Ymchwil

Mae gan yr Adran Astudiaethau Gwybodaeth enw da am ymchwil ym maes astudiaethau gwybodaeth a llyfrgellyddiaeth, fel y gwelir yng nghanlyniadau'r Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil.

Mae ymchwil yr Adran yn canolbwyntio ar faterion sy'n ymwneud â gallu unigolion, sefydliadau a chymdeithasau i gael, rheoli, trefnu a chanfod gwybodaeth mewn cymdeithasau cynyddol gymhleth ac amrywiol.

Proffil Ymchwil yr Adran

Mae arloesi a datblygiadau digidol yn newid y ffordd mae pobl a sefydliadau yn rhyngweithio â'i gilydd, gan esgor ar gyfleoedd a heriau i lyfrgelloedd, gwasanaethau gwybodaeth, amgueddfeydd ac archifau.

Mae strwythur a chynnwys ein cynlluniau gradd yn annog gwerthfawrogiad o’r ffordd y dylai tystiolaeth ymchwil lywio ymarfer proffesiynol. Mae ymchwil polisi felly yn arwyddocaol. Mae natur alwedigaethol yr Adran yn golygu bod angen i ni feithrin cysylltiadau a dangos arweiniad ynglŷn â datblygiadau sy'n ymwneud ag ymarfer proffesiynol.

Mae diddordebau ymchwil yr Adran yn cwmpasu meysydd astudiaethau gwybodaeth, archifau a rheoli cofnodion.

  • Y gymdeithas wybodaeth, gan gynnwys cynhwysiant digidol a chynhwysiant cymdeithasol, datgelu gwybodaeth, preifatrwydd, a chyflogwyr yn monitro safleoedd rhwydweithio cymdeithasol.
  • Rheoli archifau a chofnodion gan gynnwys curadu digidol, cofnodion ystadau, cof diwylliannol a hunaniaeth.
  • Ymddygiad gwybodaeth; gan gynnwys effaith ymddygiad gwybodaeth ar fethiant gwybodaeth, chwilio am wybodaeth mewn bywyd bob dydd, chwilio am wybodaeth draws-ieithyddol, a serendipedd.
  • Trefnu gwybodaeth ac adalw gwybodaeth, gan gynnwys modelu data ar gyfer dadansoddi, darganfod ac adalw, dosbarthu a mynegeio, ontoleg a thacsonomeg, tagio, adalw delweddau, a rhyng-destuniaeth.
  • Cyfathrebu academaidd gan gynnwys newid arddulliau cyfathrebu academaidd yng nghyswllt y datblygiadau mewn technoleg cyfathrebu, a ffactorau effaith cyfnodolion.
  • Rheoli gwybodaeth, gan gynnwys rhannu gwybodaeth rhwng sefydliadau, a gallu sefydliadau i ddysgu gwybodaeth newydd a'i defnyddio'n effeithiol.

Adlewyrchir yr ymdriniaeth eang hon o feysydd astudiaethau gwybodaeth yng nghyhoeddiadau’r staff, gwaith a arolygir ac a gyflwynir ar gyfer graddau PhD, MPhil a DProf; a thraethodau Meistr. Mae ein staff yn cydweithio â chydweithwyr mewn Sefydliadau Addysg Uwch eraill ac yn y sector proffesiynol i gynhyrchu papurau ar y cyd, a chyfraniadau eraill, yn ogystal â chyflawni swyddogaethau golygyddol mewn cyfnodolion academaidd blaenllaw.