Côr y Cewri wedi'i adeiladu i uno pobl Prydain hynafol o bosibl
Maen yr Allor, a welir yma o dan ddwy garreg 'Sarsen'. Credyd: Yr Athro Nick Pearce, Prifysgol Aberystwyth.
18 Rhagfyr 2024
Mae’r darganfyddiad diweddar fod un o gerrig Côr y Cewri wedi tarddu o’r Alban yn cefnogi’r ddamcaniaeth bod y cylch cerrig wedi’i adeiladu fel cofeb i uno ffermwyr cynnar Prydain bron i 5,000 o flynyddoedd yn ôl, yn ôl astudiaeth newydd gan ymchwilwyr yn UCL a Phrifysgol Aberystwyth.
Mewn erthygl ymchwil a gyhoeddwyd yn y cyfnodolyn Archaeology International, mae academyddion yn dadansoddi arwyddocâd y darganfyddiad diweddar fod Maen yr Allor, sy’n pwyso chwe thunnell, yn tarddu o’r Alban, gan gadarnhau bod yr holl gerrig sy'n ffurfio Côr y Cewri wedi'u cludo i Wastadedd Caersallog o filltiroedd lawer i ffwrdd.
Yn eu papur newydd, dywed yr ymchwilwyr fod cysylltiadau pellter hir Côr y Cewri yn cryfhau’r ddamcaniaeth y gallai fod gan yr heneb Neolithig ryw ddiben uno yn y Brydain hynafol.
Dywedodd yr awdur arweiniol yr Athro Mike Parker Pearson o Sefydliad Archaeoleg UCL: “Mae’r ffaith bod ei holl gerrig yn tarddu o ranbarthau pell, sy’n ei wneud yn unigryw ymhlith dros 900 o gylchoedd cerrig ym Mhrydain, yn awgrymu bod pwrpas gwleidyddol yn ogystal â chrefyddol i’r cylch cerrig – fel cofeb sy’n uno pobloedd Prydain, gan ddathlu eu cysylltiadau tragwyddol â’u hynafiaid a’r cosmos.”
Meddai’r cyd-awdur, yr Athro Richard Bevins o Brifysgol Aberystwyth: “Mae’n braf iawn bod ein hymchwiliadau daearegol yn gallu cyfrannu at yr ymchwil archeolegol a’r stori sy’n datblygu wrth i’n gwybodaeth ni wella mor sydyn yn y blynyddoedd diwethaf yn unig.
“Mae ein hymchwil fel gwyddoniaeth fforensig. Rydym ni’n dîm bach o wyddonwyr daear, pob un yn dod â'i faes arbenigedd ei hunain; y cyfuniad hwn o sgiliau sydd wedi ein galluogi i adnabod ffynonellau’r cerrig gleision, a Maen yr Allor nawr.”
Mae’r astudiaeth wedi’i chyhoeddi (ar 20 Rhagfyr) y diwrnod cyn heuldro’r gaeaf, pan fo’r machlud yn disgyn o dan y gorwel dros ganol Maen yr Allor a rhwng y ddwy garreg unionsyth fwyaf (y mae un ohonynt bellach wedi cwympo). Yn ystod cyfnod hwn o’r gaeaf, roedd pobl Neolithig yn gwledda’n agos at Gôr y Cewri ym mhentref mawr Durrington Walls, ac mae’n debyg bod heuldro canol y gaeaf yn ganolog i’r digwyddiadau hyn.
Mae Côr y Cewri yn enwog am yr aliniadau solar hyn ar yr heuldro a hyd yn oed heddiw mae'n denu torfeydd mawr i'r safle ar ddyddiau byrraf a hiraf y flwyddyn. Yn ogystal, dyma hefyd oedd y fynwent fwyaf o'i oes. Mae rhai archeolegwyr yn meddwl y gallai fod wedi bod yn deml grefyddol, yn arsyllfa hynafol a chalendr solar, ac mae'r ymchwil newydd hon yn ychwanegu dimensiwn gwleidyddol.
Ychwanegodd yr Athro Parker Pearson, Athro Cynhanes Diweddarach Prydain: “Mae wedi bod yn hysbys i ni ers tro bod pobl wedi dod o lawer o wahanol rannau o Brydain gyda’u moch a’u gwartheg i wledda yn Durrington Walls, ac roedd bron i hanner y bobl a gladdwyd yng Nghôr y Cewri wedi byw yn rhywle heblaw i Wastadoedd Caersallog.
