Horsegate: gwersi a ddysgwyd

10 Gorffennaf 2013

Chwe mis wedi i’r argyfwng cig ceffyl fwrw’r penawdau, cynhelir dadl yn y Sioe Amaethyddol Frenhinol yn Llanelwedd ar ddydd Llun 22 Gorffennaf i drafod y gwersi a ddysgwyd a'r cyfleoedd i ffermio a’r diwydiant bwyd yng Nghymru.

Mae pryderon bod hyder defnyddwyr yn niwydiant bwyd y Deyrnas Gyfunol wedi ei niweidio yn ddifrifol gan y sgandal cig ceffyl, sydd wedi codi rhai cwestiynau pwysig ynghylch tarddiad bwyd a diogelwch y cyflenwad.

Cynhelir y ddadl ym Mhafiliwn Addysg Prifysgol Aberystwyth am 3:00 o’r gloch brynhawn Llun 22 Gorffennaf a chaiff ei chadeirio gan yr Athro Wayne Powell, Cyfarwyddwr Sefydliad y Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig (IBERS).
Ar y panel fydd:

  • Mr Alun Davies AC, Gweinidog Llywodraeth Cymru dros Adnoddau Naturiol a Bwyd
  • Yr Athro Nigel Scollan, Athro Bwyd a Ffermio Waitrose, IBERS
  • Mr Gwyn Howell, Prif Weithredwr Hybu Cig Cymru
  • Mr Emyr Jones, Llywydd Undeb Amaethwyr Cymru
  • Mr John Lloyd Jones, Allanol Aelod o Fwrdd Ymgynghorol IBERS
  • Mr John Davies, Cadeirydd Grŵp Marchnata Bwyd NFU Cymru

Mae ymchwilwyr yn IBERS ar flaen y gad ym maes proffilio DNA a datblygwyd dulliau sydd â'r potensial i ganiatáu i bob anifail unigol i gael cod bar unigryw. Bydd hyn yn ei dro yn rhoi cyfle i’w olrhain o fferm benodol i silff y manwerthwr.

Dywedodd yr Athro Wayne Powell: "Rydym yn cynnal y ddadl hon er mwyn dod â chynrychiolwyr o’r sectorau gwleidyddol, amaethyddol, gwyddonol ar arwerthu er mwyn trafod sut y mae’r mater hwn wedi effeithio ar ein canfyddiad o fwyd o'r fferm i'r manwerthwr i'r cwsmer.

Arloesi sy’n herio ac yn ysbrydoli IBERS, a thrwy ffurfio cysylltiadau cryf a chydweithio, ein gobaith yw medru cymhwyso ein gwyddoniaeth er mwyn mynd i’r afael a darparu atebion i rai o’r heriau mawr sy’n wynebu cymdeithas."

Cynhelir y drafodaeth ar lawr cyntaf Pafiliwn Addysg Prifysgol Aberystwyth, ar ddydd Llun 22 Gorffennaf rhwng 3 - 4.30pm. Mae’r nifer o lefydd wedi eu cyfyngu, felly awgrymir eich bod yn cysylltu â Mimi Lloyd mhl10@aber.ac.uk i gadw lle.