Bysedd-y-blaidd - yr ‘arch-borthiant’ a fydd yn darparu protein cystal â soia o ffermydd Prydain

Pys Bysedd y Blaidd

Pys Bysedd y Blaidd

19 Mawrth 2015

Mae gwyddonwyr yn Athrofa'r Gwyddorau Biolegol, Amgylchedd a Gwledig (IBERS) wedi profi bod tyfu bysedd-y-blaidd (Lupinus) yn darparu ffynhonnell amgen o brotein, cystal â soia, i borthiant anifeiliaid a physgod yng ngwledydd Prydain.

Dyna gasgliad prosiect ymchwil tair blynedd LUKAA (Bysedd-y-blaidd yn Amaethyddiaeth a Dyframaeth y DU) a ariannwyd gan 10 partner yn y diwydiant, Innovate UK, a'r Cyngor Ymchwil Biotechnoleg a Gwyddorau Biolegol (BBSRC). Yn sgil canlyniadau'r prosiect sydd newydd eu cyhoeddi, bydd ffermwyr yn cael gwybod bod bysedd-y-blaidd a dyfir yma yn gallu darparu protein cystal â soia.

Dangoswyd bod potensial gan fysedd-y-blaidd a dyfir ym Mhrydain i ddisodli'r soia sy'n cael ei fewnforio - a'i gynnwys mewn porthiannau dwys i fwydo da byw, adar a physgod -  gan y prosiect tair blynedd hwn, a ddatgelodd fod y da byw, y dofednod a'r pysgod a gafodd fwyd a oedd yn cynnwys bysedd-y-blaidd wedi gwneud cystal â'r rhai a gafodd fwyd o'r un safon a oedd yn cynnwys soia - ac weithiau yn well na nhw.

Dywedodd yr Athro Nigel Scollan, sy'n dal Cadair Waitrose mewn Amaethyddiaeth Gynaliadwy yn IBERS ac sydd yn Brif Ymchwilydd ar y prosiect ymchwil hwn: “Mae sicrwydd cyflenwadau protein i'r sectorau da byw a physgod yng ngwledydd Prydain ac Ewrop yn broblematig gan eu bod yn ddibynnol iawn ar fewnforio soia. Mae canlyniadau ein gwaith ymchwil yma wedi profi y gallwn gynyddu'r maint o brotein y gellir ei dyfu yma ym Mhrydain, ac mae hynny'n golygu manteision ymarferol ac economaidd i'r cynhyrchwyr.”

Nod y prosiect oedd ystyried mathau melys (bwytadwy) o fysedd-y-blaidd sydd yn uchel eu protein, fel ffynhonnell o brotein a fyddai'n cael ei dyfu ym Mhrydain a'i roi ym mhorthiant anifeiliaid a physgod i ddisodli - cymaint â phosib, hyd at 100% yn ddelfrydol - y protein sy'n dod o soia ar hyn o bryd.

Ychwanegodd yr Athro Nigel Scollan: “Rhoes y tri phrif fath - sef y gwyn, y melyn a'r culddail - lefelau protein amrwd 28-42% yn ogystal â phroffil gwell na ffa a phys o safbwynt asidau amino.

“Mae'r dystiolaeth yn glir bod bysedd-y-blaidd yn gallu disodli soia a hynny heb effeithio ar berfformiad y porthiant.”

Mae gan y darganfyddiad hwn oblygiadau pellgyrhaeddol i'r diwydiant bwyd a ffermio, lle y mae soia a fewnforiwyd yn ffynhonnell allweddol o brotein mewn porthiant anifeiliaid ers amser hir.

Ond bu rhwystrau yn atal cnydau megis bysedd-y-blaidd rhag cael eu defnyddio, gan gynnwys diffyg seilwaith rhwng y ffermydd a'r diwydiant malu porthiant, y dewis cyfyngedig o chwynladdwyr ac efallai hyd yn oed fod ffermwyr yn amau bod bysedd-y-blaidd yn gallu perfformio cystal â soia fel porthiant anifeiliaid.

