Prifysgol Aberystwyth yn sicrhau lle mewn consortiwm gwerth €2.1bn
17 Rhagfyr 2014
Mae Athrofa’r Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig Amgylcheddol ym Mhrifysgol Aberystwyth wedi sicrhau ei lle yn InnoLife, consortiwm o 144 o gwmnïau, sefydliadau ymchwil a phrifysgolion Ewropeaidd sy'n caniatáu mynediad i geisiadau am €2.1bn o arian Ewropeaidd.
Dewisiwyd InnoLife gan y Sefydliad Arloesi a Thechnoleg Ewropeaidd (EIT) yn Gymuned Wybodaeth ac Arloesi (KIC) ar gyfer EIT Iechyd. Gyda chronfa o €2.1 biliwn, mae hon yn un o’r mentrau iechyd mwyaf yn byd i’w chyllido gan arian cyhoeddus.
Nod InnoLife yw cyfrannu at wella gallu diwydiant yn Ewrop i gystadlu, gwella ansawdd bywyd dinasyddion Ewrop a chynaliadwyedd y system gofal iechyd. Bydd y bartneriaeth yn hyrwyddo entrepreneuriaeth a datblygu dyfeisiadau newydd ar gyfer byw yn iach a bywyd hŷn gweithgar.
Mae Prifysgol Aberystwyth yn Bartner Cyswllt yn y consortiwm, a fydd yn golygu y bydd y Brifysgol yn awr yn gallu cymryd rhan mewn mentrau addysg, ymchwil a busnes a ariennir, yr unig Brifysgol yng Nghymru i fod yn y sefyllfa hon.
Mae'r partneriaid a phartneriaid cysylltiol yn y Deyrnas Gyfunol yn cynnwys Coleg Imperial Llundain; Intel; Prifysgol Newcastle; Medtronic; Coleg y Drindod, Dulyn; Prifysgol Rhydychen; Rhwydwaith Academaidd Gwyddoniaeth Iechyd Canolbarth Lloegr; Abbvie Iwerddon; AstraZeneca; BioInnovate; Healthbox; Partneriaid Iechyd Coleg Imperial; Nuffield Health; Rhwydwaith Academaidd Gwyddoniaeth Iechyd Arfordir Gogledd Orllewin; OBN; Rhwydwaith Academaidd Gwyddoniaeth Iechyd Rhydychen; Procter & Gamble; Red and Yellow Care; a Phrifysgol Caergrawnt.
Dywedodd yr Athro Chris Thomas, Dirprwy Is-Ganghellor Prifysgol Aberystwyth dros Ymchwil: “Mae hwn yn newyddion gwych i'r Brifysgol ac IBERS. Mae gallu gweithio ochr yn ochr â Prifysgolion a busnesau Ewropeaidd blaenllaw i ddatblygu cynigion am gyllid a fydd yn ein galluogi i ddatblygu atebion i rai o'r materion iechyd mwyaf dybryd sy’n wynebu cymdeithas yn eithriadol bwysig. Edrychaf ymlaen at weithio gyda chydweithwyr yn Aberystwyth ac Ewrop i ddatblygu ein cynigion ar gyfer ystyriaeth bellach.”
Disgwylir i gyfraniadau ymchwil Prifysgol Aberystwyth i'r prosiect ganolbwyntio ar feysydd o gryfderau academaidd gan gynnwys prosiectau ar fwyd, deiet a maeth, ymarfer corff a biofarcwyr.
Mae’r cysyniad InnoStars, ar gyfer ehangu cyfranogiad gan bartneriaid yn Hwngari, Gwlad Pwyl, Slofenia, Croatia, Portiwgal a Chymru, yn rhan annatod o EIT Iechyd.
Ar ôl llofnodi'r cytundeb fframwaith gyda'r EIT, mae EIT Iechyd yn disgwyl i weithgareddau i ddechrau erbyn canol 2015. Bydd EIT yn darparu o ddeutu €80m i EIT Iechyd bob blwyddyn (rhwng 2015 a 2020) ar gyfer ariannu cynlluniau ar y cyd, addysg a phrosiectau newydd.