Biolegwyr môr yn dewis Aberystwyth

21 Ionawr 2013

Dewisiwyd Prifysgol Aberystwyth i gynnal 10fed cynhadledd flynyddol ôl-raddedig Cymdeithas Fiolegol Forol y DG (Marine Biological Association - MBA). Bydd y cyfarfod cyffrous yn dwyn ynghyd hyd at 100 o fiolegwyr môr o bob cwr o'r DG ac Ewrop rhwng 8fed a 10fed Mai 2013.

Mae Cynhadledd Ôl-raddedig MBA yn gasgliad gwyddonol blynyddol o fyfyrwyr ôl-raddedig sy’n gwneud ymchwil mewn bioleg môr a meysydd cysylltiedig. Bydd y cyfarfod yn cael ei drefnu gan grŵp o ôl-raddedigion o Sefydliad Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig (IBERS) y Brifysgol, canolfan ddysgu ac ymchwil fyd enwog gyda phwyslais cynyddol ar wyddoniaeth forol.

Mae'r digwyddiad hwn yn bwysig yng Nghymru a thu hwnt gan fod aelodau’r MBA yn cynnwys dros 1000 o wyddonwyr ledled y byd.

Dywedodd Dr Pippa Moore, darlithydd mewn Bioleg Môr, "Rwy'n falch iawn bod rhagoriaeth Aberystwyth ym maes gwyddor môr wedi cael ei gydnabod trwy gael ei dewis i gynnal y gynhadledd nodedig hon. Rydym yn edrych ymlaen at wahodd arweinwyr rhyngwladol ym maes ymchwil biolegol môr i Aberystwyth. "

Mae rhagoriaeth IBERS mewn dysgu sydd yn cael ei arwain gan ymchwil ar y cynlluniau gradd Bioleg y Môr a Dŵr Croyw, Swoleg ac Ymddygiad Anifeiliaid, wedi cyfrannu at Brifysgol Aberystwyth yn cael ei phleidleisio'n un o'r gorau yn y DG am fodlonrwydd myfyrwyr. Yn wir, cyhoeddwyd taw un o'i graddedigion oedd Myfyriwr Bioleg Ewropeaidd y Flwyddyn yn ddiweddar.

Mae'r MBA yn elusen gofrestredig ac yn un o'r cymdeithasau dysgedig morol hynaf. Gyda rhaglenni ymchwil ac addysg a gydnabyddir yn rhyngwladol, mae’r MBA yn chwarae rôl hanfodol o ran darparu llais annibynnol clir i lywodraeth, rhanddeiliaid diwydiant a'r cyhoedd.

Cynhelir y gynhadledd yn flynyddol o ganlyniad i gefnogaeth hael gan sefydliadau cenedlaethol a busnesau lleol. Mae hwn yn gyfle gwych i noddwyr roi hwb i’r genhedlaeth nesaf o wyddonwyr môr yn eu datblygiad cynnar eu gyrfa.

Rydym yn annog unrhyw noddwyr posibl i gysylltu â ni i gael gwybod beth y gallwn ei gynnig yn gyfnewid am eu cefnogaeth.