Bwydo ein Byd - gŵyl ffilmiau wahanol
30 Mawrth 2017
Yn dilyn cyffro seremoni’r Oscars yn ddiweddar mae Flavia Occhibove, myfyrwraig doethuriaeth yn IBERS wedi trefnu ei gŵyl ffilm eu hunan gyda'r pwyslais ar y materion amgylcheddol sy'n wynebu ein byd heddiw.
Gan gychwyn ddechrau Mawrth, mae pedair ffilm ar ol i’w dangos yn ystod pedwar digwyddiad yng Ngŵyl Ffilmiau Delle Terre: Bwydo ein Byd, gyda mynychwyr yn cael y cyfle i wylio rhaglenni dogfen craff, a dadlau gyda phanel o arbenigwyr am bynciau megis hawliau dynol, cynaliadwyedd economaidd ac amgylcheddol a hawliau tir.
Dywedodd Flavia "Mae'r ŵyl wedi bod yn bosib diolch i grant gan yr Ysgol i Raddedigion a'r holl themâu trafod yn berthnasol i ymchwil gyfredol ym Mhrifysgol Aberystwyth.
Nod yr ŵyl ffilm yw casglu pobl o wahanol gefndiroedd at ei gilydd, codi ymwybyddiaeth, ystyried mentrau newydd, a rhoi hwb i gydweithrediad rhwng ymchwilwyr mewn gwahanol ddisgyblaethau i edrych ar y themâu o wahanol safbwyntiau. "
Graddiodd Flavia yn wreiddiol yn Pisa, gwnaeth ei gradd Meistr yng Nghaeredin ac mae bellach yn astudio ar gyfer ei doethuriaeth gyda Athrofa’r Gwyddorau Biolegol Amgylcheddol a Gwledig (IBERS) yn Aberystwyth ar y berthynas rhwng bioamrywiaeth a throsglwyddo clefyd mewn cymunedau cnofilod gwyllt coetiroedd Cymru.
"Rwyf wrth fy modd gyda’r ystod o brosiectau a rhyddid ymchwil yn IBERS sydd yn amlddisgyblaethol ac yn ddiddorol. Mae'r Brifysgol wedi annog yn gyson ac yn cefnogi fy nghydweithwyr a minnau i ddatblygu ein syniadau mewn ffyrdd creadigol megis yr ŵyl ffilm hon, ac rwy'n gobeithio y bydd yn cynnig persbectif newydd a llawer o bwyntiau trafod i bobl. "
Cynhelir gweddill y digwyddiadau dros y misoedd nesaf, gyda’r dangosiadau yn cael eu cynnal yn B22 Adeilad Llandinam, Campws Penglais, Prifysgol Aberystwyth.
Bydd lluniaeth yn cael ei ddarparu gan y sefydliad "Gwarged Bwyd Aber ", sy'n casglu bwyd dros ben i leihau gwastraff bwyd, a Cymdeithas Cydweithredol Bwyd Organig PA a gwahoddir gwesteion i 'ddod â'ch mwg eich hun' i leihau'r defnydd o gwpanau tafladwy.
Dyddiadau’r holl ddigwyddiadau:
- 2017/03/03 - Tir ar gyfer ein bwyd gan J. Molina (Yr Eidal-Y Deyrnas Gyfunol-Ffrainc-Romania-Sbaen, 2015, 35')
- 30/03/2017 - Terra Nera gan D. Licciardello a S. Ciani (UDA-Canada-Affrica, 2012, 65')
- 27/04/2017 - Timbaktu gan R. Thomas (India, 2012, 30 '), Llais y Tir gan G. Del Signore a C. Bolzoni (Romania, 2016, 29')
- 26/05/2017 - Perfformiad cyntaf y DG o Ŵyl delle Terre 2016
Trefnwyd yr ŵyl diolch i'r Grant Gystadleuaeth Ôl-raddedig, mewn cydweithrediad â "Festival delle Terre", Cymdeithas Cynaliadwyedd PA, Cymdeithas Cydweithredol Bwyd Organig a Gwarged Bwyd Aber.
"Gwobr Ryngwladol clyweledol Bioamrywiaeth Gŵyl delle Terre" http://www.festivaldelleterre.it/en