Ond mae llawer o'r pryderon hyn wedi'u lleddfu gan y canlyniadau hyn ac mae cyhoeddi'r canlyniadau hyn yn cyd-fynd â rhai ffactorau ehangach, yn wleidyddol ac economaidd, a allai helpu i roi hwb ymlaen i'r diwydiant tyfu bysedd-y-blaidd.

Mae'r ffactorau hyn yn cynnwys y ffaith bod mewnforio soia yn mynd yn fwyfwy annerbyniol a'r gost yn cynyddu, bod llai o soia sydd heb gael ei addasu'n enetig ar gael, a bod awydd eang i wella sicrwydd cyflenwadau bwydydd ym Mhrydain o gofio'r marchnadoedd rhyngwladol go ansicr.

Disgwylir y ceir hwb sylweddol arall i annog tyfu bysedd-y-blaidd gan y Polisi Amaethyddol Cyffredin gan y bydd ei reolau 'gwyrddio' newydd yn orfodol i'r rhai sy'n cael y 'Taliad Sylfaenol' a ddaw i rym eleni.

Er y bydd effaith y rheolau hyn yn amrywio o'r un ffarm i'r llall, bydd tueddiad mwy cyffredinol tuag at fwy o arallgyfeirio cnydau a bydd hynny'n sbardun i dyfu cnydau megis bysedd-y-blaidd, yn enwedig ymhlith ffermwyr tir âr.

Bysedd-y-blaidd ym mhorthiant dofednod
Cadeirydd y prosiect oedd Tony Burgess o Wyau Birchgrove yn y Canolbarth. Defnyddiwyd eu hieir dodwy mewn rhan o'r gwaith ymchwil o dan gyfarwyddiaeth Prifysgol Aberystwyth.

Dangosodd y gwaith ymchwil a wnaed ar ei fferm fod rhoi bysedd-y-blaidd yn lle soia mewn deiet a oedd, fel arall, â chyfansoddiad tebyg, yn rhoi yn union yr un perfformiad o ran cynhyrchu wyau a phwysau, a hynny gan roi ychydig yn llai o borthiant iddynt.

“Mae hyn yn awgrymu ymateb effeithlonrwydd porthiant,” meddai Mr Burgess, a gyfrifodd y gellir arbed £4,000 y flwyddyn ar gostau porthiant pe bai'r bysedd-y-blaidd yn disodli'r soia yn llwyr drwy gydol ei uned 3,000 o adar.”

Ar ben hynny, sylwedd fod 'lliw coch' y melynwy yn cynyddu, roedd y baw yn sychach a mwy briwsionllyd, ac yn 37 wythnos oes roedd gan ei adar 100% o'u plu - sydd i gyd yn bethau positif.

“Mae bysedd-y-blaidd wedi mynd y tu hwnt i holl ddisgwyliadau'r ffermwr amheuol Cymreig hwn, ac rwy'n credu y dylid ei frandio yn 'arch-borthiant'," meddai.

Perfformiad anifeiliaid cnoi cil
Mewn astudiaethau eraill yn Aberystwyth, astudiwyd prosesau cynhyrchu a chadw bysedd-y-blaidd ar y fferm, a defnyddio'r cynnyrch ar ffurf 'wedi'i grimpio' fel rhan o ddeiet anifeiliaid cnoi cil.

Defnyddiodd Dr Christina Marley o Brifysgol Aberystwyth fysedd-y-blaidd a gynaeafwyd ym mis Awst fel rhan o ddeiet pesgi ŵyn. O gymharu eu perfformiad ag ŵyn a oedd ar ddeiet pesgi masnachol, dywedodd nad oes gwahaniaeth ystadegol yn y perfformiad a bod modd defnyddio'r bysedd-y-blaidd a dyfwyd ar y fferm ym mhorthiant yr ŵyn.

