Arferion monitro newydd llyngyr ceffylau ar gyfer yr 21ain ganrif

Wyau llyngyr nematod trwy FECPAK G2.

Wyau llyngyr nematod trwy FECPAK G2.

24 Gorffennaf 2017

Mae gwyddonwyr yn Athrofa’r Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig (IBERS) Prifysgol Aberystwyth wedi dilysu datblygu arf asesu parasit o bell newydd i brofi ceffylau ar gyfer heintiau llyngyr.

Cyfrifiadau wyau ysgarthol (FEC) yw prawf safonol y diwydiant ar hyn o bryd ar gyfer gwneud diagnosis heintiau llyngyr nematod mewn ceffylau ac yn draddodiadol mae wedi cynnwys casglu samplau ysgarthol a'u hanfon i ffwrdd ar gyfer profi gan filfeddyg neu labordy proffesiynol.

Dywedodd Dr Russ Morphew, uwch barasitolegydd yng Nhanolfan Barrett ar gyfer Rheoli Llyngyr (BCHC) yn IBERS, dywedodd:

“Mae ein gwyddoniaeth wedi cyfrannu at ddatblygiad y FECPAKG2 gan gwmni Techion UK Ltd ar gyfer y farchnad geffylau y gellir ei ddefnyddio gan berchnogion ceffylau ar eu tir eu hunain heb unrhyw wybodaeth arbenigol flaenorol.

Mae profi cyfrifiadau wyau ysgarthol cyn triniaethau cyffuriau yn parhau i fod yn ffactor bwysig mewn arafu ymwrthedd i wrth-lyngyryddion.

Mae ein prosiect KESS2 a ariennir ar y cyd wedi asesu 39 o samplau ysgarthion nematod ceffylau wedi'u heintio â'r FECPAKG2 wedi profi i fod yn ddull effeithiol iawn o gynnal profion FEC mewn ceffylau, gan ganiatáu ar gyfer triniaethau dethol wedi eu targedu.”

Mae FECPAKG2 yn cynhyrchu canlyniadau yn gyflym ac yn hawdd ar gyfer y ffermwr, rheolwr, y milfeddyg neu gynghorydd fel y gallant wneud penderfyniadau rheoli parasitiaid mwy gwybodus heb oedi.

Mae’r delweddau FEC yn cael eu hychwanegu yn awtomatig at gronfa ddata FECPAK ac yn  caniatáu dadansoddiad o heintiau nematod ar raddfa fawr a nodi ble mae nematode yn rhemp.

Dywedodd Eurion Thomas, Rheolwr Gweithrediadau Ewropeaidd yn Techion: "Mae'r prosiect KESS2 wedi bod yn gam pwysig iawn yn natblygiad ein system ceffylau FECPAKG2 yn dilyn defnydd llwyddiannus o'r system yn y sectorau defaid a gwartheg.

“Mae'r cyswllt gyda IBERS yn rhoi hygrededd yn y farchnad a sicrwydd bod y cynnyrch yr ydym yn ei werthu wedi cael ei brofi yn annibynnol a'u ddilysu. Mae'r cydweithio hwn wedi bod yn ardderchog, ac yn union sut y dylai ddiwydiant a phartneriaeth ymchwil weithio. "

Bydd Russ a thîm Techion yn arddangos FECPAKG2 yn Sioe Frenhinol Cymru yn Llanelwedd yr wythnos hon ar stondin IBERS Prifysgol Aberystwyth (rhif CCA 795 yn yr Ardal Gofal Cefn Gwlad).