Her bioamrywiaeth i ffermio organig

Dr Peter Dennis, IBERS

Dr Peter Dennis, IBERS

24 Mehefin 2014

Yn ôl adroddiad a gyhoeddwyd heddiw (dydd Mawrth 24 Mehefin) yn y cyfnodolyn gwyddonol Nature Communications mae angen gweithredu sydd wedi’i dargedu ar gyfer sicrhau bioamrywiaeth mewn amaethyddiaeth organig yn ogystal â systemau ffermio confensiynol.

Bu tîm rhyngwladol dan arweiniad Agroscope yn y Swistir, gan gynnwys tîm ymchwil o Brifysgol Aberystwyth yng ngofal y gwyddonydd o IBERS Dr Peter Dennis, yn gweithio ar brosiect BioBio, gan ymchwilio i’r cyfraniad mae ffermio organig yn ei wneud i ddiogelu bioamrywiaeth tir fferm.
Bu’r astudiaeth yn archwilio ffermydd mewn deg o ranbarthau yn Ewrop a dau yn yr Affrig oedd â systemau cynhyrchu gwahanol. Ym mhob rhanbarth, dewiswyd rhwng dwsin ac ugain o ffermydd ar hap, gyda hanner o’r rhain wedi’u hardystio’n organig ers o leiaf pum mlynedd. Ni osodwyd unrhyw gyfyngiadau ar weddill y ffermydd.

Mae’r papur “Gains to species diversity in organically farmed fields are not propagated at the farm level” Schneider M.K. et al. (2014) ar gael ar-lein yma http://bit.ly/1iBHVER.

Dechreuodd y gwaith yn 2010 gyda’r holl ganlyniadau yn cael eu casglu a’u cwblhau yn 2013 ac roedd diddordeb arbennig gan yr ymchwilwyr yng ngraddfa’r fferm h.y. a yw ffermydd organig yn lletya mwy o rywogaethau na’u cymdogion anorganig.

Dywedodd Dr Peter Dennis; “Mae angen mwy na ffermio organig i gynnal bioamrywiaeth tir fferm. “Cawsom ein synnu na welsom ni nifer uwch o gynefinoedd gwahanol ar ffermydd organig nag ar rai anorganig, ar gyfartaledd dros y deuddeg rhanbarth. Fodd bynnag, roedd yn amlwg fod amrywiaeth y cynefinoedd yn allweddol i amrywiaeth y rhywogaethau. “Os yw’r cynefinoedd ychwanegol hyn yn wahanol i weddill y fferm, er enghraifft gwrychoedd mewn ffermydd glaswelltir neu leiniau llysieuol mewn ffermydd âr, maen nhw’n cael effaith enfawr ar y cyfoeth o rywogaethau ar fferm. “Rydym ni’n argymell bod ffermwyr yn cynyddu’r nifer o gynefinoedd ar eu ffermydd, a gallwn drafod sut y gellir cyflawni hyn gyda ffermwyr sydd â diddordeb.”

Y prif fentrau ffermydd yr ymchwiliwyd iddynt yn yr astudiaeth achos yng Nghymru oedd cynhyrchu da byw. Roedd pob un o’r ugain o ffermydd yng Nghymru (lle cynhaliwyd arolwg o gynefinoedd a phlanhigion; 16 am bryfaid genwair, pryfaid cop a gwenyn) wedi’u lleoli yng nghategorïau ymylon yr ucheldir, yr ucheldiroedd neu fryniau o fewn yr Ardal Lai Ffafriol. Boed yn system reoli organig neu gonfensiynol, roedd pob fferm yn ymarfer rheolaeth dwysedd isel i ganolig, felly roedd llai o wahaniaeth wrth gymharu mewnbwn maethion a gweithrediadau mecanyddol.

Cofnodwyd enillion cyson o ran cyfanswm cyfoeth y rhywogaethau mewn grwpiau planhigion ac anifeiliaid a gofnodwyd mewn glaswelltir a reolwyd ar ffermydd organig o’u cymharu â ffermydd confensiynol.
Nid oedd enillion sylweddol o ran rhywogaethau yn unrhyw un o’r grwpiau dangosol ar lefel y fferm ar gyfer organig o’i gymharu â ffermydd confensiynol.

Un esboniad yw’r cyfoeth uchel o gynefinoedd ar draws y ddau gategori o ffermydd yng Nghymru, gyda chyfartaledd o 12-15 cynefin lled-naturiol gwahanol, ac un o’r astudiaethau achos rhanbarthol â’r gwerthoedd uchaf (y lleill yw Gasconi yn Ffrainc a Bafaria yn yr Almaen). Mae’r cynefinoedd lled-naturiol hyn yn cyfrif am y mwyafrif o rywogaethau ar fferm benodol.

Roedd ffermydd Cymru yn gyffredinol yn cynnal nifer uchel o rywogaethau o bryfaid cop ac roedd un fferm lle cofnodwyd y nifer uchaf o rywogaethau o bryfaid cop o blith pob un o’r 205 fferm ar draws Ewrop a gogledd a dwyrain Affrica!