Myfyriwr o IBERS yn ennill Gwobr y Gymdeithas Biocemegol

Naomi Stupple

Naomi Stupple

12 Mawrth 2013

Enillwyd y wobr gan y fyfyrwraig ail flwyddyn Naomi Stupple. Dewiswyd Naomi i dderbyn y wobr ar ôl iddi gael y marc uchaf yn y modiwl biocemeg 'Understanding Proteins and Enzymes' a ddysgir yn y semerser gyntaf, ac am gael marciau ardderchog ym mhob un o’i modiwlau biocemeg yn y flwyddyn gyntaf.
 
Dywedodd Dr. David Whitworth, Uwch Ddarlithydd mewn Biocemeg a Llysgennad Lleol y Gymdeithas Biocemeg (www.biochemistry.org) 'Mae Naomi wedi gwneud cynnydd ardderchog yn ei hastudiaethau, ac mae’r wobr hon yn ffordd briodol o gydnabod ei chyraeddiadau. Mae’n bleser mawr gweld cydnabyddiaeth gyhoeddus am ragoriaeth ym maes biocemeg. '
 
Mae Naomi yn astudio ar gyfer BSc mewn Geneteg a Biocemeg, rhaglen radd sy’n denu llawer o fyfyrwyr o’r radd flaenaf i Aberystwyth bob blwyddyn. Y llynedd, dyfarnwyd gwobr y Gymdeithas Biocemeg i Michal Flak, a oedd hefyd yn astudio Geneteg a Biocemeg.
 
Yn ogystal â BSc mewn Geneteg a Biocemeg (CC47), mae IBERS hefyd yn cynnig rhaglenni gradd mewn Biocemeg (C700) a Geneteg (C400).