Chwalu Rhwystrau i Newidiadau Gwirioneddol i’n Ffermio a’n Systemau Bwyd

Caroline Drumond MBE, Prifweithredwr LEAF

Caroline Drumond MBE, Prifweithredwr LEAF

18 Chwefror 2015

Prif Weithredwr Linking Environment and Farming, yn traddodi anerchiad cyhoeddus ym Mhrifysgol Aberystwyth

Bydd Caroline Drummond, Prif Weithredwr Linking Environment and Farming, yn traddodi anerchiad cyhoeddus ym Mhrifysgol Aberystwyth nos Fercher, 25 Chwefror o 6.00pm.

Hon fydd y gyntaf yng nghyfres darlithoedd cyhoeddus Sêr Cymru y Rhwydwaith Ymchwil Cenedlaethol i Ynni Carbon Isel a’r Amgylchedd (NRN-LCEE) ac fe’i chroesawir i Gampws Penglais y Brifysgol gan yr Athrofa Astudiaethau Biolegol ac Amgylcheddol (IBERS).

Yn ei chyflwyniad ‘Breaking Down the Barriers to Deliver Real Change to our Farming and Food Systems’, bydd Caroline Drummond yn edrych ar yr heriau sy’n wynebu ein planed, y gymuned wyddonol a’r gymdeithas ehangach ac sydd angen ymroi i’w datrys er mwyn llwyddo i ddod â newidiadau hir-dymor ac ystyrlon i gynaliadwyedd systemau ffarmio, ein dulliau o gynhyrchu bwyd a’r hyn yr ydym yn ei fwyta.

Bydd yn rhoi sylw i rai o’r meysydd lle mae newidiadau go iawn yn dechrau digwydd ac yn amlygu meysydd lle mae angen dull newydd o feddwl.

Eglurodd Yr Athro David Thomas, Cyfarwyddwr NRN-LCEE: “Hon yw’r gyntaf mewn cyfres o ddarlithoedd i’w cynnal yn ein partner-sefydliadau ledled Cymru, a fydd yn darparu fforwm agored i adlewyrchu ffocws traws-ddisgyblaethol yr NRN-LCEE ym meysydd ymchwil amgylcheddol, biowyddorol, carbon isel ac ynni. Mae’r achlysur yn addo rhoi llwyfan i drafodaeth mewn dau o brif feysydd ein blaenoriaethau ymchwil thematig, sef: Dwysâd Cynaliadwy, ac Effeithiau’r Newid yn yr Hinsawdd a Gweithgaredd Dynol a sut i’w Lliniaru”.

“Fel partner yn yr NRN-LCEE, mae’n bleser gennym gynnal darlith gyntaf y gyfres hon yn IBERS, ac i groesawu ein siaradwr nodedig. Edrychwn ymlaen i groesawu aelodau’r cyhoedd a chydweithwyr o’r gymuned ymchwil i ymuno â ni ar yr achlysur” ychwanegodd yr Athro Mike Gooding, Cyfarwyddwr IBERS.

Mae’r achlysur yn agored i bawb, ac nid oes angen archebu ymlaen llaw. Cynhelir derbyniad diodydd am ddim yn IBERSbach o 6.00pm, a bydd y ddarlith yn dilyn am 6.30pm yn Adeilad Edward Llwyd gerllaw ar Gampws Penglais ym Mhrifysgol Aberystwyth.

I gael rhagor o wybodaeth am yr achlysur gweler: www.aber.ac.uk/cy/events/lectures