Ffyrdd o Astudio gyda Ni

Mae astudio gyda ni yn cynnig llawer o fanteision, gan gynnwys arbenigedd pynciol a phroffesiynol ac amgylchedd astudio cynhwysol a chefnogol, waeth sut y dewiswch astudio.

Israddedig

Amser llawn neu ran-amser (ar y campws)

O 2022/23 byddwn yn cynnig cyfres o gynlluniau gradd newydd wedi eu seilio ar ein portffolio cyfredol a blynyddoedd o brofiad o ddysgu cyrsiau israddedig amser llawn a dysgu o bell. Mae’r rhain wedi eu cynllunio ar gyfer myfyrwyr sy’n dymuno gweithio tuag at gymhwyster ym meysydd eang gwyddor archifau, llyfrgell a gwybodaeth, ac yn cynnwys y cynlluniau gradd isod:

  • BA Cultural Heritage: Libraries, Archives and Museums
  • BA (Joint Hons) Information Studies
  • BSc Computer and Information Sciences
  • BSc Information Management

Mwy o wybodaeth am y cynlluniau gradd hyn

Chwilio am ein cyrsiau ar UCAS? Gwnewch yn siŵr eich bod yn chwilio o dan 2022/23 yn y dewis o gyrsiau.

Dysgu o Bell - BSc. Information and Library Studies

Gallwch ddilyn y cynllun gradd hyblyg hwn fel y mynnoch, a chwblhau’r radd rhwng 3 a 5 mlynedd. Mae’n ddelfrydol os nad ydych wedi bod i brifysgol/addysg uwch o’r blaen ond yn chwilio am gymhwyster wedi ei achredu’n broffesiynol i’ch helpu i wella eich gyrfa. Rhan annatod o’r cwrs yw datblygu sgiliau astudio, fydd yn helpu i feithrin hyder a gallu wrth wneud gwaith ymchwil academaidd, cynllunio ac ysgrifennu, yn cynnwys prosiect traethawd estynedig terfynol, byr. 

Mae’r Adran Astudiaethau Gwybodaeth yn darparu Dysgu o Bell yn y modd hwn ers dros 30 mlynedd, a llwyddodd miloedd o fyfyrwyr i gwblhau cymhwyster sydd wedi ei achredu’n broffesiynol. Fe’i cynlluniwyd i gyd-fynd â bywyd gwaith/teuluol prysur ac mae’n caniatáu’r dewis a’r hyblygrwydd eithaf, gan gynnig hefyd lwybr strwythuredig clir, gyda chefnogaeth, at gymhwyso. Mae’n bosibl cwblhau’r cwrs mewn dwy flynedd. Fel rheol, dylech fod yn gweithio yn y sector gwybodaeth (llyfrgelloedd, archifau, swyddfa cofnodion, rheoli gwybodaeth) ond, da chi, cysylltwch â ni os oes gennych gwestiynau ynglŷn â hyn.

Mwy o Wybodaeth am Ddysgu o Bell

Chwilio am ein cyrsiau ar UCAS? Gwnewch yn siŵr eich bod yn chwilio o dan 2022/23 yn y dewis o gyrsiau.

Uwchraddedig

Cynigir cynlluniau gradd uwchraddedig amser llawn neu ran-amser (ar y campws) a rhaglenni dysgu o bell. Cynigir y cynlluniau isod:

  • MA/PG Dip. Archives and Records Management
  • MSc/PG Dip. Digital Information and Media Management
  • MA/PG Dip. Information and Library Studies

Amser llawn neu ran-amser (ar y campws)   

Bydd llawer o fyfyrwyr yn dilyn y llwybr hwn ar ôl cwblhau eu gradd gyntaf, neu ar ôl gwneud lleoliad hyfforddi graddedigion, interniaeth neu waith gwirfoddol; neu gall rhai myfyrwyr fod yn ystyried newid eu gyrfa ar ôl sawl blwyddyn yn y gweithle. Mae Prifysgol Aberystwyth yn gymuned fach, fywiog a chyfeillgar a chanddi berthynas agos â’r dref, Llyfrgell Genedlaethol Cymru gyfagos a sefydliadau gwybodaeth a chadwraeth pwysig eraill. Bydd angen peth profiad o weithio mewn llyfrgell, archifdy neu’r sector gwybodaeth arnoch (a gallwch wneud hynny drwy waith gwirfoddol).

Rydym yn sylweddoli bod cael profiad o weithio yn ystod y pandemig Covid-19 yn gallu bod yn heriol ond, da chi, cysylltwch â ni os oes gennych gwestiynau ynglŷn â hyn. 

Ein Cyrsiau

Dysgu o bell (cofrestru am 2-5 mlynedd)

Gallwch ddilyn y cynllun gradd hyblyg hwn fel y mynnoch, a chwblhau’r radd rhwng 2 a 5 mlynedd. Mae’r Adran Astudiaethau Gwybodaeth yn darparu Dysgu o Bell yn y modd hwn ers dros 30 mlynedd, a llwyddodd miloedd o fyfyrwyr i gwblhau cymhwyster sydd wedi ei achredu’n broffesiynol. Fe’i cynlluniwyd i gyd-fynd â bywyd gwaith/teuluol prysur ac mae’n caniatáu’r dewis a’r hyblygrwydd eithaf, gan gynnig hefyd lwybr strwythuredig clir, gyda chefnogaeth, at gymhwyso. Mae’n bosibl cwblhau’r cwrs mewn dwy flynedd.

Fel rheol, dylech fod yn gweithio yn y sector gwybodaeth (llyfrgelloedd, archifau, swyddfa cofnodion, rheoli gwybodaeth) ond, da chi, cysylltwch â ni os oes gennych gwestiynau ynglŷn â hyn.

Mwy o wybodaeth am Ddysgu o Bell

Dysgu o bell (cwrs 2 flynedd – ar gyfer myfyrwyr sy’n cael eu hariannu trwy Fenthyciadau Myfyrwyr Meistr Uwchraddedig y DU yn unig)

Mae’r cyrsiau MA dwy flynedd mewn Information and Library StudiesRecords Management yn gymwys ar gyfer Benthyciadau Myfyrwyr Meistr Uwchraddedig y DU. Mae cynnwys a strwythur modiwlau’r cyrsiau hyn yr un â’r cynllun 2-5 mlynedd uchod. Fodd bynnag, rhaid cwblhau’r cwrs o fewn cyfnod o ddwy flynedd yn unol â gofynion y Benthyciadau Meistr Uwchraddedig.

Mwy o Wybodaeth am Ddysgu o Bell