Ein rhan yn y Gymuned
Mae gan y Brifysgol berthynas agos â’r gymuned, yn lleol, yn rhanbarthol ac yn genedlaethol, ac mae wedi ymroi i ddatblygu gweithgareddau ei chenhadaeth gyhoeddus.
Mae’r Brifysgol yn chwarae rhan allweddol yn yr economi; mae’n gyflogwr pwysig ac yn gwneud cyfraniad hanfodol i’r rhanbarth, yn ariannol ac yn ddiwylliannol. Mae llawer o’i chymeriad unigryw yn deillio o gyfuniad o natur agored ac amrywiaeth ei staff a’i myfyrwyr, a’r amgylchedd diogel a’r ymdeimlad o gymuned a rennir gan y Brifysgol, y dref a’r bröydd cyfagos.