Blwyddyn o interniaeth gyda Chyfoeth Naturiol Cymru
Y myfyriwr israddedig Ant Baker yn cynnal arolwg deifio yn ystod ei leoliad gyda Chyfoeth Naturiol Cymru
22 Mawrth 2016
Mae Ant Baker yn ei flwyddyn olaf israddedig yn astudio Bioleg y Môr a Dŵr Croyw ac mae wedi dychwelyd at ei astudiaethau ar ôl interniaeth gyflogedig yn para blwyddyn. Treuliodd y flwyddyn gyda thîm monitro morol Cyfoeth Naturiol Cymru, sef rheoleiddiwr amgylcheddol Llywodraeth Cymru sydd â’r gwaith o warchod a gwella amgylchedd Cymru.
Bob blwyddyn, dewisir un myfyriwr israddedig sydd mewn prifysgol yng Nghymru ar gyfer yr interniaeth, a llynedd Ant oedd yr un lwcus! Yn ystod ei leoliad, aeth Ant ar fordaith 12 diwrnod i fonitro rhywogaethau goresgynnol gyda CEFAS, gan godi samplau amrywiaeth o gynefinoedd morol gan gynnwys lagwnau arfordirol prin a riffiau cefnforol. “Cefais fy hyfforddi mewn technegau monitro sy’n defnyddio rhai o’r dechnoleg ddiweddaraf, gan gynnwys LiDAR a monitro 3D ar gynefinoedd, gan edrych ar newidiadau yn strwythur riffiau Sabellaria sy’n fiolegol bwysig,” esbonia Ant. “Mi wnes i hefyd gael llawer o brofiad o ddefnyddio offer monitro safonol i ddadansoddi ansawdd dŵr, a phrofiad o arolygon dyfnforol islanwol a rhynglanwol.”
Mae Ant nawr yn defnyddio’r wybodaeth a’r technegau a ddysgodd yn ystod ei leoliad wrth astudio yn ei flwyddyn olaf yn y Brifysgol. Ac o ystyried y rhychwant o sgiliau sydd ganddo bellach, ynghyd â’r cysylltiadau a wnaeth yn Cyfoeth Naturiol Cymru ac yn yr asiantaethau amgylcheddol statudol eraill ledled y Deyrnas Unedig, mae dyfodol llewyrchus o flaen Ant!