IBERS yn y Ffair Aeaf

25 Tachwedd 2016

Mi fydd Athrofa’r Gwyddorau Biolegol Amgylcheddol a Gwledig ym Mhrifysgol Aberystwyth yn croesawu ymwelwyr I Ffair Aeaf Frenhinol Cymru yr wythnos nesaf ar stondin EXB277 ar y balconi ym Mhafiliwn Da Byw 1.

Bydd cynrychiolwyr wrth law i roi gwybodaeth i ffermwyr am y gwaith ymchwil diweddaraf sy'n cael ei wneud yn yr Athrofa arobryn i gefnogi amaethyddiaeth gynaliadwy yn y DG.

Mae’r pynciau trafod yn cynnwys brasterau ac olewau fel elfennau pwysig mewn deiet gwartheg a defaid i ddarparu ynni ar gyfer cynhyrchu llaeth a chig, nifer cynyddol o yr achosion llyngyr y rwmen; a glaswelltydd a meillion sy'n galluogi priddoedd glaswelltir i ddal mwy o law, a thrwy hynny leihau'r risg o lifogydd i lawr yr afon.

Mae Hefin Williams o IBERS yn gweithio gyda CFfI Cymru ar brosiect newydd parthed Iechyd a Diogelwch ar y fferm, a bydd Dr Beth Penrose yn siarad â ffermwyr am dera'r borfa sydd yn gyffredin gyda chyfraddau marwolaeth uchel yn y gwanwyn a'r hydref, a all hefyd effeithio ar gymeriant a chynnyrch llaeth.

Mi fydd gwybodaeth o'r astudiaeth hon yn helpu ymchwilwyr i ddeall barn a gwybodaeth bresennol y sector o ran magnesiwm mewn da byw a bydd hyn yn helpu i ddatblygu strategaethau rheoli i leihau achosion o dera'r borfa a gwella maethiad anifeiliaid cnoi cil yng Nghymru a Lloegr.