Dysgu o Bell

Person studying in a library with laptop and notebook

Mae gan bawb eu ffordd eu hunain o astudio cyrsiau Dysgu o Bell.

Yn yr adran Astudiaethau Gwybodaeth rydym yn rhoi'r myfyriwr wrth galon y broses dysgu o bell. Gwyddom fod myfyrwyr sy'n dysgu o bell yn aml yn gorfod jyglo eu hastudiaethau â gwaith (cyflogedig neu wirfoddol), ymrwymiadau teuluol ac ymrwymiadau eraill, felly rydym yn ceisio bod mor hyblyg â phosibl i'ch helpu i symud ymlaen ac i lwyddo â'ch astudiaethau. Rydym felly wedi cynllunio ein rhaglenni dysgu o bell i gynnwys elfen o 'hyblygrwydd strwythuredig'. Mae hyn yn caniatáu rhywfaint o hyblygrwydd o fewn rhaglen astudio sydd wedi'i strwythuro a'i dilysu'n gadarn. Er enghraifft, gallwch gymryd peth amser i ffwrdd o'r cwrs pe bai amgylchiadau dros dro yn eich atal rhag astudio. Ar ben hyn, nid ydym yn rhoi terfynau amser ar gyfer aseiniadau; byddwch yn gweithio wrth eich pwysau ac yn pennu eich amserlen aseiniadau eich hun o fewn cyfnod y cwrs.

Cyrsiau Dysgu o bell a Modiwlau

Mae ein cyrsiau dysgu o bell yn cynnig Datblygiad Proffesiynol Parhaus i ddysgwyr israddedig ac uwchraddedig. Maent yn amrywio o Gyrsiau Byr a chyrsiau Tystysgrif, i Ddiplomâu, Graddau, a rhaglenni gradd Meistr.

Mae pob rhaglen yn cynnwys cyfres o 'fodiwlau' ac mae pob modiwl yn werth nifer penodol o gredydau. Mae'r modiwlau wedi'u cynllunio i gynnig trosolwg neu ddealltwriaeth fanwl o'r pwnc, yn dibynnu ar lefel a nifer y credydau. Rhennir modiwl yn unedau sy'n cynnwys ymarferion ac enghreifftiau ym mhob un i'ch galluogi i feddwl, i gymhwyso ac i brofi'r hyn yr ydych yn ei wybod wrth ichi ddysgu. Bydd rhai modiwlau yn rhai craidd y mae rhaid eu cwblhau yn rhan o'r cwrs. Bydd eraill yn fodiwlau dewisol y gellir eu dethol.

Cyflwyno Dysgu o bell

Ar ddechrau'ch astudiaethau dysgu o bell, byddwn yn eich cefnogi a'ch arwain er mwyn sicrhau eich bod yn gwybod sut i astudio'r rhaglen ac at bwy i droi i gael cyngor pellach. Rydym hefyd yn cynnig hyfforddiant ar sut i ganfod a defnyddio ein systemau cymorth ar-lein a'n hadnoddau, gan gynnwys ein Rhaglen Sefydlu Sgiliau (SkIP) benodol.

Dysgir ein cysiau dysgu o bell trwy gyfuniad o ddulliau, gan gynnwys modiwlau ar-lein, canllawiau astudio, gweithgareddau ac adnoddau, ysgolion preswyl a gweithdai, tiwtorialau dros y ffôn neu Skype, ymarferion myfyrio yn y gweithle, cefnogaeth gan diwtor personol ac academaidd. Caiff y modiwlau eu cynllunio ochr yn ochr â chanllawiau astudio ac ystod o weithgareddau ac adnoddau megis astudiaethau achos, cyfweliadau fideo a phodlediad, cwisiau, a gweithgareddau ar y cyd, er enghraifft grwpiau trafod ar-lein, gyda chyngor a chefnogaeth gan arbenigwr pwnc ynghylch y modiwl a'r asesiadau cysylltiedig.

