Cymryd syniadau gorau byd natur i ddatrys problemau dynol
Tô gwyrdd IBERS – Campws Penglais
01 Ebrill 2015
Mae Rhwydwaith Pensaernïaeth & Phlanhigion newydd wedi cael ei sefydlu rhwng Prifysgolion Caerdydd Aberystwyth a Bangor, gyda chyllid trwy Rhwydwaith Ymchwil Cenedlaethol i Ynni Carbon Isel a'r Amgylchedd (NRN-LCEE) Sêr Cymru, Llywodraeth Cymru.
Mae’r Rhwydwaith Pensaernïaeth & Phlanhigion yn ceisio ail edrych ar y berthynas rhwng planhigion a phensaernïaeth drwy bio-ddynwared - gwyddor sy'n astudio syniadau gorau natur ac yna dynwared y dyluniadau a'r prosesau hynny i ddatrys problemau dynol. Y syniad craidd yw fod natur yn llawn dychymyg o reidrwydd, a eisoes wedi datrys rhai o'r problemau y mae cymdeithas angen mynd i'r afael â hwy.
Nod y Rhwydwaith Pensaernïaeth & Phlanhigion yw deall sut mae adeiladau a phlanhigion yn rhyngweithio â'i gilydd a'u hamgylchedd, fel y gallwn ddatblygu dinasoedd a chnydau’r dyfodol.
Dywedodd Iain Donnison, Yr Athro Gwyddor Planhigion yn IBERS sydd yn arwain y prosiect " Her Pensaernïaeth yw darparu amgylchedd adeiledig i gymdeithas yn y dyfodol sy'n effeithlon o ran ei ddefnydd o adnoddau, yn effeithiol o ran darparu amodau da i fyw a gweithio ynddi, ac yn ddymunol i'r synhwyrau.
Mae planhigion yn cynnig nifer o bosibiliadau i helpu llywio atebion dylunio adeiladau cynaliadwy yn y dyfodol, tra fod pensaernïaeth yn cynnig dulliau a meddylfryd i helpu dylunio cnydau sy'n cynhyrchu yn fwy cynaliadwy.
Felly, rydym yn credu drwy weithio gyda'n gilydd, gall gwyddonwyr planhigion a phenseiri greu y newidiadau dramatig sydd eu hangen i gyflawni'r cynnydd hanfodol mewn cynaliadwyedd dinasoedd a chnydau ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol. "
Yn rhanbarthau a dinasoedd deallus y dyfodol, bydd angen ac elwa ar fwy o gydfodolaeth rhwng planhigion ac adeiladau. Yn hanesyddol mae planhigion wedi cael eu defnyddio fel deunyddiau crai adnewyddadwy mewn adeiladau, fel ffynhonnell o ysbrydoliaeth dylunio, a’u tyfu mewn dinasoedd i wella ansawdd yr aer, a iechyd a lles dynol.
Mae'r dull newydd hwn yn ceisio gwella cynaliadwyedd cyffredinol adeiladau a phlanhigion, yn ogystal â gwneud ein hadeiladau a’n dinasoedd yn fwy deallus ac yn fwy gwyrdd:
- Cymhwyso gwybodaeth am sut mae planhigion yn defnyddio adnoddau megis golau, lleihau gwastraff a goddef straen er mwyn creu strategaethau dylunio newydd ar gyfer adeiladau a dinasoedd. Cymhwyso gwybodaeth ac adnoddau o bensaernïaeth i ddeall yn well y ffordd y mae planhigion yn dal golau a bod yn oddefgar i wyntoedd cryfion.
- Mewn dinasoedd yn y dyfodol, mae angen ystyried nid yn unig sut y gall planhigion dyfu, ond hefyd sut y gall cynhyrchu cnydau ddigwydd oddi mewn iddynt. Mae hyn yn dechrau digwydd ac yn dod â manteision o ran cynaliadwyedd drwy leihau costau cludiant, yn ogystal â gwella amgylchedd y ddinas trwy fanteision esthetig ac i iechyd.
- Technolegau modern megis ffotofoltäeg a goleuadau LED hefyd yn golygu y bydd adeiladau yn y dyfodol yn gallu cynhyrchu a storio trydan y gellir ei ddefnyddio i dyfu planhigion a chnydau mewn ardaloedd lle mae golau gwael neu dim golau.
- Mae'r astudiaeth yn y defnydd o blanhigion ar adeiladau, gan gynnwys toeau a waliau gwyrdd, sy'n gallu lleihau'r galw am ynni adeiladau a'r effaith ynys wres drefol lle mae tymheredd y ddinas yn enwedig yn yr haf, yn gallu codi'n sylweddol o'i gymharu â'r wlad o amgylch.
- O fewn adeiladau astudio'r manteision o blanhigion yn y gofod byw, a'r defnydd o blanhigion fel ffynhonnell o ddeunyddiau carbon isel i storio carbon a gwella cynaliadwyedd ac ansawdd aer dan do. Mae pensaernïaeth a ysbrydolwyd gan natur a bridio planhigion modern yn ceisio symud tuag at gynnydd sylfaenol mewn effeithlonrwydd, gan gynnwys y defnydd o ynni sydd ar gael, dŵr a golau, yn ogystal â goddefgarwch o eithafion hinsawdd.