Cefnogaeth o safbwynt Hyfforddiant a Chymwysterau

Datblygu Staff

Mae’r Uned Datblygu Dysgu ac Addysgu’n (UDDA) darparu rhaglen flynyddol o sesiynau, digwyddiadau a gweithdai datblygiad proffesiynol parhaus (DPP), gan gynnwys y Gynhadledd Dysgu ac Addysgu Flynyddol. Mae croeso i bob aelod o staff mynychu digwyddiadau UDDA.
Mae'r Uned hefyd yn darparu rhaglenni astudio:  y Dystysgrif Uwchraddedig Addysgu mewn Addysg Uwch (TUAAU) a’r Addysgu i Uwchraddedigion ym Mhrifysgol Aberystwyth (AUMA).

E-Ddysgu am Amrywioldeb

Yn ein hymdrechion i barhau i hyrwyddo egwyddorion a gwerthoedd cydraddoldeb ac amrywioldeb, mae Prifysgol Aberystwyth yn darparu hyfforddiant e-ddysgu amrywioldeb dwyieithog gorfodol i bob aelod o staff. Mae’r cwrs hwn wedi’i gynllunio i roi gwybodaeth i’n staff er mwyn eu cefnogi yn eu swyddi, ac mae’n cynnwys modiwlau ar bob agwedd ar gydraddoldeb, gwybodaeth gyfreithiol a pholisi, ac erthyglau newyddion.

Cyrsiau Eraill am Ddim neu am Bris Llai

Mae cyrsiau ar gael hefyd gan Dysgu Gydol Oes sy’n cynnig amrywiaeth o dystysgrifau a meysydd pwnc, megis Celf a Dylunio, Gwyddoniaeth, Dyniaethau, Gwyddor Gymdeithasol, ac Ieithoedd Modern.

Mae'r wefan Dysgu Cymraeg yn darparu ystod eang o gyrsiau i bawb.  Gellir staff PA sydd am ddysgu Cymraeg neu wella'u sgiliau iaith yn medru gofyn i'r Ganolfan Gwasanaethau'r Gymraeg am help gyda'r ffioedd.