Esboniodd Andy Strzelecki o gwmni sy'n arbenigo ar gadw porthiant, Kelvin Cave Cyf, fod hyn yn agor y drws i lawer o ffermwyr Prydain dyfu bysedd-y-blaidd i'w ddefnyddio ar eu ffermydd, gan nad yw'r broses grimpio - a ddefnyddir yn eang i gynnal lefelau uchel o faith wrth gadw grawnfwydydd llaith - yn gofyn am adnoddau sychu na storfeydd arbenigol.

“Cynaeafir bysedd-y-blaidd â chombein ac mae'n hawdd eu cripio a'u cadw ar y fferm gan ddefnyddio contractwyr, a gellir eu cadw mewn claddfa gyffredin yn debyg i'r modd y cedwir silwair,” meddai.

Bysedd-y-blaidd
Ond dyframaeth - sef diwydiant sydd wedi tyfu'n gyflym nes mynd yn fwy na'r diwydiant cynhyrchu cig eidion - oedd fwyaf addawol efallai, o ran perfformiad bysedd-y-blaidd. 

Dywedodd yr Athro Simon Davies o Brifysgol Plymouth fod ei brofion wedi dangos gwell effeithlonrwydd trosglwyddo yn y porthiant, gwell cyfraddau tyfu, a gwell defnydd o'r mwynau mewn rhai rhywogaethau o bysgod, a dywedodd fod ychwanegu ensymau i'r  porthiant (SynergenTM o Alltech) yn gwella'r modd y defnyddir y porthiant.

“Mae bysedd-y-blaidd yn effeithlon iawn yn disodli blawd ffa soia, ond drwy ychwanegu cymysgedd o ensymau, mae'r effaith yn well byth,” meddai.

Goresgyn y rhwystrau
Serch hynny, er cystal potensial perfformiad bysedd-y-blaidd, mae'n rhaid goresgyn y meini tramgwydd sy'n rhwystro ffermwyr Prydain rhag ei ddefnyddio.

Dywedodd John o NIAB TAG fod angen ystyried ymhellach yr angen am reoli chwyn a bod angen cymeradwyaeth lawn am ystod ehangach o chwynladdwyr i'w defnyddio â bysedd-y-blaidd.

Serch hynny, dywedodd fod y profion wedi dod o hyd i chwynladdwyr a fyddai'n addas i'w defnyddio â bysedd-y-blaidd, a bod y chwynladdwyr hynny - ynghyd â chwistrellu rhwng rhesi - yn golygu bod rheoli chwyn yn llai o broblem nag y bu yn y gorffennol.

Dywedodd David McNaughton o Soya UK ei bod hi'n 'drychineb bychan' nad oedd ffermwyr tir âr yn tyfu planhigion - sydd mor effeithiol yn sefydlogi nitrogen - fel cnwd incwm, gan ychwanegu: "Erbyn hyn gallwn roi cyngor gwell nag o'r blaen i ffermwyr ynghylch y mathau o fysedd-y-blaidd sydd fwyaf addas i'w hardal nhw.

“Mae bysedd-y-blaidd yn opsiwn llawer mwy deniadol i'r ffermwr tir âr nag y buont ddim ond blwyddyn yn ôl,” ychwanegodd.

Ar ben hynny, dywedodd: “Mae'r rhan fwyaf o ffermio llaeth yn Awstralia wedi'i seilio ar brotein bysedd-y-blaidd, ond mae'r prosiect hwn wedi clirio'r cwmwl a fu'n aros uwch ein pennau ers blynyddoedd, sef a yw bysedd-y-blaidd cystal â hynny mewn gwirionedd? A'r ateb yw 'ydyn, maen nhw'.”

Ond, yn anffodus: “Oherwydd nad oes galw yn y farchnad, dyma ni mewn sefyllfa nodweddiadol 'yr wy ynteu'r iâr' gan nad yw'r sector porthiant wedi dweud y byddent yn prynu miloedd o dunelli ohono.”

Serch hynny, awgrymodd Emyr Jones o Wynnstay y byddai cynhyrchwr porthiant yn debyg o neilltuo bin deunydd craidd i fysedd-y-blaidd pe bai modd cael ymrwymiad blynyddol o leiaf 2,000 tunnell gan dyfwyr.

