Cerdded a Siarad

Cerdded a Siarad 

Bob dydd Mercher rhwng 12:15 a 12:45, ymunwch â ni am daith gerdded 30 munud o amgylch campws, lle byddwn yn trafod sut y gall cerdded wella'ch iechyd meddwl a'ch lles. Gall cerdded leihau pryder, gwella ffocws a chanolbwyntio, lleddfu niwl yr ymennydd, cynorthwyo treuliad, a hybu iechyd cyffredinol. Mae’r teithiau cerdded hyn, a arweinir gan Rachel Hubbard, yn addas ar gyfer pob lefel ffitrwydd -  nid oes angen dillad nac esgidiau arbennig. Bydd y rhan fwyaf o deithiau cerdded yn digwydd ar ffyrdd a llwybrau. Mae croeso i chi ddod â'ch cinio. Bydd Rachel yn trafod manteision iechyd gwybyddol a chorfforol bod yn yr awyr agored.

Cyfarfod yn y Ganolfan Ddelweddu o 12 p.m. ymlaen. Byddwn yn gadael yn brydlon am 12:15 p.m. a dychwelyd erbyn 12:45 p.m. Am ragor o wybodaeth, e-bostiwch Hyffoddi-Train@aber.ac.uk.

Teithiau Cerdded:

22/05/24 - Shinrin Yoku – Ymdrochi yn y Goedwig

Darganfyddwch sut mae cerdded ymhlith coed yn cynnig manteision ychwanegol i iechyd meddwl. Byddwn yn archwilio rhai o'r coed prin ar y campws.

 

05/06/2 – Camau i Wella “Niwl yr Ymennydd”

Dysgwch sut y gall hyd yn oed taith gerdded fer o 10 munud wella canolbwyntio a sylw, yn ogystal â chlirio eich meddwl.


12/06/24 – Cerdded i leihau Straen

Archwiliwch sut y gall cerdded yn yr awyr agored leihau straen ar unwaith,  a ddarparu amddiffyniad hirdymor yn ei erbyn. Mae symud yn helpu i leddfu straen ac yn rhoi hwb i wytnwch.

19/06/24 – Camau i tangnefedd

Darganfyddwch sut y gall gweithgareddau awyr agored â ffocws leihau pryder a gwella hwyliau. Bydd y sesiwn hon yn cynnwys technegau anadlu a dulliau i wella ffocws y gweithgaredd.

 

Os ydych chi'n mwynhau'r math hwn o weithgaredd, peidiwch ag anghofio y gallwch chi hefyd gymryd rhan yn y "Teithiau Cerdded Lles":

Teithiau Cerdded lles – Tîm Iechyd, Diogelwch a’r Amgylchedd.

Dewch i ymuno â ni ar ein teithiau cerdded amser cinio o amgylch campws a’r goedwig.  Mae’n gyfle gwych i ddianc o’r ddesg, archwilio byd natur, a sgwrsio ag eraill!

Ymunwch â’n gwefan Teams; yma fe welwch ddyddiadau calendr a diweddariadau llwybrau:

Clwb Cerdded/Walking Club | General | Microsoft Teams

  • 2 daith gerdded y mis
  • Ar gampws Penglais a champws Gogerddan.
  • Cyfarfod am 13:00yp
  • 45 munud i awr

Pediwch ag aros amdanom search hynny!! Os hoffech fynd am dro ac eisiau rhywfaint o gwmni, ychwanegwch at galendr y tîm. 

Yr unig ystyriaethau i’w gwneud wrth gerdded yw bod cydweithwyr yn gwisgo esgidiau addas, dillad addas ar gyfer y dirwedd a’r tywydd, a chadw’r cyflymder i’r cyfranogiad arafaf.

 

Dyddiadau i ddod:

20/05/2024       Llun                        Derbynfa IBERS                 Gogerddan

28/05/2024       Mawrth                 Adeilad Delweddu            Penglais

11/06/2024       Mawrth                Derbynfa IBERS                 Gogerddan

25/06/2024       Mawrth                 Adeilad Delweddu            Penglais

11/07/2024       Iau                          Derbynfa IBERS                 Gogerddan

25/07/2024       Iau                          Adeilad Delweddu            Penglais

07/08/2024       Mercher               Derbynfa IBERS                 Gogerddan

21/08/2024      Mercher               Adeilad Delweddu            Penglais