Dr David Whitworth yn cael ei wobrwyo gyda Gwobr Cymrodoriaeth
Dr David Whitworth
23 Gorffennaf 2014
Fe wnaeth Dr David Whitworth dderbyn Cymrodoriaeth Dysgu ac Addysgu wythnos diwethaf ac mae wedi cael ei gydnabod am y cyfraniad eithriadol mae wedi ei wneud addysgu a dysgu yn y Brifysgol.
Bob blwyddyn, mae Prifysgol Aberystwyth yn gwobrwyo aelodau staff academaidd gyda Chymrodoriaethau Dysgu sydd wedi rhagori yn eu maes.
Cafodd y Gwobrau eu cyflwyno i bum ymgeisydd llwyddiannus yn ystod Seremoni Raddio eleni a gafodd eu cynnal rhwng y 14eg-18fed o Orffennaf 2014.
Ymunodd Dr Whitworth a Sefydliad y Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig (IBERS) Prifysgol Aberystwyth yn 2007 fel Darlithydd mewn Biocemeg, a chafodd ei ddyrchafu'n Uwch Ddarlithydd yn 2012.
Tra yn Aberystwyth, mae Dr Whitworth wedi bod yn gyfrifol am Fiocemeg a Geneteg ac mae ei ddiddordebau ymchwil yn cynnwys geneteg foleciwlaidd, signalau cymdeithasol a biocemeg protein mewn bacteria.
Meddai, "Mae fy addysgu yn canolbwyntio ar sgiliau ymarferol a chyfathrebu gwyddoniaeth, yr wyf yn gweld yn allweddol i gyflogadwyedd yn y gwyddorau biolegol. Rwy'n ceisio addysgu ac asesu myfyrwyr mewn ffyrdd arloesol, i ysgogi eu hannibyniaeth, creadigrwydd a phrofiad.
"Mae'r Wobr hon yn gadarnhad o fy addysgu, a bydd yn caniatáu i mi i wella addysgu biocemeg ymhellach yn Aberystwyth, cryfhau'r berthynas rhwng y labordy ymchwil a’r dosbarth hyd yn oed yn fwy."
Y pedwar aelod academaidd eraill a gafodd eu cyflwyno oedd Dr Antonia Ivaldi, o’r Adran Seicoleg, Yr Athro Len Scott o’r Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol, Graham Lewis o'r Ganolfan ar gyfer Datblygu Staff ac Ymarfer Academaidd a Nitin Naik o’r Adran Gyfrifiadureg. Nod y cynllun yw codi proffil addysgu neu gefnogaeth ar gyfer dysgu yn y Brifysgol a chydnabod dylanwad lleol ac ehangach unigolyn ar y gymuned addysgu.
Eglurodd yr Athro Tim Woods, Cyfarwyddwr y Sefydliad Addysg, Proffesiynol a Datblygu Graddedigion ym Mhrifysgol Aberystwyth a Chadeirydd y Panel Gwobrau, "Mae'r unigolion hyn wedi gwneud cyfraniad sylweddol at addysgu a dysgu yn y Brifysgol ac wedi mynd y tu hwnt i’r hyn sydd yn ofynnol ohonynt ar sawl achlysur.
“Yr unigolion yma yw ein prif hyrwyddwyr mewn dysgu ac addysgu sydd yn aml yn ysbrydoli arloesedd a lledaenu arferion da o fewn y Brifysgol.
"Mae pob Cymrawd wedi derbyn £1,200 i'w cefnogi er mwyn parhau gyda'u datblygiad proffesiynol mewn addysgu neu ddysgu."
Mae Cronfa Gwella Dysgu ac Addysgu hefyd ar gael ar gyfer prosiectau sy'n gwella dysgu ac addysgu sydd yn cynnwys mwy nag un adran academaidd neu a ellir ei ddefnyddio ar draws adrannau.
Mae'r Gronfa yn canolbwyntio ar feysydd a amlygwyd yn Strategaeth Ehangu Mynediad Dysgu Aberystwyth / Bangor, ac yn cynnig hyd at uchafswm o £2,000 y prosiect.
Roedd Dr Hannah Dee o'r Adran Gyfrifiadureg, Dr Sarah Riley o'r Adran Seicoleg a Richard Williams a Dr Stephen Tooth yr Adran Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear i gyd yn llwyddiannus gyda'u ceisiadau.