod y dechnoleg ddiweddara yn cael ei chynnwys yn ein rhaglen.”

Meddai Is-Ganghellor Prifysgol Aberystwyth, Yr Athro Elizabeth Treasure, a fydd hefyd yn annerch AberTB: “Mae ein Canolfan Ragoriaeth TB gwartheg yn ddatblygiad newydd pwysig a fydd yn chwarae rôl gynyddol arwyddocaol mewn ymdrechion lleol a chenedlaethol i atal y clefyd.  Mi fydd menter AberTB yn fforwm parhaol a fydd yn sicrhau bod gwaith y Ganolfan yn cael ei rannu, gan greu canolbwynt ar gyfer cydweithio yn y maes allweddol-bwysig hwn am flynyddoedd i ddod.”