Pam astudio Hanes yn Aberystwyth?
Dysgwir Hanes yn Aberystwyth ers sefydlu’r Brifysgol yn 1872.
Mae pymtheg o staff dysgu amser llawn yn yr Adran, ac mae eu diddordebau ymchwil a dysgu yn rhychwantu’r cyfnod o’r cynfyd i’r byd modern. Adlewyrchir hyn yn y dewis helaeth o fodiwlau hanes gwleidyddol, cymdeithasol a diwylliannol a gynigir. Rydym wedi ymrwymo i safon eithriadol o ddysgu, a arweinir gan ein hymchwil ac a ddarperir mewn grwpiau bychain. Mae hynny wedi'i adlewyrchu yn sgôr yr adran yn Arolwg Cenedlaethol o Fyfyrwyr 2018, sef 91% boddhad cyffredinol.
Rydym yn ymfalchïo yn y berthynas gyfeillgar ac anffurfiol sydd rhwng y staff a’r myfyrwyr. Cynrychiolir eich buddiannau gan Bwyllgor Staff-Myfyrwyr, ac mae gennym Gymdeithas Hanes fywiog sydd yn trefnu darlithoedd gan siaradwyr gwadd, ymweliadau â lleoedd o ddiddordeb a digwyddiadau cymdeithasol.
Yn ogystal â llyfrgell wych y Brifysgol, caiff myfyrwyr Hanes yn Aber fwynhau aelodaeth lawn o Lyfrgell Genedlaethol Cymru. Dim ond pum llyfrgell hawlfraint a geir ledled y Deyrnas Unedig: un yn Llundain (Y Llyfrgell Brydeinig), a’r lleill yn Rhydychen, Caer-grawnt a Chaeredin. Ceir yma gasgliad rhyngwladol ardderchog o 6 miliwn o lyfrau, mapiau a phrintiadau, ac mae’r cwbl o fewn pum munud o gerdded i’r Adran. Bydd yr adnoddau print a’r llawysgrifau yn arbennig o werthfawr wrth ichi astudio’ch pwnc arbennig ac ysgrifennu’ch traethawd estynedig yn eich trydedd flwyddyn.