“Bob tro yr edrychwn ni ar gynnyrch, rhaid inni fod yn siŵr y byddwn yn ei gael am y cyfnod cyfan,” meddai, gan ychwanegu y gellir disgwyl y byddai Wynnstay yn dechrau defnyddio bysedd-y-blaidd mewn porthiant dofednod ac y byddent yn symud ymlaen i rywogaethau eraill o dda byw.

Ond dywedodd mai'r adwerthwyr fyddai'n gorfod gyrru'r newid drwy annog ffermwyr i ddefnyddio proteinau a dyfir yma.

“Rhaid inni siarad â'r adwerthwyr a dweud wrthynt fod gennym yr ateb i broblemau sicrhau cyflenwadau protein, ond mae'n rhaid inni weithio fel tîm,” meddai.

Dywedodd Tony Burgess y byddai'n newid y porthiant i'w ddofednod cyn gynted ag y byddai'n ymarferol bosib, gan ychwanegu: “Ymhen tair blynedd, hoffwn weld cefn gwlad Prydain yn fôr o fysedd-y-blaidd.”

Gweler y blychau isod:

Bysedd-y-blaidd: y rhesymeg  

  • Nid yw'r Deyrnas Gyfunol yn hunangynhaliol o ran protein
  • Mae soia fel ffynhonnell o brotein yn ddrud 
  • Mae'n fwyfwy anodd cael gafael ar soia sydd heb ei addasu'n enetig ac mae'n mynd yn fwyfwy drud
  • Mae cadwyn gyflenwi ryngwladol soia yn hir ac mae'n anodd bod yn hyderus ynghylch ei darddiad
  • Drwy ddibynnu ar soia, rydym yn agored i farchnadoedd y byd sy'n mynd yn fwyfwy annibynadwy
  • Awydd eang i wella sicrwydd cyflenwad bwydydd Prydain
  • Galw disgwyliedig ymhlith adwerthwyr am brotein a gynhyrchir ym Mhrydain mewn porthiant anifeiliaid

Bysedd-y-blaidd: y prif fanteision

  • Porthiant uchel ei brotein amrwd, sef 28-48%
  • Proffil asidau amino da
  • Perfformiad da yn yr anifeiliaid a throsglwyddiad porthiant da
  • Sefydlogi nitrogen yn wych, gan olygu bod angen defnyddio llai o wrtaith sachau 
  • Hawdd ei brosesu a'i gadw ar y fferm
  • Dewis da o gnwd ar gyfer y rheolau 'gwyrddio' newydd yn y PAC
  • Cnwd incwm posib i ffermwyr tir âr
  • Cadwyn gyflenwi fer a sicrwydd o darddiad y cnwd pan y'i tyfir ym Mhrydain
  • Marchnad dda yn y diwydiant fferyllol am y masglau fel sgil-gynnyrch

* Mae'r prosiect ymchwil tair blynedd, LUKAA (Bysedd-y-blaidd yn Amaethyddiaeth a Dyframaeth yn y DG) yn fenter gydweithredol rhwng partneriaid yn y diwydiant: sef Wyau Birchgrove, Alltech, Alvan Blanch, Ecomarine, Germinal, Kelvin Cave Cyf, PGRO, Soya UK, NIAB TAG a Grŵp Wynnstay CCC ar y cyd â Phrifysgolion Aberystwyth a Plymouth.

Innovate UK
Innovate UK yw'r enw newydd ar gyfer y Bwrdd Strategaeth Technoleg - asiantaeth arloesi y DG. Mae cymeryd syniadau newydd i'r farchnad yn her. Mae Innovate UK yn cefnogi ac yn cysylltu busnesau arloesol drwy gymysgedd unigryw o bobl a rhaglenni i gyflymu twf economaidd cynaliadwy. Am wybodaeth bellach ewch i : https://www.gov.uk/government/organisations/innovate-uk