Iolo Williams i agor arddangosfa Archaeopteryx

Iolo Williams

Iolo Williams

07 Chwefror 2017

Bydd y naturiaethwr, cyflwynydd teledu a Chymrawd er Anrhydedd Prifysgol Aberystwyth, Iolo Williams yn agor arddangosfa 'Etifeddiaeth Jwrasig' yn adeilad eiconig yr Hen Goleg Nos Fawrth 14 Chwefror 2017.

Canolbwynt yr arddangosfa fydd Archaeopteryx, sef dinosor tebyg i aderyn gyda chrafangau a  dannedd miniog.

Mae’n dyddio o'r cyfnod Jwrasig hwyr, tua 150 miliwn o flynyddoedd yn ôl, a’r gred yw taw dyma’r ddolen gyswllt rhwng dinosoriaid a'r aderyn modern.

Yn ogystal ag agor yr arddangosfa, bydd Iolo Williams yn cyfrannu dwy sesiwn holi ac ateb sydd am ddim ac yn agored i bob aelod o'r gymuned leol.

  • 6 yr hwyr: Iolo Williams yn sôn am ei waith fel naturiaethwr a chyflwynydd teledu, gan ateb cwestiynau gan gynulleidfa o bobl ifanc. Ystafell Seddon, Yr Hen Goleg.
  • 6:30 yr hwyr: Iolo Williams yn agor arddangosfa’r Archaeopteryx yn swyddogol.
  • 7:00 yr hwyr: Sesiwn holi ac ateb gyda phanel o arbenigwyr sy’n cynnwys Iolo Williams, Dr Caroline Buttler (Amgueddfa Cymru - National Museum Wales) ac o Brifysgol Aberystwyth, Dr Ian Scott, Dr Bill Perkins a’r Athro Emeritws Richard Hinchliffe.

Mae’r arddangosfa yn cael ei hariannu gan Gronfa Treftadaeth y Loteri (CTL) ac mae ar fenthyg o Amgueddfa Cymru – National Museum Wales, gyda ffosilau ychwanegol o gasgliadau'r Brifysgol.

Bydd y Brifysgol hefyd yn ychwanegu pedwar cast o ddinosoriaid pluog, a nifer o gastiau o greaduriaid cynhanesyddol eraill, bywyd gwyllt morol, a llystyfiant a roddwyd gan y botanegydd arloesol Agnes Arber.

Gan fod yr arddangosfa ar agor yn ystod yr hanner tymor ysgol a gwyliau’r Pasg, mae sesiynau treftadaeth rhyngweithiol ar gyfer teuluoedd yn cael eu trefnu mewn partneriaeth gydag Amgueddfa Ceredigion.

Dywedodd Louise Jagger, Cyfarwyddwr Datblygu a Chysylltiadau Alumni Prifysgol Aberystwyth: "Mae arddangosfeydd teithiol fel hyn yn elfen bwysig o gynlluniau uchelgeisiol y Brifysgol i roi bywyd newydd i’r Hen Goleg gan ddarparu adnodd gwych o ran amlygu cyfleoedd dysgu, ymchwil a menter fydd yn ysbrydoli defnyddwyr ac ymwelwyr, ac yn helpu i roi hwb i dwristiaeth a'r economi yn gyffredinol. Fe ddaeth cannoedd o ymwelwyr i’r Hen Goleg yn ddiweddar i weld ein harddangosfa Y Gwyll. Yr Archaeopteryx hynafol fydd yr atyniad y tro hwn i unrhyw un sydd â diddordeb mewn esblygiad a hanes naturiol."

Dywedodd Dr Caroline Buttler, Pennaeth Paleontoleg yn Amgueddfa Cymru - National Museum Wales: "Mae Archaeopteryx yn ffosil rhyfeddol gyda nodweddion dinosor ac aderyn yn perthyn iddo ac fe’i hystyriwyd yn ddolen goll rhwng y ddau grŵp yma. Bydd ein harddangosfa yn Hen Goleg Prifysgol Aberystwyth yn cynnwys castiau o’r creadur arbennig yma a ddarganfuwyd gyntaf yn y 1860au - ychydig flynyddoedd yn unig ar ôl cyhoeddi The Origin of Species gan Charles Darwin.”

Ychwanegodd Richard Bellamy, Pennaeth Cronfa Dreftadaeth y Loteri yng Nghymru: "Diolch i gyllid gan chwaraewyr y Loteri Genedlaethol, mae'r prosiect hwn wedi creu cyfle newydd i sefydliadau i weithio gyda'i gilydd er budd pobl leol a thwristiaid. Rydym yn gwybod bod yna gryn ddiddordeb mewn treftadaeth Jwrasig ac mae’r arian hwn yn golygu y bydd mwy o bobl yn cael cyfle i weld a dod i wybod am gasgliadau pwysig na fyddai fel arall ar gael yn Aberystwyth. Mae Cronfa Dreftadaeth y Loteri yn falch iawn i estyn ei chefnogaeth."

Mae'r arddangosfa wedi cael grant o £9,800 gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri, a hwnnw’n cael ei ategu gan rodd hael o £5,000 gan Dr Terry Adams, daearegwr a Chymrawd er Anrhydedd Prifysgol Aberystwyth, a £3,700 gan gronfa ymgysylltu allanol yr Adran Ffiseg.

Darperir cynnwys ychwanegol ar gyfer yr arddangosfa gan Dr Ian Scott a'r Athro Emeritws Richard Hinchliffe o IBERS, a Dr Bill Perkins o'r Adran Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear.

Yn dilyn y noson lansio ar 14 Chwefror, bydd yr arddangosfa ar agor o Ddydd Llun-Sadwrn rhwng 10yb a 4yp tan 21 o Ebrill ac mae mynediad am ddim.

Nos Fawrth 7 Chwefror caiff rhaglen hanner awr arbennig ar yr arddangosfa ei darlledu ar Science Cafe ar BBC Radio Wales am 6.30yh.