IBERS yn cyflwyno hyfforddiant diogelwch bwyd i Brifysgolion Tsieina

04 Rhagfyr 2014

Yfory (5 Rhagfyr), bydd tîm o academyddion Athrofa y Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig Prifysgol Aberystwyth (IBERS) yn cyflwyno gweithdy i 17 o gynrychiolwyr o wahanol Brifysgolion yn Tsieina ar faterion da byw a chynhyrchu cnydau sy'n wynebu'r diwydiant amaethyddol Tsieineaidd.

Gyda phoblogaeth sy'n tyfu, mae angen i lywodraeth ac amaethyddiaeth Tsiena yn benodol i ddiwallu anghenion y boblogaeth honno yn ddiogel ac yn gynaliadwy.

Bydd y gweithdy yn tynnu sylw at y gwaith ymchwil ac arbenigedd helaeth sy'n digwydd ar hyn o bryd yn IBERS megis bridio planhigion a Ffenomeg, effeithlonrwydd ffîd a chynaliadwyedd.

Mae'r diwrnod wedi ei drefnu gan UK China Training a bydd yn cynnwys cyflwyniad gan yr Athro Kevin Shingfield, Alan Gay a Martine Spittle o IBERS.

Mae’r Athro Shingfield gyda cadair mewn Maethol Ffisioleg yn IBERS. Bydd yn trafod yr heriau sy'n wynebu cynhyrchu da byw anifail sy'n cnoi cil, y cysyniadau o effeithlonrwydd ffîd a'r cyfleoedd sydd ar gael i fanteisio ar adnoddau genetig ar gyfer cynhyrchu anifail cnoi cil mwy cynaliadwy o fwyd.

Eglurodd, "Mae ein hymchwil yn cael ei gyfeirio tuag at darparu llwyfan ar gyfer arloesi gwyddonol yn y sector da byw cnoi cil, sydd â'r potensial i fod o fudd i ffermwyr a defnyddwyr yn y Deyrnas Gyfunol ac yn rhyngwladol."

Bydd Martine yno i dynnu sylw at y potensial o ddysgu o bell ar gyfer amaethwyr o Tseina. Dywedodd, "Mae dsgu o bell yn Tsieina yn dal mewn cyfnod ifanc iawn. Yr wyf yn gobeithio eu hysbrydoli gydag ansawdd rhagorol ein modiwlau amaethyddol."

Bydd Alan Gay yn cyflwyno'r ymchwil bridio glaswellt sy'n digwydd ar hyn o bryd yn IBERS, yr hyn y mae'r heriau a'r problemau a sut y gall bridio glaswellt fod yn rhan o'r ateb.

Mae grŵp o UK China Training yn anelu i ymweld ag IBERS ym mis Hydref 2015 i gymryd rhan mewn diwrnodau hyfforddiant a gweithdai pellach.

AU53214