IBERS yng Ngŵyl Fawr Biowyddoniaeth Prydain
11 Tachwedd 2014
IBERS yng Ngŵyl Fawr Biowyddoniaeth Prydain
Bydd Athrofa’r Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig (IBERS) yn arddangos yn yng Ngŵyl Fawr Biowyddoniaeth Prydain o ddydd Gwener 14 tan ddydd Sul 16 Tachwedd.
Bydd tîm o ymchwilwyr o Brifysgol Aberystwyth yn teithio i ddwyrain Llundain i arddangos y gorau o Fiowyddoniaeth Prydain.
Mae Gŵyl Fawr Biowyddoniaeth Prydain yn ddiweddglo o daith blwyddyn sydd wedi galluogi ymwelwyr i archwilio byd rhyfeddol bioleg trwy arddangosfeydd gwyddoniaeth rhyngweithiol gan wyddonwyr go iawn.
Bydd Dr Athole Marshall a'r tîm yn arddangos 'Bwyd, yr amgylchedd ac ynni - glaswellt yn sicrhau eu dyfodol' yn yr ŵyl yn Museum Gardens, Bethnal Green, Llundain.
Dywedodd Dr Marshall; "Ar 14-16 Tachwedd, bydd ein harddangosfa yn rhan o Ŵyl Fawr Biowyddoniaeth Prydain y BBSRC. Bydd ymwelwyr yn gallu dysgu pam bod glaswellt yn bwysicach nag y mae pobl yn ei feddwl. Gall ymwelwyr ddod i weld sut mae ein bio-wyddonwyr yn gweithio i ddeall cyfrinachau glaswellt a sut y gallant fridio gwahanol fathau ar gyfer defnydd gwahanol.”
Mae'r arddangosyn yn seiliedig ar ‘blanhigyn’ ryngweithiol enfawr sy'n cynnwys rhygwellt, ceirch a hesg eliffant Asiaidd.
Mae'r ŵyl hon, sydd yn rhad ac am ddim, yn addas ar gyfer y teulu cyfan, ac yn cynnig mwy na 20 o arddangosfeydd cyffrous a rhyngweithiol.
Dywedodd Yr Athro Jackie Hunter, Prif Weithredwr BBSRC: "Bydd Gŵyl Fawr Biowyddoniaeth Prydain yn gyfle unigryw i’r BBSRC a’n gwyddonwyr i ddod ag ymchwil biowyddoniaeth sy’n ysbyrdoli i ddwyrain Llundain. Bydd amrywiaeth o arddangosfeydd difyr a diddorol yn cael eu cynnig, sy’n tynnu sylw at y gorau o biowyddoniaeth o'r radd flaenaf a noddir gan y BBSRC.”
I gael rhagor o wybodaeth am yr holl arddangosfeydd a fydd yng Ngŵyl Fawr Biowyddoniaeth Prydain ewch i: www.bbsrc.ac.uk/gbbioscifest.
Trefnir Gŵyl Fawr Biowyddoniaeth Prydain gan y BBSRC mewn partneriaeth gyda Gŵyl Wyddoniaeth LND.
Am y newyddion diweddaraf o’r ŵyl ar Twitter, defnyddiwch #GBbioscifest a #LSF14.