Myfyrwraig raddedig Aber yw enillydd Fferm Ffactor 2013
Gwenno Pugh
05 Rhagfyr 2013
Gwenno Pugh, myfyrwraig raddedig o Brifysgol Aberystwyth yw enillydd Fferm Ffactor 2013 - y ferch gyntaf i ennill y teitl yn hanes pum mlynedd y gyfres, gan gyflawni’r gamp o dri o fyfyrwyr Aber yn ennill yn olynol – Malcolm Davies yn 2011 a Dilwyn Owen yn 2012.
Fe lwyddodd Gwenno, sy’n ffermio defaid, gwartheg a moch gyda'i gwr ar eu ffarm yn Nhalsarnau, i yrru i ffwrdd gyda’r cerbyd Isuzu D-max Yukon 4x4 newydd sbon.
Dywedodd Dr Iwan Owen, Darlithydd a Rheolwr Cyrsiau gradd Amaethyddiaeth yn Athrofa y Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig ym Mhrifysgol Aberystwyth
"Roedd Gwenno yn fyfyrwraig alluog iawn oedd yn gweithio yn galed a wedi dilyn llwybr galwedigaethol i addysg uwch, gan raddio yn 2007 gyda gradd BSc (Anrh) dda iawn mewn Amaethyddiaeth, a roedd yr amser a dreuliodd yn yr Unol Daleithiau yn ystod ei phrofiad gwaith yn sicr wedi ehangu ei gorwelion, yn ogystal â dangos ei phenderfyniad a’i hymroddiad.
Serch hynny, prin oeddwn i ‘n adnabod y fyfyrwraig raddedig dawel o 7 mlynedd yn ôl oedd fel y ferch hynod hyderus a huawdl a ymddangosodd ar Fferm Ffactor a dangos ei gwybodaeth helaeth am y diwydiant, yn ogystal ag ystod eang o sgiliau ymarferol.
Rydym yn wirioneddol falch o lwyddiant Gwenno ac yn gobeithio ein bod ni yn Aberystwyth wedi o leiaf chwarae rhyw ran fach i’w gwneud yn llysgennad amlwg ar gyfer ffermio fel y mae hi. "
“Doeddwn i ddim yn disgwyl hyn o gwbl. Roeddwn i wedi gobeithio bod y ferch gyntaf i gyrraedd ffeinal Fferm Ffactor ond mae mynd un cam yn bellach ac ennill yr holl beth yn deimlad anghredadwy,” meddai Gwenno.
“Mae hi wedi bod yn daith fythgofiadwy a dwi wedi gwneud gymaint o ffrindiau newydd. Braint yw cael bod y ferch gyntaf erioed i ennill teitl Fferm Ffactor.”
Dywedodd Yr Athro Wynne Jones: "Mae Gwenno wedi cystadlu’n gryf trwy gydol y gystadleuaeth. Mae hi wedi dod i’r brig yn gyson, ac wedi gorffen y gyfres mewn steil.”