'Planhigion yn y Gofod' yng Ngardd Fotaneg Cenedlaethol Cymru
Llun gan Tim Jones Photography
22 Tachwedd 2016
Bu gwyddonwyr planhigion yn croesawu ymwelwyr mewn achlysur Planhigion yn Y Gofod yng Ngardd Fotaneg Genedlaethol Cymru Ddydd Sadwrn 19 Tachwedd.
Dywedodd Dr Peter Wootton Beard o IBERS "Gyda phoblogaeth sy'n tyfu'n gyflym a mwy o gegau i’w bwydo nag erioed o'r blaen, mae angen i ni ddatblygu ffyrdd newydd o dyfu bwyd gan ddefnyddio llai o adnoddau. Rydym yn gwybod bod angen pridd, haul a dŵr i dyfu planhigion - ond beth os nad oes gennych unrhyw un ohonynt?
Un ateb technolegol i hyn yw ffermio fertigol megis cynlluniau fel ‘Grow Up Farms’ yn Llundain (www.growup.org.uk).
Er mwyn gwneud hyn yn llwyddiannus mae angen i ni wybod sut mae planhigion yn tyfu o dan amodau rheoledig drwy ddarparu'r golau, bwyd a dŵr mewn ffordd fanwl iawn.
Roeddem yn defnyddio’r gofod i helpu i egluro hyn gan fod tyfu bwyd ar gyfer gofodwyr ac eraill efallai yn y dyfodol yn y gofod, yn enghraifft eithafol o sut y gallai’r ymchwil hwn gael ei ddefnyddio."
Mae Peter yn Gymrawd Ymchwil gyda'r Rhwydwaith Cenedlaethol ar gyfer y Rhwydwaith Ymchwil Cenedlaethol i Ynni Carbon Isel a'r Amgylchedd (NRN-LCEE) yn IBERS, gan weithio gyda chydweithwyr ymchwil ym Mhrifysgolion Bangor a Chaerdydd ar brosiect Planhigion a Phensaernïaeth.
Bathwyd astrofotaneg fel ymadrodd mor bell yn ôl â 1945 a mae arbrofion wedi cael eu cynnal ar deithiau gofod byth ers hynny.
Yn ystod y daith ofod ddiweddaraf bu gofodwyr yn bwyta llysiau gwyrdd wedi eu tyfu’n ffres am y tro cyntaf yn y gofod pell.
Dywedodd Peter "Fe gynlluniwyd y diwrnod fel cyfle i ni gyfathrebu ychydig o’r gwyddoniaeth hwnnw."
Roedd y digwyddiad yn cynnwys ystod o weithgareddau yn dangos sut mae planhigion yn synhwyro golau a disgyrchiant yn wahanol i ni, sut y gall planhigion gael eu tyfu hyd yn oed mewn roced neu ar yr orsaf ofod, a sut y gallai rhywfaint o'n bwyd gael ei gynhyrchu yn y dyfodol.
Roedd ‘Canolfan Homegrow' o Aberystwyth yn cefnogi’r digwyddiad trwy ddangos eu cit tyfu hydroponeg y gellid ei ddefnyddio gan fwytai lleol i dyfu eu perlysiau meicro eu hunain ac ati dan do, heb ddefnyddio pridd. Bu’r plant yn gwneud plastig o blanhigion, a mynd a’u creadigaethau eu hunain o'r diwrnod adref gyda nhw.
Trefnwyd y digwyddiad gan Brifysgol Aberystwyth, mewn partneriaeth â Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru, Cymdeithas Seryddol Abertawe a Rhwydwaith Ymchwil Cenedlaethol i Ynni Carbon Isel, a'r Amgylchedd.