Cefnogaeth o safbwynt Iechyd ac Anabledd
Cyflogwr Hyderus ag Anableddau
Mae Prifysgol Aberystwyth a achrediad fel cyflogwr hyderus ag anableddau ers 2016 ac chyn hynny a achrediad gan Tic Ddwbwl – yn bositif am bobl sydd ag anableddau, ers 2003.
Mae’r symbol yn dangos y cydnabyddiaeth a roddir gan yr Adran Gwaith a Phensiynnau ar gyfer sefydliadau sy’n ymroddedig I ymarfer da wrth cyflogi pobol sydd ag anableddau.
Mae rhagor o wybodaeth ar gael yma: https://www.gov.uk/guidance/disability-confident-how-to-sign-up-to-the-employer-schemeAm ragor o fanylion cysylltwch â equality@aber.ac.uk.
Mynediad i Waith
Mae’r cynllun Mynediad i Waith yn cynnig cyllid i helpu i gefnogi aelodau o staff sydd ag anableddau neu gyflyrau meddygol. Am ragor o gefnogaeth cysylltwch â equality@aber.ac.uk.
Dyma ddau ddyfyniad gan aelodau o staff sydd wedi cael cefnogaeth yn sgil y cynllun.
“Rwyf wedi bod yn cael cymorth ariannol gan Mynediad i Waith ers dros ddegawd bellach. Maent yn rhoi cyllid imi er mwyn prynu offer y byddwn yn cael trafferth eu fforddio fel arall, ac y byddai’n amhosibl imi wneud fy ngwaith hebddynt. Yn sgil y cynllun hwn rwyf wedi cael systemau teledu cylch cyfyng, cynorthwywyr digidol personol sy’n siarad, syntheseisyddion llais symudol, sganwyr a meddalwedd adnabod nodau optegol, yn ogystal â meddalwedd arbenigol ar gyfer ffôn symudol a chyfrifiadur personol.”
“Mae cael salwch sy’n gadael anabledd parhaol ar ei ôl yn gyfnod pryderus ym mywyd unrhyw un. Roedd y gefnogaeth a gefais gan yr Adran Adnoddau Dynol yn gyflym, yn effeithiol ac yn wych. Wedi cael ffurflen mynediad i waith gan y Ganolfan Byd Gwaith, archebodd AD yr offer yr oedd arnaf eu hangen ar ddydd Gwener ac fe gyraeddasant y dydd Mercher canlynol.”
Iechyd Galwedigaethol
Diben ein gwasanaeth Iechyd Galwedigaethol yw cefnogi’r Brifysgol a’i staff drwy ddarparu mynediad i ymarferydd Iechyd Galwedigaethol proffesiynol sydd wedi’i hyfforddi, gan alluogi unigolion a’r Brifysgol i weithio ynghyd i ymdrin â phryderon iechyd penodol a chanfod mathau addas o gefnogaeth ac unrhyw addasiadau y mae gofyn amdanynt.
Am ragor o fanylion cysylltwch â'r Tim adnoddau cywir i'ch adran chi.
Iechyd a Lles
Mae’r polisi hwn yn rhan o drefniadau polisi Iechyd a Diogelwch cyffredinol y Brifysgol, ac mae’n cyfrannu hefyd at hyrwyddo iechyd da. Mae’n cwmpasu materion megis straen, ysmygu, alcohol a chyffuriau, maeth a gweithgarwch corfforol. Am ragor o fanylion cysylltwch â'r Tim adnoddau cywir i'ch adran chi.
Profion Llygaid am Ddim
Mae’r Brifysgol yn gwneud darpariaeth i gyfrannu at gost profion llygaid i weithwyr sydd yn defnyddio cyfarpar sgrin arddangos yn gyson fel rhan hanfodol o’u gwaith, a hynny am ran sylweddol o’u horiau gwaith arferol. Yr uchafswm y gellir ei hawlio am brawf llygaid yw £30.00. Os bydd y prawf llygaid yn dangos bod angen lensys i gywiro’r broblem ar gyfer gwaith sgrin, bydd y Brifysgol yn cyfrannu hyd at £75.00 yn rhagor at gost sbectol.
Bydd angen i'r ffurflen cael i'w llenwi gan Optegydd cymwys.
Dylid anfon Eye Test and Spectacles Claim Form (gan gynnwys yr holl lofnodion a'r dyddiadau angenrheidiol), i'r adran Adnoddau Dynol, gyda'r derbynebion wedi'u clymu yn sownd wrthi.
Fforwm Hygyrchedd
Mae’r Fforwm Hygyrchedd yn grŵp ymgynghorol o staff a myfyrwyr sy’n hyrwyddo ac yn ymwneud â materion ynghylch cydraddoldeb anabledd. Os oes gennych ddiddordeb mewn dod i gyfarfodydd y Fforwm, cysylltwch â equality@aber.ac.uk.
Datganiad ar Iechyd
Os hoffech ddatgan cyflwr iechyd neu anabledd tymor hir, cysylltwch â ni fel y gallwn ystyried ffyrdd o’ch cefnogi ac adolygu unrhyw addasiadau i’ch man gwaith. Am ragor o gefnogaeth cysylltwch â equality@aber.ac.uk.