Consortiwm rhyngwladol i ddatblygu prawf am y TB buchol
Dr Luis Mur, ar y dde, sy'n arwain y tîm yn IBERS, Prifysgol Aberystwyth, gyda’r myfyriwr PhD Richard Pizzey, sydd wedi cymhwyso fel milfeddyg.
20 Gorffennaf 2018
Mae gwyddonwyr yn Athrofa'r Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig ym Mhrifysgol Aberystwyth yn arwain consortiwm rhyngwladol newydd a sefydlwyd i ddatblygu prawf newydd am y diciâu mewn gwartheg - twbercwlosis buchol.
Bydd y consortiwm yn datblygu prawf diagnosis yn y maes, sydd yn ddibynadwy iawn a chyflym, gyda sustem integredig a diogel a gynhelir yn y Cwmwl, er mwyn canfod a rheoli'r diciâu mewn gwartheg.
Partneriaid eraill y consortiwm yw Coleg y Brifysgol, Dulyn, a phedwar cwmni sy'n gweithio yn y gwyddorau bywyd ym Mhrydain, sef Dynamic Extractions, Sona nanotech, ProTEM, a Bond Digital Health Solutions.
Dywedodd yr Athro Mike Gooding, Cyfarwyddwr IBERS: “Mae'r diciâu mewn gwartheg yn gallu effeithio'n enbyd ar gymunedau cefn gwlad, yn economaidd ac yn emosiynol, a dyna pam mae angen dull mwy cywir a dibynadwy o brofi am y salwch, a hynny ar frys. Gallai ein gwaith ni drawsnewid y sefyllfa drwy ganfod y diciâu'n fwy effeithlon.
"Mae pob aelod o'r consortiwm hwn yn gweithio ar ddarn gwahanol o'r pos, yn cynnig ei arbenigedd unigryw ei hun a'i wyddoniaeth neu ei dechnoleg arloesol ei hun. Drwy roi'r holl ddarnau hyn at ei gilydd fe gawn ni ateb effeithiol ac ymarferol i'r broblem hon."
Clefyd heintus yw'r twbercwlosis buchol ac mae'n effeithio ar wartheg a mamaliaid eraill bedwar ban byd.
Mae degau o filoedd o wartheg yn cael eu difa bob blwyddyn oherwydd y clefyd hwn yng ngwledydd Prydain, ac mae hynny'n golygu colled economaidd anferth i'r gymuned ffermio a'r trethdalwyr.
Mae llywodraethau wedi ceisio atal yr haint rhag lledaenu drwy ladd anifeiliaid gwyllt, sef moch daear yn bennaf, ac mae hynny wedi bod yn ddadleuol iawn.
Mae llunwyr polisi hefyd yn gweithio tuag at gael gwared ar y diciâu drwy drefn drwyadl o brofion, ond nid yw'r profion a ddefnyddir yn cyffredin yn gallu dod o hyd i bob un fuwch a heintir o fewn y fuches.
O ganlyniad, os yw canlyniadau'r prawf yn bositif, mae'n rhaid cadw buchesi gwartheg dan gwarantin a'u hailbrofi ar ôl 60 diwrnod. Mae hynny'n peri cost anferth i'r ffermwyr, yn economaidd ac yn emosiynol, ac mae'n effeithio ar eu cynllunio hirdymor.
Dywedodd y Dr Christianne Glossop, Prif Swyddog Milfeddygol Cymru: "Mae gennym ddiddordeb brwd yn yr holl waith i ddatblygu profion newydd am y diciâu, ac rydym yn croesawu dulliau arloesol o ddatrys y broblem. Mae'r posibiliadau am ddefnyddio prawf wedi'i ddilysu a ddatblygir gan y consortiwm hwn yn gyffrous, ddim yn unig o safbwynt Rhaglen Dileu TB Cymru, a'r posibiliad o gael statws OTF yn gynt, ond hefyd y posibiliadau byd-eang, o ran TB buchol a TB dynol fel ei gilydd. Gallai llwyddiant y prosiect hwn godi proffil Cymru ar lwyfan y byd."
Bydd y consortiwm yn cydweithio i ddatblygu prawf newydd a chost-effeithiol am y TB buchol a fydd yn ddibynadwy a chyflym er mwyn gallu monitro da byw ar ffermydd, anifeiliaid gwyllt brodorol, cynnyrch ffermydd a'r amgylchedd.
Bydd y data a geir o'r profiad yn cael eu crynhoi ar gronfeydd data, a bydd hynny'n arwain at fonitro epidemioleg yn fwy cywir yn ogystal â datblygu strategaeth salwch ar sail gwybodaeth.