Cynhadledd Ffederasiwn Tir Glas Ewropeaidd i’w gynnal ym Mhrifysgol Aberystwyth

28 Awst 2014

Bydd cannoedd o arbenigwyr glaswelltir o bob rhan o'r byd yn dathlu 50 mlynedd o’r Ffederasiwn Tir Glas Ewropeaidd mewn cynhadledd yn Aberystwyth rhwng 7-11 Medi 2014.

Mae Aberystwyth wedi cael ei gysylltu'n gryf ag amaethyddiaeth glaswelltir ac yn arbennig bridio cnydau porthiant a grawn ers sefydlu Bridfa Blanhigion Cymru (WPBS) yn 1919.

Y gwyddonydd glaswelltir dylanwadol a’r amgylcheddwr Syr George Stapledon oedd ei Gyfarwyddwr cyntaf, swydd y bu ynddi o 1919 i 1942. Dadleuodd Stapledon fod glaswelltiroedd wrth wraidd amaethyddiaeth lwyddiannus, a oedd yn ei dro wrth wraidd lles economaidd Prydain. Am flynyddoedd lawer, roedd ei weledigaeth yn gysylltiedig â'r gofyniad i gynyddu cynhyrchu o bob math o laswelltir.

Hwn fydd y 25ain Cyfarfod Cyffredinol o’r Ffederasiwn Tir Glas Ewropeaidd, sydd yn  cyfarfod ddwywaith y flwyddyn, ac fe fydd yn dwyn y teitl  'EGF yn 50: dyfodol Glaswelltiroedd Ewropeaidd'. 

Dywedodd Dr Athole Marshall, Llywydd yr EGF a Phennaeth Bridio Planhigion y Cyhoedd yn IBERS, Prifysgol Aberystwyth, "Mae Tir Glas yn cyflawni pwrpas gwirioneddol amlswyddogaethol, drwy gyflenwi porthiant ar gyfer anifeiliaid, rheoleiddio llif dwr, storio carbon, atal erydiad pridd, darparu cynefinoedd ar gyfer rhywogaethau ar draws y gadwyn fwyd, ac yn chwarae rôl ddiwylliannol bwysig yn y gymdeithas.

"Fodd bynnag, mae'r cyhoedd yn gyffredinol yn anymwybodol o werth gwirioneddol glaswelltir, ac rydym ni fel gwyddonwyr glaswelltir angen gwneud mwy i roi gwybod i bobl am bwysigrwydd glaswellt yn ein bywydau bob dydd, a hwn fydd un o’r ystod eang o bynciau y byddwn yn trafod yn ystod yr wythnos."

Sefydlwyd yr EGF yn 1964 fel fforwm i weithwyr ymchwil, cynghorwyr, athrawon, ffermwyr a llunwyr polisi gyda diddordeb gweithredol ym mhob agwedd ar laswelltiroedd yn Ewrop.

Ei amcanion yw hyrwyddo a chynnal cyswllt agos rhwng sefydliadau glaswelltir yn Ewrop, i hyrwyddo'r gyfnewidfa o brofiad gwyddonol ac ymarferol rhwng arbenigwyr glaswelltir ac i gychwyn cynadleddau a chyfarfodydd eraill ar bob agwedd o gynhyrchu glaswelltir a defnyddio yn Ewrop.

Mae'r amgylchedd y mae amaethyddiaeth yn gweithredu ynddo yn y Deyrnas Gyfunol a gwledydd Ewropeaidd eraill wedi newid yn ddramatig ers amser Stapledon, ac mae'r ffocws angenrheidiol ar gynyddu cynhyrchiant a oedd yn bodoli yn ystod cyfnod cynnar a chanol yr ugeinfed ganrif bellach wedi ehangu i ymgorffori pryderon amgylcheddol. Mae gorgynhyrchu wedi cael ei wirio gan nifer o sbardunau gwleidyddol ac economaidd, ac mae'r pwyslais yn awr yn gadarn ar gynaliadwyedd.