IBERS yn creu budd economaidd o £365m
Tŷ Gwydr y Ganolfan Ffenomeg Genedlaethol yn IBERS, Prifysgol Aberystwyth
10 Mehefin 2014
Fe gynhyrchodd pob £1 o’r arian cyhoeddus a fuddsoddwyd yn Athrofa Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig (IBERS) Prifysgol Aberystwyth £12.18 o fudd i economi’r Deyrnas Gyfunol yn 2012/13.
Mae IBERS yn cael ai ariannu yn strategol gan y BBSRC (Cyngor Ymchwil y Gwyddorau Biotechnoleg a Biolegol) ac fe gynhyrchodd IBERS fuddiannau economaidd o £365 miliwn Gwerth Ychwanegol Crynswth (GYC) ar gyfer economi’r DG gan gefnogi bron 2,450 o swyddi.
Dyna gasgliad adroddiad annibynnol yn dadansoddi effaith y ganolfan ymchwil a dysgu a gydnabyddir yn rhyngwladol ym Mhrifysgol Aberystwyth gan un o’r prif ymgynghorwyr economaidd annibynnol, BIGGAR Economics.
Mae’r adroddiad yn tynnu sylw at sut y mae gwaith ymchwil sylfaenol a chymhwysol eisoes wedi cael effaith a sut y bydd yn parhau i wneud hynny.
Mae copi o’r adroddiad ar gael yma.
Mae gweithgaredd ymchwil IBERS yn cynhyrchu amrywiaeth o gynnyrch a ddatblygir trwy ymchwil, ac mae masnacheiddio’r cynnyrch yma yn creu cyfoeth ac yn cefnogi swyddi ledled y DG.
Mae canlyniadau’r ymchwil hefyd yn sail i weithgareddau dysgu yn IBERS, sy’n cyfrannu at gynhyrchiant graddedigion IBERS a’r cwmnïoedd sy’n eu cyflogi.
Gyda’i gilydd, mae’r gweithgaredd yma yn helpu i annog gwelliannau hirdymor i gynhyrchiant amaethyddiaeth y DG ac amrywiaeth o fuddiannau ehangach, na ellir eu mesur o fewn i’r DG a thramor.
Dyma’r uchafbwyntiau:
- Cynhyrchodd gweithgaredd masnacheiddio fwy na £14 million GYC ar gyfer economi’r DG, gan gefnogi bron 250 o swyddi. Mae gan IBERS gysylltiadau cryf ers tro ag amrywiaeth o bartneriaid mewn diwydiant sy’n ei galluogi i chwarae rhan sylfaenol wrth gefnogi cynhyrchiant sector bwyd-amaeth y DG.
- Mae’r mathau arbenigol o blanhigion a ddatblygwyd gan wyddonwyr IBERS yn darparu 14% o’r holl fewnbwn o ran maeth sydd ei angen ar y 32.6 miliwn o wartheg a defaid a fagir yn y DG bob blwyddyn, ac yn cynhyrchu £6.3 miliwn trwy werthu hadau.
- Bob blwyddyn bydd graddedigion IBERS yn mynd â’r hyn a ddysgwyd ganddynt yn ystod eu hastudiaethau i’r gweithle, gan helpu i wella cynhyrchiant diwydiant y DG. Gellir mesur y buddiant cynhyrchiant hwn gan yr incwm ychwanegol y mae graddedigion yn ei ennill oherwydd bod ganddynt radd. Amcangyfrifir bod y gwelliant cynhyrchiant hwn wedi cyfrannu mwy na £23 miliwn GYC at economi’r DG yn 2012/13.
- Mae 65% o’r holl fathau o geirch a ddefnyddir yn y DG bob blwyddyn wedi eu datblygu gan IBERS. Amcangyfrifir bod cyfraniad IBERS i farchnad geirch y DG wedi cynhyrchu mwy na £19 miliwn GYC ar gyfer economi’r DG yn 2012/13, gan gefnogi mwy nag 800 o swyddi.
Dywedodd yr Athro April McMahon, Is-Ganghellor Prifysgol Aberystwyth; "Mae'r adroddiad hwn yn tanlinellu’r gwaith ardderchog sy'n digwydd yn IBERS a’r cyfraniad sylweddol y mae'n ei wneud i'r economi yn ei chyfanrwydd ac i'r sector amaethyddol yn fwy penodol.
"Mae Prifysgol Aberystwyth wedi ymrwymo i adeiladu ar y llwyddiant a adroddir yma gan Biggar Economics.
Mae'r Brifysgol yn buddsoddi dros £100m mewn cyfleusterau newydd. Un o elfennau allweddol y rhaglen hon yw datblygiad £35m Campws Arloesi a Menter Aberystwyth yng Ngogerddan, lle mae llawer o'r ymchwil a wneir gan IBERS yn digwydd.
Gyda chefnogaeth gan y BBSRC, bydd y cyfleusterau newydd ar gyfer cwmnïau masnachol ac ymchwilwyr yn chwarae rôl arwyddocaol mewn datblygu cynhyrchion newydd, yn seiliedig ar ddulliau modern o fridio planhigion, sy'n hanfodol wrth i ni fynd i'r afael â materion allweddol bwyd, dŵr ac ynni mewn byd sydd wastad yn newid.
Athrofa Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig (IBERS)
Mae’r Athrofa Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig ( IBERS ) yn ganolfan ymchwil a dysgu a gydnabyddir yn rhyngwladol ac yn sylfaen unigryw ar gyfer ymchwil mewn ymateb i heriau byd-eang megis diogelwch bwyd, bio-ynni a chynaliadwyedd, ac effeithiau newid hinsawdd. Mae gwyddonwyr IBERS yn cynnal ymchwil sylfaenol, strategol a chymhwysol o enynnau a moleciwlau i organebau a'r amgylchedd.
Mae IBERS yn derbyn cyllid ymchwil strategol gan Gyngor Ymchwil y Gwyddorau Biotechnoleg a Biolegol (BBSRC) i gefnogi ymchwil a yrrir gan genhadaeth tymor hir, ac mae'n aelod o Sefydliad Cenedlaethol y Biowyddorau. Mae IBERS yn elwa hefyd o gymorth ariannol gan Lywodraeth Cymru , DEFRA a'r Undeb Ewropeaidd.
Mae IBERS yn gweithio gyda phartneriaid academaidd a diwydiannol, yn datblygu a chyfieithu ymchwil biowyddoniaeth arloesol a chanfod atebion i liniaru effeithiau newid yn yr hinsawdd, clefydau planhigion ac anifeiliaid, a darparu ynni adnewyddadwy a sicrwydd bwyd a dŵr.