Gwyddonwyr IBERS i arddangos eu gwaith yn Aberaeron fel rhan o Ddiwrnod Chwilfrydedd mewn Planhigion

22 Mai 2017

Bydd gwyddonwyr o Athrofa’r Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig ym Mhrifysgol Aberystwyth yng Nghŵl Gardd a Chrefft Aberaeron 2017 ar 28 a 29 Mai ac yn arddangos eu gwaith.

Bydd cyfle i ymwelwyr i wylio planhigion yn tyfu gan ddefnyddio camera wedi ei osod ar gyfrifiadur Raspberry Pi sydd wedi ei gynllunio i fonitro twf planhigion.

Bydd cyfle hefyd i astudio gwreiddiau glaswellt, meillion a gwenith sydd wedi cael eu tyfu mewn cynhwysyddion tryloyw, ac i ddefnyddio microsgopau i ddatgelu cyfrinachau o blanhigion gwrych.

Ac ar gyfer y rhai mwy artistig bydd cyfle i wneud doliau pen porfa gan ddefnyddio glaswelltau a fridiwyd ym Mhrifysgol Aberystwyth.

Mae’r digwyddiad yn rhan o Ddiwrnod Rhyngwladol Chwilfrydedd mewn Planhigion.

Bellach yn ei bedwaredd flwyddyn, mae Diwrnod Chwilfrydedd mewn Planhigion yn fenter ryngwladol sy’n cael ei arwain gan Sefydliad Gwyddor Planhigion Ewrop (EPSO).

Dywedodd y trefnydd a’r gwyddonydd planhigion o IBERS, Dr Fiona Corke: "Mae planhigion o ddiddordeb mawr i mi, maent yn sail ein holl fwyd a'r ocsigen rydym yn ei anadlu, ac mae rhai ohonynt wedi bod o gwmpas ers cyn y dinosoriaid."

Mae Gŵyl Gardd a Chrefft Ceredigion yn ddigwyddiad blynyddol sy'n addas i deuluoedd ac yn cynnwys mwy na 70 o stondinau gyda phlanhigion ar werth yn ogystal ag ystod eang o weithgareddau, crefftau, bwyd, cerddoriaeth a adloniant ar gyfer pob oed.

Trefnir y digwyddiad gan Gymdeithas Tyfwyr Ceredigion a’r Cyffiniau a chaiff ei chynnal ar Gae Sgwâr Alban, Aberaeron ac mae ar agor rhwng 10 y bore a 5 y prynhawn. Mynediad am ddim.