IBERS yn Ennill y NIAB Variety Cup

Yr AthroMike Gooding Cyfarwyddwr IBERS yn derbyn y NIAB Variety Cup yn CEREALS 2015 gan Dr Tina Barsby, Prif Weithredwr NIAB

Yr AthroMike Gooding Cyfarwyddwr IBERS yn derbyn y NIAB Variety Cup yn CEREALS 2015 gan Dr Tina Barsby, Prif Weithredwr NIAB

11 Mehefin 2015

Mae Athrofa’r Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig ym Mhrifysgol Aberystwyth wedi ennill y NIAB Variety Cup (Cwpan Math Sefydliad Cenedlaethol Botaneg Amaethyddol) am yr math glaswellt AberGreen.

Cafodd  AberGreen ei gynnwys yn Rhestr Cymeradwyol annibynnol y diwydiant (Recommended List) am y tro cyntaf yn 2011. Dyma’r ail amrywiaeth porthiant erioed i gael ei gydnabod gyda gwobr y NIAB Variety Cup, yn dilyn dyfarnu Glaswellt Siwgr Uchel AberDart yn enillydd cyntaf tîm Aberystwyth yn 2003.

Dywedodd Yr Athro Mike Gooding, Cyfarwyddwr IBERS ar dderbyn y Wobr yn CEREALS 2015 yn Swydd Lincoln "Mae'n fraint i dderbyn y Wobr hon ar ran y tîm bridio glaswellt yn IBERS. Mae'r Wobr yn arwyddocaol gan ei bod yn adeiladu ar dreftadaeth nodedig o welliant cnydau yn Aberystwyth dros bron i 100 mlynedd. Mae AberGreen yn dangos ein hymrwymiad parhaus i gyfuno perfformiad amaethyddol blaenllaw gyda chynaladwyedd amgylcheddol gwell : cyfuniad hanfodol ar gyfer busnesau fferm cadarn a sicrwydd bwyd. "

Fe wnaeth rhaglenni bridio a gychwynodd yn yr Athrofa (Sefydliad IGER ar y pryd) yng nghanol y 1980au gynyddu cyfartaledd cynnwys carbohydrad sydd yn toddi mewn dwr (Water Soluble Content) yn y math AberDart a ryddhawyd yn 1999 i 23%. Dyfarnwyd y Cwpan NIAB Variety Cup i AberDart yn 2003 i gydnabod y gwelliant mewn ansawdd ynghyd â pherfformiad agronomegol ardderchog.

Dywedodd yr Athro Athole Marshall, Pennaeth Bridio Planhigion yn IBERS "Rydym wrth ein bodd i dderbyn y NIAB Variety Cup am yr ail dro i gydnabod ymroddiad a brwdfrydedd y tîm talentog, byd cydnabyddedig o fridwyr glaswellt yn IBERS. Mae AberGreen yn dangos yn berffaith ein nod o fridio mathau, nid yn unig am eu cyfuniad ardderchog o gynnyrch, ansawdd a gorchudd tir, ond hefyd ar gyfer nodweddion megis cynnwys carbohydrad sydd yn toddi mewn dwr sy'n cyfuno gwella perfformiad anifeiliaid a manteision amgylcheddol. "

Mae cynnyrch o ddeunydd-sych eithriadol wedi ei gyfuno â gwerth-D (D-value) rhagorol yn gosod y diploid canolig AberGreen mewn safle uchel ymysg rhygwellt parhaol ar gyfer cyfanswm cynnyrch ynni metaboladwy (ME). Mae hefyd yn un o'r perfformwyr gorau ar gyfer gorchudd tir ac yn sgorio yn uchel iawn ar gyfer gwrthsefyll clefydau.

AberGreen yw un o'r mathau diweddaraf o laswelltydd Siwgr Uchel Aber i gael eu bridio a’u datblygu yn IBERS Prifysgol Aberystwyth.

Gyda'i gynnwys carbohydrad sydd yn toddi mewn dwr (WSC) uwch ond heb gynnydd cyfrannol mewn protein, mae’r math hwn yn arddangos yr hyn y mae  bridwyr yn ei ddisgrifio fel mor agos at y cydbwysedd gorau posibl o brotein porthiant-i-ynni ar gyfer cynhyrchu effeithlon o dda byw.

‘Dydy anifeiliaid sy’n cnoi cil ddim yn effeithiol mewn trosi protein glaswellt i mewn i gig a llaeth," eglura bridiwr glaswellt IBERS Alan Lovatt.

Mae hyn yn bennaf oherwydd yr anghydbwysedd rhwng ynni parod a phrotein o fewn glaswellt. Mewn cyd-destun pori mae hyn fel arfer yn golygu mai dim ond tua 20% mewn gwirionedd o'r protein o borfa sydd yn cael ei ddefnyddio ar gyfer cynhyrchu.

Mae'r gweddill yn cael ei ysgarthu, sydd yn gostus yn ariannol i'r ffermwr ac yn broblematig ar gyfer yr amgylchedd gan fod gwastraff nitrogenaidd yn trosi i nwyon tŷ gwydr.

Felly, mae manteision gwirioneddol o ran darparu gwell cydbwysedd protein-i-ynni mewn glaswellt, a mae AberGreen yn dangos hynny yn fwy nag erioed o'r blaen. Gyda’r carbohydrad hydawdd cyfartalog uwch  yn y glaswellt yn darparu mwy o ynni parod yn y rwmen, mae mwy o'r nitrogen a ryddheir trwy dorri’r protein i lawr, yn cael ei ddefnyddio gan y microbau rwmen ar gyfer cynhyrchu cig a llaeth, a llai yn cael ei ysgarthu fel nwyon tŷ gwydr.”