Ymgysylltu â Diwylliant Cymru
Yma yn yr Adran Saesneg ac Ysgrifennu Creadigol yn Aberystwyth, rydym yn hynod o falch o’n hanes maith fel darparwr y graddau israddedig cyntaf yng Nghymru ym maes Llenyddiaeth Saesneg.
Mae ein hetifeddiaeth fel adran Saesneg gyntaf Cymru yn bwysig iawn i ni ac rydym yn cynnig amgylchedd cyfoethog sy’n dathlu egni’r diwylliant Cymreig.
Ymchwil ac Addysgu am lenyddiaeth Cymru
Yma yn Aber mae ein hymchwilwyr yn rhan weithredol o ddatblygiad deallusrwydd newydd am lenyddiaeth Cymru. Yma y cynhyrchir yr International Journal of Welsh Writing in English ac mae yma garfan ffyniannus o uwchraddedigion Ymchwil yn gweithio ar amrywiaeth eang o brosiectau creadigol a beirniadol sy’n canolbwyntio ar Gymru. Ewch i’n tudalennau ymchwil i weld mwy am ein gweithgareddau diweddaraf yn y maes hwn. Wrth reswm mae ein gweithgareddau ymchwil yn bwydo i’n dysgeidiaeth a chynrychiolir llenyddiaeth Cymru’n dda gan nifer o fodiwlau cyffrous ac arloesol yn ein darpariaeth israddedig ac uwchraddedig. Mae modiwlau megis 'Writing in the Margins' a 'Writing Ireland / Writing Wales' yn rhoi cyfle i’n myfyrwyr edrych ar y cysylltiadau amwys rhwng llenyddiaeth Saesneg a hunaniaethau cenedlaethol a natur unigryw cynhyrchu llenyddol Cymru. Felly, p’un a ydych chi’n newydd i Gymru a diwylliant Cymru neu’n hyddysg yng nghwricwlwm CBAC ac yn chwilio am ysbrydoliaeth newydd, bydd astudio gyda ni yn agor y drws i ddiwylliant llenyddol dwyieithog bywiog a dynamig.
Cymorth academaidd a gofal bugeiliol
Fel adran academaidd sy’n byw ac yn dysgu mewn cyd-destun dwyieithog, rydyn ni’n ymrwymo i sicrhau bod modd i bob un o’n myfyrwyr elwa o gymorth academaidd a gofal bugeiliol yn Gymraeg neu Saesneg. Er bod ein darpariaeth yn cael ei chyflwyno trwy gyfrwng y Saesneg, rydym yn cynnig Tiwtora Personol yn y Gymraeg ac yn hapus i addasu yn unol â dewis myfyrwyr o gael asesiad iaith Saesneg neu Gymraeg. Wrth gwrs, mae’r Brifysgol yn cynnig pob math o gymorth i fyfyrwyr (o gymorth lles i gymorth gyrfaoedd a mwy) trwy gyfrwng y Gymraeg felly, er mai yn Saesneg bydd eich darlithoedd, eich seminarau a’ch gweithdai, byddwch yn rhan o amgylchedd dwyieithog llewyrchus a chefnogol.
Cyfleoedd tu hwnt i’r Adran
Un o fanteision mwyaf y system fodiwlau yw bod ein myfyrwyr yn cael dewis astudio modiwlau y tu allan i’w rhaglen radd. Golyga hyn bod amrywiaeth anhygoel ac ehangder posib i’ch rhaglen, heb orfod cyfaddawdu ar wybodaeth a sgiliau allweddol eich pwnc gradd. Golyga hefyd, os hoffech chi barhau i astudio trwy gyfrwng y Gymraeg heb ildio’ch breuddwyd o astudio Saesneg neu Ysgrifennu Creadigol, mae modd i chi gael y gorau o ddau fyd. Mae modiwlau cyfrwng Cymraeg ar gael yn y rhan fwyaf o bynciau, gan gynnwys ein hadrannau cytras: Cymraeg ac Astudiaethau Celtaidd; Astudiaethau Theatr, Ffilm a Theledu; Gwleidyddiaeth Ryngwladol; ac Addysg. Ewch i’r tudalennau cyrsiau i gael mwy o wybodaeth.
Wrth gwrs, os nad ydych chi’n gwybod dim am Gymraeg neu os nad yw eich sgiliau iaith Gymraeg yn cyrraedd safon astudiaeth academaidd, does unlle gwell nag Aberystwyth i ddechrau dysgu neu i ddatblygu eich Cymraeg. Mae’r Rhaglen Dysgu Cymraeg yn cynnig dosbarthiadau i bawb, o ddechreuwyr hyd at Gymraeg proffesiynol – a beth bynnag eich lefel fe gewch ddigon o gyfle i ymarfer.