Prifysgol Aberystwyth yn y Sioe Fawr
Mae'r Brifysgol yn cynnig rhaglen lawn o weithgareddau ar ei dwy stondin ar faes y sioe - y Pafiliwn Addysg ger y Prif Gylch, a Phabell Athrofa’r Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig (IBERS) yn ardal Gofal Cefn Gwlad.
20 Gorffennaf 2018
Mae Prifysgol Aberystwyth yn edrych ymlaen at groesawu ymwelwyr i Sioe Frenhinol Cymru yn Llanelwedd yr wythnos nesaf (23-26 Gorffennaf, 2018) gyda rhaglen o weithgareddau a digwyddiadau llawn.
Mae gan y Brifysgol ddwy stondin ar faes y sioe - y Pafiliwn Addysg ger y Prif Gylch, a Phabell Athrofa’r Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig (IBERS) yn ardal Gofal Cefn Gwlad.
Ymhlith yr hyn fydd i’w weld yn y Pafiliwn Addysg (G446) bydd ‘Idris’, sef cwch ymchwil IBERS sy’n cael ei ddefnyddio gan fyfyrwyr bioleg morol i astudio dyfroedd Bae Ceredigion.
Bydd darlithwyr Daearyddiaeth yn dangos Blwch Tywod Realiti Estynedig sydd yn taflunio cyfuchliniau a drychiad mewn amser real wrth i chi addasu'r tirlun; ac Afon Fach sydd yn galluogi ymwelwyr i weld grym sustemau afonydd gyda'r model afon ffisegol hwn.
Mae digwyddiadau yn ystod yr wythnos hefyd yn cynnwys arddangosfa o ymchwil sydd yn berthnasol i ddiwydiant.
Caiff 'Arloesi ar gyfer Brexit', sy'n cynnwys y Rhaglen Bwydydd y Dyfodol newydd, ei gynnal am 3:30 brynhawn dydd Llun 24 Gorffennaf. Eisoes mae pob tocyn wedi mynd ar gyfer y digwyddiad hwn.
Cynhelir aduniad blynyddol poblogaidd Cymdeithas y Cyn-fyfyrwyr am 11:30 fore Mawrth 24 Gorffennaf gyda'r arbenigwr ar gyndau GM, yr Athro Huw Dylan Jones.
Dilynir hyn am 1:30 brynhawn Mawrth gan sesiynau NRN-LCEE Sêr Cymru ar 'Adeiladu'r Dyfodol gyda Phlanhigion'.
Cynhelir darlith olaf yr wythnos, 'Cam yn ôl o’r dibyn - dyfodol glaswelltiroedd Cymru', yn y Pafiliwn Addysg am 1:00 ddydd Mercher 26 Gorffennaf.
Hefyd yn y Pafiliwn Addysg, bydd gwyddonwyr IBERS yn arddangos ystod eang o barasitiaid mewn jariau, yn esbonio sut mae myfyrwyr Aberystwyth yn dysgu am y bygythiad yma i amaethyddiaeth yng Nghymru a ledled y byd, a sut mae IBERS yn gweithio gyda'r diwydiant i'w rheoli, gan adrodd ambell stori ddiddorol am sut y cawsant eu rhoi mewn poteli.
Bydd cyfle hefyd i drin ymenyddiau go iawn, a dyfalu i ba anifeiliaid yr oeddent yn perthyn - pob un yn ddiogel mewn bocs wrth gwrs.
Ac os yw hyn wedi achosi i’r galon gyflymu, beth am daro draw i weld gwyddonwyr Gwyddor Chwaraeon IBERS a fydd yn gallu profi eich pwysedd gwaed yn y fan a’r lle, ynghyd â phrofion eraill yn rhad ac am ddim ar gryfder gafael, cryfder y goes, uchder neidio ac iechyd yr ysgyfaint.
Porthiant y Dyfodol fydd thema arddangosfa IBERS Prifysgol Aberystwyth yn yr Ardal Gofal Cefn Gwlad (CCA767).
Bydd rhai o borfeydd a meillion arobryn yr Athrofa i’w gweld ac arbenigwyr bridio planhigion wrth law i drafod sut mae mathau newydd yn cael eu datblygu sy'n addas ar gyfer y dyfodol a newid yn yr hinsawdd.
Bydd cyfle hefyd i ddysgu am y rhaglen ddysgu o bell newydd a ariennir gan Lywodraeth Cymru, BioArloesi Cymru.
Mae’r rhaglen yn rhan o fenter £7.3m a gefnogir gan yr UE a gyhoeddwyd gan Lesley Griffiths, Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig, ddydd Iau 19 Gorffennaf 2018, mae BioArloesi Cymru yn sicrhau bod gwyddoniaeth IBERS yn hygyrch i fwy o fusnesau bwyd ac amaeth yng Nghymru, ac yn cryfhau sgiliau'r gweithlu.
Bydd gwaith ein Canolfan Ffenomeg Planhigion Genedlaethol ar sustemau gwreiddiau a'u pwysigrwydd cynyddol ar gyfer amaethyddiaeth i’w gweld yno hefyd. Mae’r ganolfan yn cael ei hariannu gan y BBSRC.