Llwyddiant i IBERS yng Ngwobrau Dysgu dan Arweiniad Myfyrwyr
Staff IBERS gyda'u gwobrau
26 Ebrill 2016
Cafwyd noson lwyddiannus i staff IBERS yng Ngwobrau Dysgu dan Arweiniad Myfyrwyr (GDdAM) a gynhaliwyd ddydd Gwener ddiwethaf, 22 Ebrill .
Bellach yn eu pumed blwyddyn, mae'r Gwobrau Dysgu dan Arweiniad Myfyrwyr (GDdAM) yn uchafbwynt yng nghalendr y Brifysgol, gan gydnabod aelodau staff, cynrychiolwyr myfyrwyr ac adrannau eithriadol mewn deg categori.
Roedd cyfanswm o wyth anrhydedd GDdAM wedi eu dyfarnu i staff IBERS: Enillydd am ei gyfraniad Eithriadol at Fywyd y Brifysgol – Paul Kenton, Oruchwyliwr y Flwyddyn – Jo Hamilton, Enillydd Gwobr Athro Ôl-Raddedig - David Fazakerley, Enillydd Cynrychiolydd Myfyrwyr y Flwyddyn – Adrian Mironas, Canmoliaeth Uchel yng Nghategori Addysgu Rhagorol – Roger Santer, Canmoliaeth Uchel yn y Categori Gwobr Cyfraniad Eithriadol at Fywyd - Jo Hamilton, Canmoliaeth Uchel yng Nghategori Gwobr Athro Ôl-Raddedig – Rebekah Stuart, Canmoliaeth Uchel fel Staff Cymorth y Flwyddyn – Rob Darby.