Myfyriwr IBERS yn ennill ysgoloriaeth deithio o fri

26 Ebrill 2017

Mae myfyrwraig sy'n astudio Bioleg y Môr a Dŵr Croyw yn IBERS wedi ennill Ysgoloriaeth deithio sy'n werth £1,000 gan Gwmni Anrhydeddus Lifrai Cymru.

Cafodd Cwmni Anrhydeddus Lifrai Cymru ei sefydlu ym 1993 er mwyn hyrwyddo'r celfyddydau, y gwyddorau a thechnoleg yng Nghymru, ac yn benodol er mwyn datblygu'r sgiliau a'r cymwysterau proffesiynol o fewn y gweithgareddau hyn.  Un o'r ffyrdd y mae'n cyflawni'r amcanion hyn yw trwy gynnig nifer cyfyngedig o Ysgoloriaethau Teithio gwerth £1,000 i sectorau gwahanol ym myd addysg a datblygiad personol. Mae'r Ysgoloriaeth yn galluogi i'r unigolyn llwyddiannus deithio tramor ac ymgymryd â phrosiect astudio a fydd o gymorth sylweddol i ddatblygu eu gyrfa a gwella a datblygu eu doniau.

Mae Emily Groves yn ei hail flwyddyn yn Aberystwyth a'r haf hwn bydd hi'n teithio i Norwy ac yn campio ar hyd arfordir Norwy er mwyn astudio'r gwahaniaethau o ran cynefindra â gwers mewn gwymon (Alaria esculenta). Bydd Emily yn casglu data o arolygon o'r glannau ar hyd arfordir gorllewinol Norwy i weld a yw unigolion sy'n byw yng nghanol cwmpas y rhywogaeth yn fwy ac yn fwy helaeth na'r rhai ar ymyl y cwmpas.

I sicrhau'r wobr bu'n rhaid i Emily fynychu cyfweliad gyda Madeline Bidder a Bob Clarke o'r Cwmni. Wrth gyflwyno'r wobr fe wnaeth Madeline a Bob longyfarch Prifysgol Aberystwyth am gasglu ynghyd restr fer mor gryf o ymgeiswyr i gael eu cyfweld. Dywedodd Bob Clarke: "Roedd yr holl ymgeiswyr terfynol o safon uchel ac rwy'n hyderus y bydd pob un yn mynd ymlaen i ragori yn eu meysydd dewisol" ac ychwanegodd Madeline "Yr hyn yr oeddem yn ei hoffi'n benodol am Emily oedd ei brwdfrydedd amlwg tuag at ei phwnc, mae hi'n amlwg yn angerddol am ei maes astudio a hoffem ddymuno'r gorau iddi hi a'r holl ymgeiswyr i'r dyfodol".

Dywedodd Tony O'Regan o Brifysgol Aberystwyth: "Hoffwn ddiolch i Gwmni Anrhydeddus Lifrai Cymru am eu sylwadau caredig a'u nawdd hael ar gyfer y wobr hon". Ychwanegodd Dr Pippa Moore, cydlynydd cynllun gradd Emily: "Mae Emily yn fyfyrwraig Bioleg y Môr a Dŵr Croyw hynod o alluog ac ymroddedig ac mae'n hi'n llawn haeddu ennill y wobr hon.