Cyrsiau Byr DPP trwy Ddysgu o Bell Ar-lein

‌Rydym yn cynnig ystod ddethol o Gyrsiau Byr datblygu proffesiynol parhaus (DPP) drwy Ddysgu o Bell ar-lein.

Mae ein cyrsiau byr DPP wedi ennill ‘Cydnabyddiaeth Darparwr DPP CILIP’ sy’n cefnogi Sylfaen Gwybodaeth a Sgiliau Proffesiynol CILIP (PKSB)

Ein Cyrsiau

Cyrsiau Byr Arbenigol ar gyfer DPP a gynigir eleni:

Israddedig

    • (20 credyd israddedig)
    • (10 credyd israddedig)
    • (20 credyd israddedig)
    • (10 credyd israddedig)

Uwchraddedig

    • (20 credyd uwchraddedig)
    • (10 credyd uwchraddedig)
    • (20 credyd uwchraddedig)
    • (10 credyd uwchraddedig)
    • (10 credyd uwchraddedig)
    • (10 credyd uwchraddedig)
    • (10 credyd uwchraddedig)
    • (20 credyd uwchraddedig)

Buddion ein Cyrsiau

Mae ein Cyrsiau Dysgu o Bell byr ar gyfer Datblygu Proffesiynol Parhaus (DPP) yn rhai:

  • hyblyg — cewch gynllunio eich amserlen astudio eich hun ac astudio wrth eich pwysau (o fewn cyfnod y Cwrs Byr), a chewch ddewis i gwblhau elfen asesu ffurfiol y Cwrs Byr sydd â chredydau ynghlwm wrthi ai peidio.
  • y caiff eu hansawdd ei reoli – caiff y cyrsiau eu datblygu, eu golygu a’u llunio gan dîm o arbenigwyr pwnc ac arbenigwyr dysgu o bell, a sicrheir eu hansawdd drwy weithdrefnau adolygu’r Brifysgol a chyrff proffesiynol perthnasol.
  • y mae digonedd o gymorth ar gael ar eu cyfer – yn gymorth i’ch astudiaethau ar Gwrs Byr gyda ni mae tîm cefnogi cryf sy’n cynnwys tiwtor eich Cwrs Byr, cynghorwyr sgiliau astudio sy’n cynnig cymorth trwy wasanaeth sgiliau ar-lein, ystod helaeth y Brifysgol o adnoddau ar-lein, a sawl fforwm ar-lein sy’n cwrdd i sgwrsio â dysgwyr ar Gyrsiau Byr ac eraill sy’n dysgu o bell.
  • seiliedig ar waith — mae’r Cyrsiau Byr yn berthnasol o safbwynt proffesiynol a bwriedir iddynt ddatblygu eich gwybodaeth a’ch sgiliau ar gyfer gweithleoedd gwybodaeth arbenigol. Trwy gwblhau gweithgareddau ac ymarferion y Cwrs Byr cewch gyfle i adfyfyrio ar eich dysgu o safbwynt eich anghenion yn y gweithle.
  • rhyngweithiol – er eich bod yn astudio wrth eich pwysau, yn ystod eich astudiaethau byddwch yn cwblhau gweithgareddau hunan-adfyfyriol i asesu eich dealltwriaeth o’r pwnc, ac yn ymuno â thrafodaethau ac ymarferion ar-lein

Sut mae’r cyrsiau byr yn gweithio?

Mae Cyrsiau Byr DPP (10 credyd ac 20 credyd) yn rhedeg am hyd at chwe mis ar y tro.

Unwaith y byddwch wedi cofrestru ar y Cwrs Byr, cewch eich cyflwyno i’ch Tiwtor a chewch fynediad at ardaloedd cymorth pwrpasol ar-lein ar ein Hamgylchedd Dysgu Rhithwir. Yn yr Amgylchedd Dysgu Rhithwir bydd modd i chi gael mynediad i'r Cwrs Byr a lawrlwytho ei adnoddau dysgu a gynlluniwyd yn arbennig. Byddwch hefyd yn gallu cael cyngor a chymorth gyda sgiliau astudio, ynghyd ag ystod eang o adnoddau ar-lein a ddarperir gan y Brifysgol*.

Byddwch yn dewis eich amserlen astudio eich hun i gwblhau’r cwrs, o fewn y misoedd a ganiateir. Er enghraifft, mae hyn yn golygu y gallwch astudio modiwl 10 credyd mewn 6 wythnos (tua 16 awr yr wythnos o amser astudio) neu 5 mis (tua 4 awr yr wythnos o amser astudio).