Cofnodi cynnydd

Rydym y deall yn iawn bod angen cydbwysedd rhwng astudio a bywyd prysur, a'n nod yw cynnig cymaint o hyblygrwydd â phosib tra'n asesu'ch cynnydd ar sail targedau penodol. Mae dysgwyr o bell yn dilyn amserlen astudio a argymhellir er mwyn cwblhau'r rhaglen o fewn y cyfnodau canlynol:

  • 3 i 5 mlynedd ar y cwrs israddedig
  • 2* i 5 mlynedd ar ein cyrsiau uwchraddedig (*Sylwch: Rhaid cwblhau'r cyrsiau uwchraddedig P124D2, P132D2, a P194D2 a ariennir gan fenthyciadau i fyfyrwyr uwchraddedig o fewn 2 flynedd)

Chi fydd yn penderfynu sut i reoli'ch amser i raddau helaeth. Cyn belled eich bod yn cwblhau'r isafswm credydau bob blwyddyn, ac unrhyw raglen astudio a argymhellir, cewch reoli'ch amser astudio eich hun, gan gynnwys pryd i gyflwyno gwaith i'w asesu. Gall eich tiwtor personol eich helpu i gynllunio'ch astudio, a gall y Tîm Rhaglen eich helpu i gofnodi'ch cynnydd.

Mae ein rhagelnni dysgu o bell wedi'u strwythuro i gynnwys rhywfaint o hyblygrwydd o fewn cyfyngiadau amser cyffredinol y rhaglen. Er enghraifft, bydd myfyrwyr ddim bob amser yn gwneud y cynnydd y byddent yn ei ddymuno ac os oes amgylchiadau penodol sy'n effeithio ar gynnydd myfyriwr, mae'n bosib gwneud cais i dynnu'n ôl o'r cwrs dros dro neu i ymestyn y cyfnod cofrestru.

Terfynau amser yr aseiniadau

Nid ydym yn rhoi terfynau amser ar gyfer aseiniadau unigol. Byddwch yn gweithio wrth eich pwysau ac yn pennu eich amserlen aseiniadau eich hun i sicrhau eich bod yn cwblhau'r cwrs erbyn diwedd eich dyddiad cofrestru. Ceir targedau cynnydd a chynlluniau astudio i'ch helpu gyda hyn.

Llwyth gwaith

Yn gyffredinol, bydd modiwl 20 credyd yn gofyn am 200 awr o astudio. Yn ymarferol, gall hyn amrywio o fodiwl i fodiwl am nifer o resymau, gan gynnwys faint y mae myfyriwr yn gwybod am y pwnc, a dilyniant yr astudio.

Ysgolion Astudio

Mae'r mwyafrif helaeth o gyrsiau'n dechrau gydag ysgol astudio breswyl dros 3-4 diwrnod ym Mhrifysgol Aberystwyth. I gael rhagor o wybodaeth am ein Ysgolion Astudio, ewch i'r rhan yma o'r wefan: Ysgolion Astudio. Ar ôl cwblhau nifer benodol o gredydau modiwl, mae'n bosib y cynhelir ail ysgol astudio, a chynigir ysgol ymchwil bwrpasol ar rai rhaglenni i baratoi ar gyfer modiwl traethawd hir y rhaglen.

Opsiynau Ymadael

Ceir cyfleoedd i ymadael er mwyn derbyn Diploma neu Dystysgrif ar ein holl gyrisau uwchraddedig ac i ymadael â chyrsiau israddedig er mwyn derbyn Diploma.

Trefniadau talu

Os ydych yn ariannu'r cwrs eich hun, cewch ddewis talu fesul modiwl a gellir gwneud hynny yn y siop ar-lein. Os ydych yn cael eich noddi gan gyflogwr, caiff y ffioedd eu talu'n flynyddol dros gyfnod o dair blynedd.

Cyfathrebu

Ar ôl ichi gofrestru, byddwch yn gallu gweld adnoddau'r brifysgol, y rhaglen a'r modiwlau, a negeseuon e-bost trwy eich cyfrif Prifysgol Aberystwyth ar-lein.