Logo y Brifysgol
Mae ein brand o ran graffeg yn creu llwyfan ar gyfer ein brand fel sefydliad.
Mae logo'r Brifysgol yn cynnwys y darian o arfbais seremonïol y Brifysgol a'r testun 'Prifysgol Aberystwyth University'.
Mae ein brand yn cwmpasu pob agwedd ar Brifysgol Aberystwyth. Dylid defnyddio'r logo bob tro y mae angen dehongliad mewn graffeg o'r teitl 'Prifysgol Aberystwyth'. Dim ond ar gyfer busnes swyddogol y dylid defnyddio'r logo, yn unol â'r hyn a ddiffinnir yn Siarter ac Ystatudau'r Brifysgol. Os yw unigolion yn ansicr ynghylch a yw'n briodol defnyddio'r logo ai peidio, dylent ymgynghori â'r Swyddfa Marchnata a Chyfryngau Creadigol ar pubstaff@aber.ac.uk.
Mae'r logo ar gael ar ffurf ffeiliau digidol (JPEG, PNG, EPS etc.) a rhaid ei atgynhyrchu o'r rheini, ac nid o ddeunydd wedi'i lungopïo neu ddeunydd sydd eisoes wedi'i argraffu. Ni chaniateir ychwaith ei ailddylunio mewn unrhyw fodd. Mae'r logo wedi'i gofrestru ar gyfer ei ddiogelu o safbwynt masnach yn y DU ac yn rhyngwladol ac mae wedi'i gofrestru fel nod masnach swyddogol.
Logo Lliw Llawn
Logos gwyn a glas tywyll i'w defnyddio ar gefndiroedd lliw. Er mwyn creu'r cyferbyniad mwyaf posibl, mae angen logo gwyn ar gefndiroedd tywyll a logo glas tywyll ar gefndiroedd golau.
Bydd gwerthoedd tonyddol megis y gwyn a'r llwyd yn defnyddio'r logos du a gwyn gyda tharianau lliw llawn. Defnyddir y rhain yn bennaf ar ddogfennau a deunyddiau ysgrifennu. Mae'r cyfryngau cymdeithasol yn eithriad ar gyfer logo lliw y darian gan fod hwn yn gyfle da inni ddefnyddio lliw(iau)'r brand e.e. lluniau proffil.