Ysgoloriaeth Llyndy Isaf
Caryl Hughes
01 Awst 2013
Cyhoeddwyd taw Caryl Hughes, sy’n raddedig o Brifysgol Aberystwyth, yw enillydd cyntaf ysgoloriaeth Llyndy Isaf yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol.
Bu Caryl, sy’n 23 oed, yn astudio amaethyddiaeth a gwyddor anifeiliaid yn Aberystwyth. Fel rhan o'r cwrs, aeth Caryl i fyw a gweithio yn Seland Newydd yn ei thrydedd flwyddyn - ar fferm laeth am wyth mis ac ar fferm ddefaid am 2½ fis.
Yn wreiddiol o Ddyffryn Ceiriog ger Llangollen, cyflwynwyd yr ysgoloriaeth i Caryl yn ystod Sioe Amaethyddol Frenhinol Cymru eleni.
Mae ennill yr ysgoloriaeth yn golygu y bydd Caryl yn derbyn allweddi Llyndy Isaf – y fferm ucheldirol 614 erw eiconig yn Eryri a ddiogelwyd ar gyfer y genedl drwy Apêl Eryri yn 2012 – a bydd yn rheoli’r fferm am flwyddyn, gan ddechrau ym mis Medi.
Mewn cyfweliad ar gyfer yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, dywedodd Caryl ei bod ar ben ei digon ac yn teimlo'n nerfus ynghylch yr heriau fyddai’n ei hwynebu mewn perthynas â'r cyfle unigryw hwn. Yn ei thyb hi, byddai’r profiad yn llwyr newid ei bywyd hithau a bywyd ei chi, Mist, a fydd yn symud i Lyndy Isaf gyda hi.
“Mae hwn yn gyfle di-ail ac rwy'n bwriadu manteisio'n llawn arno”, dywedodd. “Ni ddaw’r cyfle i ffermio fferm 614 erw bob dydd, yn enwedig i rywun sy’n 23 oed, ac yn arbennig os mai merch ydych.
“Rwy'n teimlo braidd yn nerfus wrth feddwl am gymryd Llyndy drosodd, mae'n her fawr, yn enwedig am nad yw wedi cael ei ffermio ers nifer o flynyddoedd, ond rwy’n llawn cynnwrf ynghylch y peth ac ynghylch yr holl brofiadau a chyfleoedd newydd a ddaw i'm rhan yn ystod y 12 mis nesaf. Edrychaf ymlaen yn fawr at weithio gyda'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol a dod i adnabod yr holl dîm a holl waith yr Ymddiriedolaeth – yn enwedig o ran amaethyddiaeth.
“Ni welaf pam na allaf innau ei wneud cystal â'r ‘bechgyn’, os nad yn well. Mae'n hysbys bod menywod yn amldasgio’n well, ac rwy'n hyderus y gallaf wynebu’r her hon cystal ag unrhyw un.
“Roedd yr ysgoloriaeth yn apelio ataf gan mai dyma'r math ar ffermio rwy'n gyfarwydd ag ef ac rwy'n awyddus i ddysgu mwy amdano. Rwy'n mwynhau'r amrywiaeth ym myd ffermio – o fod allan ar y mynydd yn y glaw a'r taranau i roi trefn ar y gwaith papur. Yn fy marn i, dylai pawb ddeall bod ffermio’n beth pwysig iawn – heb ffermio nid oes gennym fwyd ar gyfer y wlad.
“Fy mlaenoriaethau fydd ailsefydlu praidd yma gan reoli’r pori yn ofalus er mwyn cadw'r amgylchedd naturiol hwn o'n cwmpas. Dyma yw ansawdd unigryw Llyndy, a’i her ar yr un pryd.
“Mae ffermio hefyd yn helpu i reoli cefn gwlad a'r fioamrywiaeth. Mae cael cydbwysedd rhwng amaethyddiaeth a'r amgylchedd yn anodd iawn a dyna pam mae ffermwyr mor bwysig, oherwydd eu bod yn deall y cydbwysedd bregus hwn.
“Mae'r golygfeydd yn Eryri yn ysblennydd ac mae'n anrhydedd mawr i mi gael byw a gweithio yma – ond hefyd nid yw’n annhebyg i gartref – efallai mai dyna pam mae'n apelio ataf. Gobeithio y caf ddefnyddio'r sgiliau a'r syniadau a ddaw i'm rhan yn Eryri a'u haddasu i'w defnyddio gartref yn y Berwyn pan fydd yr ysgoloriaeth wedi dod i ben.
“Yn ddiweddarach, hoffwn feddwl y bydd rhywun arall yn cynnig swydd anhygoel i mi, gyda fferm anferth yn y pen draw. Rwy'n siŵr y byddaf yn edrych nôl ar yr ysgoloriaeth gyda balchder, a bydd y sgiliau a'r profiad a enillaf yn byw gyda mi am byth.”
Llyndy Isaf
Cafodd fferm Llyndy Isaf sylw’r holl fyd y llynedd pan gafodd ei diogelu ar gyfer y genedl mewn apêl lwyddiannus gan yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol i godi miliwn o bunnoedd.
Arweiniwyd yr ymgyrch i brynu Llyndy Isaf gan yr actor Cymreig o Hollywood, Matthew Rhys, yn ei rôl fel Llysgennad Apêl Eryri.
Meddai seren y ddrama gyfres The Americans, sydd hefyd yn Gymrawd Prifysgol Aberystwyth: “Pan ymwelais â Llyndy Isaf, roedd yn amlwg i mi bod rhan mor ogoneddus ac arbennig o Eryri yn llawn haeddu ein cefnogaeth. Rwyf wrth fy modd o wybod y bydd Caryl nawr y cael cyfle i ddysgu galwedigaeth a ffordd o fyw draddodiadol, ble gall gyfrannu at barhad, cadwraeth a dyfodol y lle eithriadol bwysig hwn.”
Mae'r cynnig ‘unwaith mewn oes’ hwn wedi ymgodi o bartneriaeth arloesol rhwng yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol a CFfI Chymru. Gwahoddwyd ceisiadau gan holl aelodau CFfI Cymru.
Cynlluniwyd yr ysgoloriaeth er mwyn annog yr ymgeisydd llwyddiannus i ddatblygu sgiliau allweddol ac ehangu eu gwybodaeth am y diwydiant. Caiff yr ysgolor buddugol y cyfle a'r cyfrifoldeb o reoli pob agwedd ar redeg y fferm yn cynnwys llenwi ffurflenni, rheoli stoc a gwaith ymarferol.
“Mae'r bartneriaeth gyffrous, arloesol hon rhyngom ninnau a'r CFfI yn gyfle gwych i ffermwr ifanc gael profiad o ddysgu sut i redeg fferm ucheldirol”, meddai Trystan Edwards, Rheolwr Cyffredinol yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol ar gyfer Eryri a Llŷn.
“Mae pob un ohonom yn edrych ymlaen yn eiddgar at weithio gyda Caryl, a'i mentora dros y 12 mis nesaf, a’i helpu i feithrin ei hyder a'i sgiliau mewn rheoli stoc, busnes, a rheoli ymarferol drwy hyfforddiant ffurfiol ac anffurfiol ynghyd â phrofiad gwaith.”