IBERS yn ceisio partneriaethau amaeth - dechnoleg newydd i gryfhau diogelwch bwyd

Heather Jenkins yn siarad yn y brecwast IBERS yn y Ffair Aeaf

Heather Jenkins yn siarad yn y brecwast IBERS yn y Ffair Aeaf

04 Rhagfyr 2013

Bydd partneriaethau o'r fath yn cynorthwyo i yrru mabwysiadu ehangach o dechnolegau presennol tra'n helpu i ddatblygu ffyrdd newydd o weithio ar gyfer y dyfodol. Bydd hyn yn helpu i wella cynhyrchiant ffermydd cartref,  tra hefyd yn cyfrannu at ddiogelwch bwyd byd-eang a datblygu rhyngwladol.

Mae strategaeth llywodraeth y Deyrnas Gyfunol ar gyfer technolegau amaethyddol (Agri-Tech) a lansiwyd yn gynharach eleni yn nodi bod sylfaen wyddoniaeth y DG a diwydiannau bwyd a ffermio wedi dod at ei gilydd i ddatblygu cyfleoedd mewn technolegau amaethyddol a yrrir gan y DG.

Dywedodd yr Athro Wayne Powell, Cyfarwyddwr IBERS, yn Ffair Aeaf Frenhinol Cymru; "Mae hwn yn gyfle gwych i Gymru wledig i ddatblygu ei sylfaen ffermio a bwyd mewn amgylchedd deinamig sydd yn newid yn gyflym. Yn IBERS, rydym mewn sefyllfa eithriadol o dda i ymateb i'r her hon, ond gyda hynny daw disgwyliad y byddwn yn cyflawni canlyniadau cadarn. Er mwyn gwneud hyn bydd angen ymrwymiad llwyr i gynnal perthynas gyda'n partneriaid ac ymchwil tymor hir; ac i wneud hynny yn llwyddiannus mae angen i ni fod yn dîm cryf.

Adeiladwyd llwyddiant IBERS ar y sylfaen gadarn hon o bartneriaethau, a chenhadaeth a yrrir gan ymchwil tymor hir, gan ganolbwyntio ar gyflwyno cynhyrch sy'n berthnasol i fusnes a chymdeithas yn ehangach."

Mae IBERS wedi bod yn datblygu ymhellach ei gweithgaredd mewn tri maes allweddol, yn unol â'r hyn sydd eisoes wedi cael ei amlinellu yn y Strategaeth Amaeth – Technoleg, sef:

Sefydlu cysylltiadau rhagorol gyda phartneriaid manwerthu ar gyfer cadwyni gyflenwi gyda ffocws ar y cwsmer. Mae'r berthynas gyda Waitrose yn eithriadol o gryf. Ymwelodd Heather Jenkins, Cyfarwyddwr Prynu MPFD a Strategaeth Amaethyddiaeth Waitrose â IBERS yn ddiweddar a chafodd argraff dda o waith y Sefydliad a’r mathau newydd masnachol o blanhigion. Mae Waitrose yn edrych yn gyson i ychwanegu at yr hyn sydd ganddi i’w gynnig i gwsmeriaid ac mae'r gwaith y mae IBERS yn ei wneud yn gymorth i gyflawni hyn drwy helpu i yrru cynaliadwyedd ar lefel y fferm.

Dywedodd Heather Jenkins ym mrecwast IBERS yn y Ffair Aeaf; "Mae IBERS yn cynnig enghreifftiau gwych i ni o'r hyn y gellir ei gyflawni pan mae technoleg dda yn cael ei gymhwyso yn gelfydd, gyda meddwl a sensitifrwydd. Gyda Strategaeth Amaeth-Dechnoleg y Llywodraeth mae gennym gyfle gwych i roi Ymchwil a Datblygu (R&D) ffermio Prydeinig yn ôl ar fap y byd, ond mae'n rhaid i ni fynd â’n cwsmeriaid gyda ni.

Nid oes unrhyw bwynt bod yn alluog os yw defnyddwyr Prydain yn amheus o'r hyn yr ydym fel diwydiant yn ei wneud. Mae hon yn wers a ddysgwyd oddi wrth GM ac yn un y mae angen i ni fod yn ymwybodol ohoni beth bynnag yr ydym yn ei wneud. Wedi dweud hynny, mae IBERS yn gwneud pethau gwych yma y bydd defnyddwyr yn rhyfeddu arnynt o gofio eu diddordeb dwys mewn cynaliadwyedd a tharddiad. Mae Waitrose yn hynod o falch i fod yn cymryd rhan."

Buddsoddi mewn rhaglenni bridio planhigion, yn enwedig porthiant. Mae gan y tîm arobryn bridio planhigion er lles y cyhoedd yn IBERS, enw da byd-eang ers blynyddoedd am ragoriaeth, ac mae'n gartref i’r Ganolfan Genedlaethol Ffenomeg Planhigion a gefnogir gan gyngor ymchwil y BBSRC. Mae’r tîm newydd ychwanegu at ei restr o anrhydeddau trwy ennill Gwobr Addysg Uwch Y Times Higher am Arloesi a Thechnoleg ar 28 Tachwedd.

Mae gan y Glaswellt Siwgr Uchel (AberHSG) y potensial i drawsnewid amaethyddiaeth da byw ar dir glas. Mae profion annibynnol wedi dangos y gall AberHSG gynyddu cynhyrchu cig a llaeth o 24% a lleihau allyriadau methan a llygryddion nitrogenaidd gan hyd at 20%.

Mae'r mathau o rygwellt lluosflwydd AberHSG hefyd yn ffynhonnell o siwgr i'w droi'n fioethanol, gan roi cyfle i ddatblygu tanwydd cludiant hylif sydd yn deillio o gnydau a lleihau ein dibyniaeth ar danwydd ffosil.

Yn ddiweddar cyhoeddodd IBERS bartneriaeth dechnegol newydd gyda chwmni Wherry & Sons Ltd., cynhyrchwyr arbenigol codlysiau at ddefnydd bwyd o gwmpas y byd. Mae’r bartneriaeth hon yn rhoi cyfle i fynd i'r afael â'r diffyg protein mewn bwydydd anifeiliaid yn y DG, a diogelwch bwyd byd-eang.

Isadeiledd – cyhoeddi y bydd Campws Ymchwil ac Arloesedd Aberystwyth newydd yn cael ei adeiladu yng Ngogerddan gan ddechrau’r flwyddyn nesaf, lle bydd isadeiledd a chyfleusterau newydd yn cael eu datblygu i ddenu cwmnïau ac ymchwilwyr sydd â diddordeb mewn creu cynhyrchion newydd masnachol hyfyw, yn seiliedig ar ddulliau modern o fridio planhigion, gan ddarparu cyfle unigryw i Aberystwyth i ddatblygu gwyddoniaeth newydd sy'n sail i amaethyddiaeth.