Pum pwnc Aberystwyth wedi eu rhestri ymysg y gorau yn y byd
29 Ebrill 2015
Mae pum pwnc academaidd ym Mhrifysgol Aberystwyth wedi eu cynnwys ymhlith goreuon y byd yn ôl cynghrair pynciau'r QS World University Rankings a gyhoeddwyd heddiw, Dydd Mercher 29 Ebrill, un yn fwy nag yn 2014.
Mae Gwyddor yr Amgylchedd yn ymddangos am y tro cyntaf yn y 300 uchaf yn y byd.
Mae Daearyddiaeth yn cadw ei safle yn y 150 o uchaf ledled y byd.
Mae Gwleidyddiaeth (Gwleidyddiaeth ac Astudiaethau Rhyngwladol o 2015) yn dringo i'r 150 uchaf am y tro cyntaf.
Mae Amaethyddiaeth a Choedwigaeth yn parhau ymhlith y 150 uchaf yn y byd.
Mae Iaith a Llenyddiaeth Saesneg yn cadw ei statws ymhlith y 300 uchaf yn y byd.
Bellach yn ei phedwaredd flwyddyn, gwerthuswyd 3,467 o brifysgolion a rhestrwyd 971 o sefydliadau yn y QS World University Rankings yn ôl pwnc.
Dadansoddwyd dros 82 miliwn o ddyfyniadau a briodolwyd, a gwiriwyd darpariaeth 13,132 o raglenni.
Defnyddiwyd pedwar maen prawf wrth lunio'r rhestrau:
Enw Da Academaidd ar sail arolwg byd-eang o 63,700 o academyddion ledled y byd pan ofynnwyd iddynt ble maent yn credu mai’r gwaith gorau yn cael ei wneud yn eu maes arbenigedd nhw.
Enw Da Cyflogwr ar sail arolwg byd-eang o 28,800 o gyflogwyr graddedigion a ofynnwyd iddynt hwy pa sefydliadau sy’n cynhyrchu’r graddedigion gorau.
Cyfeiriadau fesul Cyfadran a Mynegai ‘H’, sydd â'r nod o fesur cynhyrchiant ac effaith gwaith ysgolheigion drwy edrych ar y papurau a ddyfynnwyd fwyaf, a’r nifer o ddyfyniadau a dderbyniwyd mewn cyhoeddiadau eraill.
Dywedodd yr Athro John Grattan, Dirprwy Is-Ganghellor Profiad Myfyrwyr a Rhyngwladol: "Mae hyn yn newyddion gwych ac yn adlewyrchu parch uchel academyddion ar draws y byd tuag at y gwaith academaidd sy’n cael ei wneud ym Mhrifysgol Aberystwyth. Mae hefyd yn dystiolaeth bellach o'r datblygiadau a wnaed yn ansawdd y gwaith a gynhyrchir yn Aberystwyth, ac yn adleisio canlyniad Fframwaith Ymarfer Ymchwil 2014 ddangosodd bod 95% o'r gweithgaredd ymchwil a gyflwynwyd gan Brifysgol Aberystwyth o safon a gydnabyddir yn rhyngwladol neu'n uwch.
"Mae canran cymharol uchel o staff cymwys (76%) a ddychwelwyd ar gyfer REF2014 yn gosod Prifysgol Aberystwyth yn gadarn o fewn y 50 uchaf yn y Deyrnas Gyfunol am effaith ymchwil. Mae hyn yn golygu bod myfyrwyr sy'n dewis astudio yma yn llawer mwy tebygol o gael eu haddysgu gan academyddion sy'n ymwneud ag ymchwil a gydnabyddir yn rhyngwladol nac mewn llawer o brifysgolion eraill. "
Mae rhagor o wybodaeth am QS World University Rankings ar gael ar-lein yn www.topuniversities.com