Datrys dirgelwch croen y cramenogion

Dr David Wilcockson

Dr David Wilcockson

16 Mehefin 2014

Mae’r Dr David Wilcockson, sydd yn Fiolegydd Morol yn IBERS, wedi ennill Grant Modd Ymatebol gan y BBSRC gwerth £320k i ariannu prosiect ymchwil tair blynedd i geisio datrys dirgelion sut y mae hormonau pryfed a chramenogion yn rheoli’r modd y mae’r anifeiliaid yn bwrw eu croen.

Bydd prosiect newydd a ariennir gan y BBSRC, dan arweiniad y Dr. David Wilcockson, yn ceisio dangos sut y mae pryfed a chramenogion (Crustacea), sydd yn rhan o deulu’r arthropodau, ac a esblygodd o hynafiad cyffredin fwy na 500 miliwn o flynyddoedd yn ôl, wedi cadw nodweddion sy’n drawiadol o debyg yn y systemau hormonaidd cymhleth sy’n rheoli’r modd y mae’r anifeiliaid yn bwrw eu croen.

Mae pryfed a chramenogion yn bwrw eu croen er mwyn iddynt allu tyfu, gan fwrw eu holl allsgerbwd o bryd i’w gilydd. Mae’r tîm eisoes wedi arwain y ffordd yn yr ymchwil hon, ac wedi datgelu nodweddion tebyg yn yr hormonau sy’n rheoli bwrw’r croen. Y farn cyn y gwaith ymchwil hwnnw oedd bod y nodweddion hynny’n wahanol iawn.  

Dywedodd Dr Wilcockson, “Cramenogion a phryfed yw dau o’r grwpiau pwysicaf o anifeiliaid ar y blaned, o safbwynt eu niferoedd, a’u heffaith ar ecoleg, yr economi ac iechyd.” Aeth yn ei flaen i ddisgrifio pwysigrwydd bwrw’r croen, “Mae’n holl bwysig er mwyn i arthropodau allu tyfu ac felly mae ymhlith y ffenomena pwysicaf ym myd natur. Drwy feithrin gwell dealltwriaeth o’r hyn sy’n rheoli’r modd y mae’r anifeiliaid hyn yn bwrw eu croen, mae’n bosib y bydd goblygiadau pwysig, er enghraifft, i ddyframaeth, lle mae rheoli twf cramenogion yn broblem fawr. Mae’r grant hwn yn gyffrous iawn oherwydd y gallwn yn awr gymryd camau breision i wella ein dealltwriaeth o’r digwyddiad hanfodol hwn ym mywydau arthropodau.”

Mae’r Dr David Wilcockson, sydd yn fiolegydd morol yn IBERS, wedi cael grant gan y Cyngor Ymchwil Biotechnoleg a’r Gwyddorau Biolegol (BBSRC) i ariannu ymchwil i’r ffordd y mae hormonau yn rheoli bwrw croen y cramenogion. Ar y cyd  â’r Athro Simon Webster ym Mhrifysgol Bangor a’r Dr Martin Swain (IBERS), mae’r tîm wedi cael mwy na £700k i gynnal astudiaeth am dair blynedd a fydd yn cyflogi 2 aelod o staff ymchwil ôl-ddoethurol. Bydd y gwaith yn dechrau yn hydref 2014. Mae llwyddiant y cais hwn am arian mewn maes sy’n ffyrnig o gystadleuol yn adlewyrchu’r bri rhyngwladol sydd i IBERS ym maes bioleg ddyfrol ac mae’n atgyfnerthu ymhellach y cydweithredu sy’n digwydd â Phrifysgol Bangor (yr Athro Simon Webster).

Bydd y prosiect yn cyflogi staff ymchwil, a bydd hynny’n sicrhau buddion ychwanegol i’r Brifysgol a’r gymuned fel ei gilydd.

Bydd y gwaith yn manteisio ar adnoddau genomeg IBERS a’r offer mynegiant genynnau llif-uchel a osodwyd yn ddiweddar yn IBERS ac a ariannwyd gan y BBSRC.