Croeso
Croeso i'r Adran Astudiaethau Gwybodaeth.
Mae gan yr Adran dros 50 mlynedd o brofiad o gynnig addysg a hyfforddiant i'r proffesiwn gwybodaeth, gan gynnwys 30 mlynedd o brofiad mewn dysgu o bell. Rydym yn cynnig dewis helaeth o gyrsiau, gan gynnwys:
- Astudiaethau Treftadaeth Ddiwylliannol: Llyfrgelloedd, Archifau ac Amgueddfeydd
- Astudiaethau Gwybodaeth a Llyfrgellyddiaeth
- Archifau a Rheoli Cofnodion
- Cadwraeth Ddigidol
- Rheoli Gwybodaeth a Chyfryngau Digidol
Yn 2021 mae'r Adran yn cynnig rhaglenni israddedig newydd ym meysydd: Astudiaethau Treftadaeth Ddiwylliannol, Llyfrgelloedd, Archifau ac Amgueddfeydd.
Ceir amrywiaeth o opsiynau astudio, gan gynnwys:
- Graddau Israddedig, astudiaethau uwchraddedig Meistr a PhD
- Astudiaethau amser llawn a rhan-amser ar y campws
- Dysgu o bell - gallwch astudio am gymhwyster proffesiynol tra eich bod yn y gweithle (o fewn 2 flynedd neu dros 2-5 mlynedd)
- Cyrsiau byr ar-lein ar gyfer Datblygiad Proffesiynol Parhaus (DPP)
Mae pob un o'n cynlluniau gradd uwchraddedig wedi’u hachredu gan Sefydliad Siartredig Llyfrgellwyr a Gweithwyr Gwybodaeth (CILIP) a/neu Gymdeithas Archifau a Chofnodion y DU ac Iwerddon (ARA). Mae hyn yn golygu y gallwch fod yn gwbl hyderus y byddwch yn cael addysg ragorol, cymorth academaidd o'r radd flaenaf, a chymhwyster sydd wedi'i hachredu'n broffesiynol ar ddiwedd eich astudiaethau.
Ategir arbenigedd y staff gan gysylltiadau proffesiynol agos, yn lleol ac yn genedlaethol fel ei gilydd. Gwneir cyfraniadau at waith dysgu, gwaith ymarferol a phrosiectau ymchwil gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru, swyddfeydd cofnodion lleol, gwasanaethau llyfrgell y Brifysgol, a sefydliadau cof cenedlaethol fel y Llyfrgell Brydeinig, yn ogystal â chyd-aelodau o'r Gynghrair Cadwraeth Ddigidol.
Edrychaf ymlaen at eich croesawu i'r Adran yn y dyfodol.
Dr Anoush Simon
Pennaeth yr Adran