Ateb gwreiddiol i atal llifogydd
Dr Mike Humphreys
19 Chwefror 2014
Mae gwyddonwyr yn Athrofa'r Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig (IBERS) ym Mhrifysgol Aberystwyth yn gweithio gyda phartneriaid yn Rothamsted Research North Wyke yn Nyfnaint i ddatblygu glaswelltydd newydd a fydd yn galluogi priddoedd glaswelltir i ddal mwy o ddŵr glaw, a fydd yn lleihau'r risg o lifogydd i lawr yr afon.
Mae prosiect LINK hwn o’r enw SUREROOT, a fydd yn para 5 mlynedd, ac yn werth £2.5 miliwn, yn cael ei ariannu gan y BBSRC (Cyngor Ymchwil Biotechnoleg a Gwyddorau Biolegol), gydag arian cyfatebol gan ystod o bartneriaid diwydiannol ar draws y sbectrwm cynhyrchu bwyd, gan gynnwys cwmni hadau, cwmnïau cig, dofednod a llaeth, a chwmni manwerthu mawr.
Mae ardaloedd mawr o'r Deyrnas Gyfunol dan fygythiad parhaus ac eang o gael llifogydd sy'n niweidio cartrefi, ac yn achosi colledion sylweddol i economi'r DG ac i gynhyrchu amaethyddol (ee. amcangyfrifir tua £600m o golledion yn 2012). Glastiroedd ucheldir yw llawer o ddalgylchoedd ein hafonydd, a’r rheini, yn bennaf yn ardaloedd gwlypaf y DG.
Pe bai modd lleihau cyfraddau’r dŵr sydd yn rhedeg oddi ar y tir a dal glaw yn fwy effeithiol mewn priddoedd glaswelltir, fe all effeithiau gwaethaf glaw trwm i lawr yr afon gael eu lleihau.
Mae prosiect SUREROOT yn adeiladu ar sylfaen ymchwil cynharach a ariannwyd gan y BBSRC a gyhoeddwyd y llynedd yn Nature Journal Scientific Reports (Adroddiadau Gwyddonol SREP -12 - 03690.3d) a adroddodd fod glaswelltydd croesfrid a elwir yn festulolium ac a ddatblygwyd yn wreiddiol ar gyfer amaethyddiaeth da byw, hefyd yn meddu ar briodweddau cudd tanddaearol nad oeddynt yn hysbys cyn hyn.
Dywedodd Dr Mike Humphreys, sydd yn arwain y prosiect yn IBERS,
“Mae festulolium, a ddiffinnir fel croesiad naturiol rhwng rhywogaethau rhygwellt a pheiswellt, yn laswellt pwysig ar gyfer y dyfodol. Dyma’r ffordd ymlaen ar gyfer amaethu da byw mewn modd cynaliadwy.
“Mae’r grŵp planhigion festulolium yn amrywio’n eang yn eu priodweddau, ond mae IBERS wedi datblygu opsiynau sy'n darparu planhigion sy’n fwy gwydn yn wyneb effeithiau newid yn yr hinsawdd ac yn fwy o effeithlon o ran defnyddio dŵr a maetholion, ynghyd â nifer o enghreifftiau o’u defnyddioldeb o safbwynt amgylcheddol. Mae eu systemau gwreiddiau mawr sydd wedi datblygu'n dda yn helpu i liniaru ar lifogydd, yn lleihau erydu a chywasgu pridd, ac yn cynnig cyfleoedd ar gyfer dal a storio meintiau sylweddol o garbon yn ddwfn mewn priddoedd.”
Mae’r rhyngweithiadau rhwng y gwreiddiau â’r pridd yn newid strwythur y pridd, gan arwain at fwy o ddŵr yn cael ei ddal, gyda gostyngiad hirdymor a sylweddol, sef 51%, mewn glaw yn rhedeg oddi ar y tir o'i gymharu â glaswelltydd cyfatebol a oedd yn tyfu wrth ei ochr ac sy'n cael eu defnyddio yn helaeth ar hyn o bryd ledled y DG.
Bydd prosiect SUREROOT yn asesu effeithlonrwydd ac effeithiolrwydd y rhain a glaswelltydd newydd eraill, o safbwynt eu cynhyrchu’n amaethyddol o dan amrywiaeth o wahanol systemau rheoli da byw, ac o safbwynt eu priodweddau lliniaru llifogydd mewn gwahanol leoliadau yn y DG ac ar wahanol raddfeydd.
Bydd newidiadau'n cael eu gwneud i adeiladwaith gwreiddiau glaswelltydd a meillion ac i’w patrymau twf, a bydd eu heffaith ar strwythur y pridd a hydroleg pe baent yn cael eu tyfu ar raddfa fawr yn cael ei hasesu.
Os yw'r canfyddiadau cadarnhaol cychwynnol yn cael eu hatgynhyrchu ar raddfa fawr, mae hyn yn awgrymu cam sylweddol ymlaen o ran lleihau llifogydd.
Mae'r mathau o laswellt a meillion sydd yn cael eu bridio yn IBERS yn cael eu datblygu yn fwyfwy ar gyfer eu priodweddau cyfannol sy'n anelu at ddiogelu cynhyrchu amaethyddol ar adeg o newid yn yr hinsawdd, yn ogystal â darparu gwasanaeth ychwanegol i ecosystemau. Bydd angen dulliau amaethyddol sy’n rhoi ystyriaeth i’r hinsawdd er mwyn manteisio'n llawn ar y datblygiadau newydd hyn.
Mae gwaith arloesol wedi datgelu priodweddau tebyg mewn meillion a bydd y rhain hefyd yn cael eu hymchwilio yn annibynnol ac fel cymysgeddau gyda rhygwellt a festulolium.
Er mwyn cyflawni ei amcanion mi fydd prosiect SUREROOT yn defnyddio, am y tro cyntaf, Cyfleusterau Ffenoteipio Gallu Cenedlaethol newydd o’r radd flaenaf a ariennir gan y BBSRC, sef Canolfan Genedlaethol Ffenomeg Planhigion yn IBERS, Prifysgol Aberystwyth, a Llwyfan Fferm Gogledd Wyke yn Rothamsted Research yn Nyfnaint.