Ymchwilwyr o Aberystwyth yn trefnu cynhadledd ar amaethyddiaeth gynaliadwy yn Nigeria
Trefnwyd y gynhadledd gan FoodSecNet, cynghrair o academyddion o Athrofa’r Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig (IBERS) ac adrannau Cyfrifiadureg a Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear Prifysgol Aberystwyth, a rhanddeiliaid niferus o fewn y sector amaethyddol yn Nigeria.
04 Gorffennaf 2017
Trefnwyd y gynhadledd gan y rhwydwaith diogelwch bwyd FoodSecNet gyda chyd-drefnwyr o Brifysgol Ibadan a Polytechnic Ffederal Ado-Ekiti, ble y daeth y cynadleddwyr ynghyd i drafod yr heriau ac i rannu atebion.
Roedd y digwyddiad cyntaf yma 'Cyd-Greu Amaethyddiaeth Gynaliadwy: Gwella Llif Gwybodaeth Ymhlith Holl Rhanddeiliaid mewn Amaethyddiaeth yn Nigeria' yn cynrychioli’r tro cyntaf i lawer o’r rhanddeiliaid ymgasglu yn Ibadan yn Ne Nigeria.
Mae FoodSecNet yn gynghrair o academyddion o Athrofa’r Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig (IBERS) ac adrannau Cyfrifiadureg a Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear Prifysgol Aberystwyth, â rhanddeiliaid niferus o fewn y sector amaethyddol yn Nigeria.
Dywedodd Dr Simon Payne o IBERS Prifysgol Aberystwyth: "Gyda phoblogaeth o 190 miliwn o bobl, Nigeria yw’r seithfed wlad fwyaf mwyaf poblog yn y byd ac er mwyn cyflawni amaethyddiaeth gynaliadwy rhaid cael ymdrech ar y cyd.
“Mae gan ffermwyr Nigeria lawer o gegau i'w bwydo ac nid ydynt yn ymwybodol o nifer o ddatblygiadau gwyddonol sydd ar flaen y gad mewn amaethyddiaeth ac yn dweud wrthym nad oes system effeithlon i gyfieithu a chyfathrebu’r wybodaeth hwnnw iddynt.
“Bydd gwella rhyngweithio rhwng ymchwilwyr a ffermwyr yn galluogi aelodau o'r rhwydwaith i weithio ar lawr gwlad heb arian y llywodraeth a’r cam cyntaf yn unig yw’r digwyddiad hwn ar broses lle bydd gwyddonwyr Nigeria a'r DU yn gweithio gyda ffermwyr Nigeria a gweithwyr estyn i hyrwyddo diogelwch bwyd. Bydd hon yn broses rymuso ddwy ochrog lle y byddwn yn cyd-greu gwybodaeth er lles pawb sydd yn chwarae eu rhan ynddi.”
Nod y gynhadledd arloesol felly, oedd dod â budd-ddeiliaid o Nigeria at ei gilydd o fewn y sector amaeth, gyda chynrychiolwyr o ffermwyr, gweithwyr estyn, academyddion, gwyddonwyr, myfyrwyr, a swyddogion y llywodraeth.
Roedd y mewnbwn gan gyfranogwyr o bob lefel o amaethyddiaeth yn Nigeria yn ymateb i feirniadaeth o'r dull 'o'r brig i lawr' traddodiadol i ddatblygiad nad yw wastad wedi cymryd anghenion a gwybodaeth ffermwr i ystyriaeth, ac sydd yn tueddu i brofi’n aneffeithiol yn y tymor hir.
Bu cynrychiolwyr Prifysgol Aberystwyth yn chwarae rôl allweddol wrth hwyluso trafodaeth ar draws ystod o bynciau perthnasol, gan roi pwyslais arbennig ar ystyried nifer o agweddau cynaliadwyedd - nid yn unig pryderon amgylcheddol neu economaidd, ond sut mae ymarfer datblygu yn gallu bod yn gymdeithasol gynaliadwy ac yn wyddonol hefyd.
Dywedodd yr Athro Luis Mur o IBERS, fu’n gyfrifol am gychwyn y cydweithio â Nigeria: "Mae’r ymateb i'r rhaglen wedi bod yn gadarnhaol iawn, o ran y dulliau a ddefnyddiwyd a'r ethos cyffredinol y tu ôl i'r gynhadledd.
“Roedd y ffermwyr yn teimlo’n fwy grymus; bu’r myfyrwyr yn rhoi eu gwybodaeth sydd ar gynnydd mewn cyd-destun 'go iawn'; bu gwyddonwyr wedi dysgu oddi wrth y rhai sydd i fod i elwa o’u hymchwil; a bu swyddogion estyn yn ymgysylltu â chysylltiadau cyfagos yn y gadwyn amaethyddol ar yr un pryd ac yn bersonol, yn hytrach nag ar wahân neu o bell; a chlywodd llunwyr polisi yn uniongyrchol am yr heriau a wynebir gan eu hetholwyr.
“Mae gennym rwydwaith mawr o gydweithwyr yn FoodSecNet sydd wedi eu hysgogi i wireddu’r syniadau trawiadol a ddeilliodd o’r digwyddiad.”
Adnabu cynhadledd FoodSecNet 2017 yr heriau a chyd-grëwyd atebion posibl ar gyfer amaethyddiaeth yn Nigeria: y cam nesaf yw sicrhau cyllid sy'n caniatáu dilyniant digonol, gan gynnwys grwpiau ffocws "yn y maes" sy'n canolbwyntio’n llwyr ar atebion.
Alhaji Idris Busari yw cydlynydd Talaith Oyo yn Ffederasiwn Cymdeithasau Amaethyddol Nwyddau Nigeria (FACAN) a dywedodd: "Mae'r digwyddiad wedi agor llwybr ar gyfer cyfnewid syniadau a rhwydweithio ymysg ffermwyr a darparwyr gwerth mewn amaethyddiaeth. Bydd yn ein helpu i roi diwylliant yn ôl i mewn i amaethyddiaeth, creu mwy o swyddi a gwella statws cymdeithasol economaidd ein cymdeithas."