Cewch hefyd ddewis a ydych am gwblhau’r elfen asesu ffurfiol sydd â chredydau ynghlwm wrthi ai peidio. Asesir y cyrsiau trwy waith cwrs yn unig, felly ni fydd yn rhaid i chi sefyll arholiadau. (Ni fydd angen gwneud penderfyniad ynglŷn â chwblhau'r asesiad nes ichi gael cyfle i ddechrau eich astudiaethau ar y Cwrs Byr).

Ar ddiwedd y cwrs byddwch naill ai’n derbyn ‘cofnod cyfranogi' neu ‘gofnod cwblhau’r cwrs’ sydd â chredydau ynghlwm wrtho, yn dibynnu a fyddwch yn cwblhau asesiad ffurfiol y Cwrs Byr yn llwyddiannus ai peidio.

*Sylwch:

  • nad yw’r Cyrsiau Byr hyn yn cynnig yr un ystod o adnoddau dysgu o bell sydd ar gael ar raglen radd, ac nid ydynt wedi'u hachredu’n unigol gan asiantaethau proffesiynol perthnasol
  • y gellir trosglwyddo rhai credydau DPP Cyrsiau Byr i gymhwyster cydnabyddedig, ee Rhaglen Meistr (yn ôl disgresiwn y Swyddog Derbyn) ond ni ellir adeiladu rhaglen radd o gredydau Cyrsiau Byr DPP yn unig.

Pwy all wneud cais?

Unrhyw un** sy’n gweithio mewn gwasanaethau archifau, llyfrgelloedd, llywodraethiant, gwybodaeth, neu wasanaethau cadw cofnodion cysylltiedig, y mae ganddynt:

  • ddiddordeb byw ym maes pwnc y cwrs
  • modd i ddefnyddio’r rhyngrwyd band eang
  • amser i astudio’r deunyddiau dysgu a chymryd rhan mewn gweithgareddau a thrafodaethau ar-lein.

**Sylwch y cynigir Cyrsiau Byr yn ôl disgresiwn y Swyddogion Derbyn, a fydd hefyd yn penderfynu ar lefel y cwrs a gynigir, hy lefel israddedig neu uwchraddedig.

Pryd alla i wneud cais?

Dyddiadau ymgeisio 2022-2023:

Dyddiad dechrau 1 Medi 2022 - y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 22 Awst 2022.

Dyddiad dechrau 1 Ionawr 2023 – y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 1 Rhagfyr 2022.

Dyddiad dechrau ar 1 Ebrill 2023 – y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 1 Mawrth 2023.

 

Faint mae'n ei gostio?

Ar gyfer mis Medi 2021, Ionawr 2022, ac Ebrill 2022, y ffioedd yw:

  • Ffi Cwrs Byr 10 credyd (israddedig ac uwchraddedig) -  £500 (Punnoedd Sterling)
  • Ffi Cwrs Byr 20 credyd (israddedig ac uwchraddedig)  - £900 (Punnoedd Sterling)

Sylwer: adolygir y ffioedd yn flynyddol; nid yw ffioedd 2022 wedi’u cadarnhau ar hyn o bryd.

Ynglŷn â’r ffioedd, sylwch:

  1. os ydych wedi derbyn cynnig o le - i gael mynediad at eich cwrs a'i ddechrau, bydd angen i chi gofrestru yn fyfyriwr, a phrynu’r cwrs drwy ein siop ar-lein (bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael cyngor ar sut i wneud hyn)
  2. os ydych yn cael nawdd ar gyfer y Cwrs Byr hwn (ee gan gyflogwr) - bydd angen i chi dalu ffi’r Cwrs Byr eich hun ac yna gofyn am ad-daliad yn uniongyrchol gan eich noddwr.

Sut i wneud cais

I wneud cais llenwch y Ffurflen Gais am Gwrs Byr.

Rhaid llenwi'r ffurflen hon a'i hanfon nôl - gyda'ch cyfeirnod - cyn gynted â phosibl naill ai i'r Swyddfa Derbyn Israddedigion neu'r Swyddfa Derbyn Graddedigion, gan ddibynnu ar eich dewis gwrs.

I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â'r Adran Astudiaethau Gwybodaeth ffôn:  (+/0)1970 622731 / 622189; e-bost: adran-aag@aber.ac.uk