Trobwyntiau hinsoddol: prawf cyntaf o ‘fflachiadau’ rhybudd cynnar
13 Mai 2024
Mae tystiolaeth o newid rhwng cyfnodau o sychder eithafol a glaw trwm cyn trobwyntiau hinsoddol mawr wedi'i chanfod am y tro cyntaf mewn gwaddodion llyn hynafol.
Datrys dirgelwch twyni tywod ‘seren’ gyda darganfyddiad hynafol
04 Mawrth 2024
Mae gwyddonwyr wedi datrys absenoldeb dirgel twyni siâp seren o hanes daearegol y Ddaear am y tro cyntaf, gan ddyddio un yn ôl miloedd o flynyddoedd.
£5 miliwn o gyllid i fynd i’r afael â heriau sy’n wynebu cymunedau gwledig Cymru
13 Chwefror 2024
Mae partneriaeth a arweinir gan Brifysgol Aberystwyth wedi derbyn dros £5 miliwn o gyllid i ymchwilio ac archwilio atebion i heriau gwledig.
Storm y Royal Charter 1859: y sbardun ddinistriol ar gyfer creu'r rhagolygon tywydd i forwyr
25 Hydref 2023
Mewn erthygl yn The Conversation, mae Dr Cerys Jones o’r Adran Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear yn trafod Storm y Royal Charter 1859, a’i effaith barhaol ar ragolygon tywydd y Deyrnas Gyfunol a thu hwnt.
Prifysgol Aberystwyth yn dangos ymchwil i Weinidogion yn Llundain
24 Hydref 2023
Mae gwyddonwyr o Brifysgol Aberystwyth wedi trafod eu hymchwil gyda Gweinidogion Llywodraeth y Deyrnas Gyfunol mewn digwyddiad yn Llundain yn arddangos y gorau o ymchwil ac arloesi Cymru.
Beth fydd yn digwydd i len iâ yr Ynys Las os byddwn yn methu ein targedau cynhesu byd-eang
19 Hydref 2023
Mewn erthygl ar gyfer The Conversation, mae'r Athro Bryn Hubbard o'r Adran Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear yn son am astudiaeth newydd sy'n awgrymu y bydd yr iâ yn goroesi os yw'r tymheredd yn dod yn ôl i lawr yn fuan.
Ni ddaeth Maen Allor Côr y Cewri o Gymru – ymchwil
17 Hydref 2023
Mae ansicrwydd am darddiad y “garreg las” fwyaf sydd yng nghanol Côr y Cewri yn sgil ymchwil newydd o Brifysgol Aberystwyth.
Dau ddeg tri miliwn yn agored i lygredd mwyngloddio metel - astudiaeth
22 Medi 2023
Credir bod dau ddeg tri miliwn o bobl o amgylch y byd yn cael ei heffeithio gan groniadau gwastraff gwenwynig a all fod yn beryglus, yn ôl astudiaeth newydd.
Archeolegwyr yn darganfod strwythur pren hynaf y byd
20 Medi 2023
Hanner miliwn o flynyddoedd yn ôl, yn gynt nag a dybiwyd yn flaenorol, roedd bodau dynol yn adeiladu strwythurau o bren, yn ôl ymchwil newydd gan dîm o Brifysgol Lerpwl a Phrifysgol Aberystwyth.
Mae terfyn cyflymder preswyl Cymru yn gostwng i 20mya - dyma sut y dylai effeithio ar ddamweiniau ac amseroedd teithio
15 Medi 2023
Mewn erthygl yn The Conversation, mae'r Athro Seicoleg Charles Musselwhite a'r Athro Daearyddiaeth Ddynol, Peter Merriman, yn trafod y gostyngiad yn nherfyn cyflymder preswyl Cymru i 20mya a sut y dylai effeithio ar ddamweiniau ac amseroedd teithio.