“Mae’r tebygrwydd mewn pensaernïaeth a diwylliant materol rhwng ardal Côr y Cewri a gogledd yr Alban bellach yn gwneud mwy o synnwyr. Mae wedi helpu i ddatrys y pos pam fod gan y lleoedd pell hyn fwy yn gyffredin nag y gallem ni fod wedi meddwl ar un adeg.”
Daethpwyd â 43 o ‘gerrig gleision’ Côr y Cewri o Fynyddoedd y Preseli yng ngorllewin Cymru rhyw 140 milltir i ffwrdd, tra bod y cerrig ‘Sarsen’ mwy yn cael eu cludo o’u ffynonellau o leiaf 15 milltir i ffwrdd i’r gogledd a’r dwyrain o’r cylch cerrig.
Roedd cludo'r monolithau enfawr hyn yn orchest ryfeddol. Er bod yr olwyn wedi'i dyfeisio, nid oedd wedi cyrraedd Prydain eto felly mae'n rhaid bod symud y cerrig anferth hyn wedi gofyn am ymdrechion cannoedd os nad miloedd o bobl.
Mae'r ymchwilwyr yn tynnu sylw at sut mae Maen yr Allor llorweddol Côr y Cewri yn debyg o ran maint a lleoliad i gerrig mawr, llorweddol cylchoedd cerrig gogledd-ddwyrain yr Alban, o le tarddodd Maen yr Allor.
Dim ond yn y rhan honno o’r Alban y mae’r ‘cylchoedd cerrig gorweiddiog’ hyn i’w cael ym Mhrydain, felly mae’n bosibl bod cysylltiadau agos rhwng y ddau ranbarth. Roedd gan gerrig megalithig arwyddocâd hynafol, gan glymu pobl ati le a tharddiad. Mae’n bosibl bod Maen yr Allor wedi’i gyflwyno fel anrheg gan bobl gogledd yr Alban i gynrychioli rhyw fath o gynghrair neu gydweithio.
Mae'n anodd nodi dyddiad penodol pan ddaethpwyd â Maen yr Allor yr Alban i Gôr y Cewri, ond mae'n debyg iddi gyrraedd tua 2500 Cyn y Cyfnod Cyffredin (CCC) tua'r amser y cafodd Côr y Cewri ei ailfodelu o'i ffurf wreiddiol.
Dyma’r cyfnod pan gododd yr adeiladwyr Neolithig y cerrig sarsen mawr a ffurfio cylch allanol a’r bedol fewnol o drilithonau – pâr o gerrig unionsyth wedi’u cysylltu â ‘linteli’ llorweddol – sydd yno heddiw. Mae Maen yr Allor yn gorwedd wrth droed y trilithon mwyaf, sy'n fframio machlud heuldro canol gaeaf i'r de-orllewin. Hwn oedd ail gam y gwaith adeiladu yng Nghôr y Cewri, ymhell ar ôl y cam cyntaf (tua 3000 CCC) pan gredir i'r cerrig gleision o Gymru gael eu codi.
Adeiladwyd yr ail gam Côr y Cewri ar adeg o gyswllt cynyddol rhwng pobl Prydain a'r rhai oedd yn cyrraedd o Ewrop, yn bennaf o'r Iseldiroedd a'r Almaen fel y maent yn cael eu hadnabod heddiw. Mae'r ymchwilwyr yn awgrymu efallai mai'r cyfnod hwn o gyswllt a ysgogodd yr ail-gam hwn o ailadeiladu, a bod y gofeb yn ymateb i'r newydd-ddyfodiaid hyn gyda’r bwriad o uno Prydeinwyr brodorol.
Daeth y newydd-ddyfodiaid â gwybodaeth am waith metel a’r olwyn gyda hwy, a thros y pedwar can mlynedd nesaf, disodlodd eu disgynyddion – a adwaenid fel y bobl Bicer oherwydd y potiau nodedig a gladdwyd gyda’u meirw – boblogaeth frodorol Prydain yn raddol, a daeth pobl â'r llinach Ewropeaidd hon yn brif boblogaeth ar draws yr ynys.
Cefnogwyd yr ymchwil ddaearegol gan Ymddiriedolaeth Leverhulme.